Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae CAMSAC yn cymryd safbwynt cyfannol, amlddisgyblaethol tuag at systemau gweithgynhyrchu sy'n ystyried y gadwyn werth gweithgynhyrchu gyfan, gan gwmpasu’r cynnyrch cyflawn a chylch bywyd y broses.

Mae'r meysydd penodol o arbenigedd yn cynnwys:

  • Technolegau gweithgynhyrchu uwch
  • Systemau deallus sy'n seiliedig ar wybodaeth
  • Logisteg
  • Micro a nano-weithgynhyrchu
  • Rheoli gweithrediadau
  • Systemau deallus
  • Cadwyni a rhwydweithiau cyflenwi
  • Gweithgynhyrchu cynaliadwy

Defnyddir yr arbenigedd hwn ar draws ystod eang o is-sectorau gweithgynhyrchu gan gynnwys awyrofod, moduro, bwyd, gofal iechyd a diwydiannau gweithgynhyrchu gwerth uchel eraill. 

Rydym hefyd yn ystyried bod llawer o dechnoleg a phrosesau adeiladu arloesol, yn enwedig rhai sy'n cynnwys defnyddio gweithgynhyrchu ffatri oddi ar y safle, o fewn ein cylch gwaith. 

At hynny, mae ein diddordebau’n ymestyn i ddysgu traws-sector ac i ardaloedd ymchwil sy'n rhychwantu cadwyni cyflenwi estynedig a sectorau gwasanaeth y mae'r rhain yn sail iddynt, er enghraifft manwerthu a materion ynghylch datblygu’r gallu i gyflenwi gwasanaethau o fewn diwydiannau gweithgynhyrchu.