Ewch i’r prif gynnwys

Yeo Valley – Gwella Hyblygrwydd y Gadwyn Gyflenwi

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi partneru â Yeo Valley, cynhyrchydd llaeth organig mwya’r DU, er mwyn gweithio ar brosiect i wneud systemau rhagweld, cynllunio ac adlenwi’r cwmni’n fwy effeithlon.

Mae’r bartneriaeth dros ddwy flynedd yn gadael i’r Ysgol ac Yeo Valley gynnal ymchwil i weithredu’n hyblyg ac yn wydn yn ogystal â strategaethau am reoli’r gadwyn gyflenwi.

Bydd y prosiect yn nodi amrywiaeth o strategaethau, gwelliannau ac arloesiadau a fydd er lles Yeo Valley a’i gadwyn gyflenwi leol.

Bydd cydymaith ymchwil y prosiect, Xia Meng (Summer), yn gweithio’n agos gyda Yeo Valley am ddwy flynedd y prosiect ac yn cydweithio â thîm Ysgol Busnes Caerdydd. Drwy gydol y prosiect, mae’n debygol y bydd cyfres o weithdai'n cael eu cynnal gydag amryw randdeiliaid o Yeo Valley, yn ogystal â’u cadwyn gyflenwi estynedig (cyflenwyr a chwsmeriaid).

Ar hyn o bryd, mae Yeo Valley’n cyflogi dros 1,800 o bobl a dyma astudiaeth achos ardderchog o sut mae brand wedi ffynnu o ran busnes gan gadw ei ddilysrwydd a chefnogi gwerthoedd cynhyrchwyr organig lleol.

Mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar weithio’n lleol, yn gynaliadwy ac er budd cymdeithas. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â chenhadaeth gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth

Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect hwn drwy gysylltu â phrif academyddion Ysgol Busnes Caerdydd:

Dr Laura Purvis

Dr Laura Purvis

Senior Lecturer in Logistics and Operations Management

Email
purvisl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9368

Ariannwr

Logo of Yeo Valley