Ewch i’r prif gynnwys

Team Precision

Cymharu efelychiad a mapio ffrwd gwerthoedd ar gyfer cynllun celloedd.

Mae TEAM Precision Pipe Assemblies Ltd., yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o gydosodiadau gwaith pibellau manwl, cymhleth ar gyfer systemau gwresogi, awyru, ac aerdymheru a chydrannau trin hylif eraill ar gyfer y diwydiant moduron.

Llun o gynllun celloedd cynhyrchu Team Precision cyn i’r ymchwil gael ei chynnal.
Llun o gynllun celloedd cynhyrchu Team Precision cyn i’r ymchwil gael ei chynnal.

Mae TEAM Precision yn cynhyrchu dros bum miliwn o rannau bob blwyddyn; mae’r cydosodiadau pibellau hyn yn cael eu cyflenwi i amrywiaeth o gwmnïau gan gynnwys Aston Martin a Bentley. Diben y prosiect ymchwil ar y cyd oedd cefnogi’r cwmni i werthuso gallu prosesu y systemau sy’n bodoli eisoes er mwyn canfod y perfformiad is-optimaidd presennol. Roedd yr ymchwil hefyd yn gwella’r amseroedd arwain trwy’r prosesau gweithredu.

Heriau

Mae cydosodiadau pibellau sy’n cael eu gweithgynhyrchu gan TEAM Precision yn osodiadau pen wedi’u peiriannu. Maent yn cael eu hystwytho neu eu plygu i fodloni gofynion y cwsmer. Mae’r cwmni o dan bwysau cystadleuol gan economïau cost isel a chwsmeriaid er mwyn bodloni safonau ansawdd llym ochr yn ochr â chynnal costau uned isel.

Roedd TEAM Precision yn awyddus i ganfod a gweithredu gwelliannau mewn amser ac ansawdd, a lleihau’r angen am arolygu parhaus oedd yn cael effaith ar y llinell gynhyrchu ac yn ei gwneud yn llai effeithiol.

Cynllun celloedd cynhyrchu Team Precision cyn y prosiect
Cynllun celloedd cynhyrchu Team Precision cyn y prosiect

Roedd ASTUTE 2020 wedi ein helpu'n aruthrol i ddechrau ar ein taith rhagoriaeth weithredol.

Lee Davies Uwch-beiriannydd Darbodus, Team Precision Pipe Assemblies Ltd.

Ateb

Nododd ASTUTE 2020 gyfleoedd allweddol ar gyfer mapio'r gweithrediadau yn y cyflwr presennol, ynghyd â chynllunio senarios yn y dyfodol, gan ddefnyddio technegau sy'n cynnwys mapio ffrwd gwerthoedd (VSM) ac efelychiadau digwyddiad unigol o'r broses weithgynhyrchu.

Gwnaeth ASTUTE 2020 gefnogi TEAM Precision i arsylwi a chefnogi ymarfer VSM. Roedd hyn yn cofnodi'r llif o wybodaeth neu ddeunyddiau sydd eu hangen yn eu cell cynhyrchu. Roedd cynhyrchu a datblygu modelau o'r fath yn galluogi'r cwmni i edrych ar senarios a chael gwell dealltwriaeth o broses.

Effaith

Roedd cyflwyno celloedd cynhyrchu newydd yn galluogi TEAM Precision i wneud y gorau o gyfluniad ac effeithlonrwydd offer a llafur. Gostyngwyd amseroedd arweiniol yn sylweddol a rhyddhawyd lle ar lawr  y ffatri, gan alluogi buddsoddiadau mewn cyfleusterau cynhyrchu newydd yn y dyfodol.

Roedd trosglwyddo gwybodaeth ddwyffordd yn galluogi peirianwyr y cwmni i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a'r gofynion ar gyfer arbenigedd. Mae’r ymchwil gymharol wedi dangos bod cyfuno rhagoriaeth weithredol gydag efelychu a chael hyd i synergeddau wedi galluogi’r prosesau hyn i ategu ei gilydd mewn amgylchedd diwydiant 4.0.

Roedd buddion ychwanegol sy'n deillio o'r cydweithio yn cynnwys:

  • Cyfraddau sgrapio llai
  • Allbynnau ynni llai
  • Cynnydd yn nhrosiant y cwmni
  • Cyfle i brynu offer newydd
  • Ad-drefnu llinell gynhyrchu.

Mae'r cydweithio wedi galluogi TEAM Precision i barhau i ddatblygu arbenigedd a phrofiad mewn maes nad oedd ganddynt lawer o wybodaeth flaenorol ynddo. Bydd yn parhau i yrru cynhyrchiant gweithgynhyrchu'r cwmni yn y dyfodol.

Fe wnaeth ASTUTE 2020 helpu Team Precision i roi cell cynhyrchu newydd ar waith yn llwyddiannus.

Dr Anthony Soroka Senior Project Officer

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon, cysylltwch ag Anthony Soroka SorokaAJ@cardiff.ac.uk