Ewch i’r prif gynnwys

ComFlex

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Diffinio a mesur hyblygrwydd cyfathrebu ar gyfer logisteg glyfar.

Prif nod y prosiect hwn yw datblygu a dilysu'r cysyniad o hyblygrwydd cyfathrebu a alluogwyd gan dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yng nghyd-destun logisteg.

Mae'r prosiect Grant Cyntaf – a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) y DU – yn edrych ar gysylltiadau rhyng-sefydliadaol a chysylltiadau trosglwyddo gwybodaeth aml-fodd er mwyn archwilio i dechnolegau o bwys sy'n dod i'r amlwg ym maes logisteg, a’u hatgyfnerthu. Mae'r rhain yn cynnwys technolegau olrhain amser real, sy'n defnyddio System Leoli Fyd-eang (GPS) ac RFID, a marchnadoedd logisteg electronig sy'n seiliedig ar atebion cyfrifiadura cwmwl.

O'u defnyddio ar wahân neu ar y cyd, bydd y technolegau hyn yn hwyluso sefydliadau i gyfathrebu â’i gilydd ar wahanol lefelau. Prif allbwn yr ymchwiliad hwn fydd dull asesu a mesur hyblygrwydd cyfathrebu. Bydd yn galluogi sefydliadau i bennu costau a buddiannau buddsoddi mewn isadeiledd TGCh mewn perthynas â pherfformiad logisteg o ran costau, effeithiolrwydd, ymatebolrwydd ac allyriadau carbon.

Allbynnau'r Prosiect

Cyhoeddiadau

Papurau mynediad agored diweddar (o dan drwydded CC-BY)

Llyfr

Ariannydd

EPSRC logo