Ewch i’r prif gynnwys

Y Rhwydwaith Nexus Lleol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Y Rhwydwaith Nexus Lleol

Adeiladu rhwydweithiau lleol a chynaliadwy o fwyd, ynni a dŵr: o beirianneg glyfar i ffyniant a rennir.

Mae Dr Laura Purvis, ymchwilydd CAMSAC yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi derbyn grant gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)  a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i wneud ymchwil yn rhan o’r Rhwydwaith Nexus Lleol ar Weithgynhyrchu a Ail-ddosberthir.

Mae'r Rhwydwaith Nexus Lleol (LNN) yn un o'r chwe phrosiect ymchwil 24 mis o hyd ar Weithgynhyrchu a Ail-ddosberthir a ariennir gan EPSRC ac ESRC a gychwynnodd ddechrau 2015. Mae rhwydweithiau lleol yn cyfeirio at y cysylltiad rhwng systemau bwyd mwy lleol a chyflenwadau ynni a dŵr datganoledig.

Mae LNN yn canolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau lleol o weithgynhyrchu bwyd ochr yn ochr â chyflenwi ynni a dŵr. Gall y cysylltiadau hyn gynnig cyfleoedd i addasu sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio, eu cynhyrchu er mwyn diwallu’r gwasanaethau sydd eu hangen mewn cyd-destun lleol.

Gallant hefyd gyfrannu at y ffyniant a rennir rhwng busnesau a chymunedau a rhwng cymdeithas ddynol ac ecosystemau naturiol. Mae hyn yn golygu newid cymhleth a sylweddol, sy'n gofyn am beirianneg deallus (technolegau ar raddfa lai, prosesau integredig), a sbardunau gan fusnesau, cymunedau a llunwyr polisïau, i droi potensial rhwydweithiau lleol yn realiti economaidd a chymdeithasol.

Arianwyr