Ewch i’r prif gynnwys

Y Porth Cymunedol: Ysgol Busnes Caerdydd yn partneru gyda Threlluest (Grangetown)

Grangetown Business Forum

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi datblygu partneriaeth hirdymor gyda thrigolion a busnesau yn Nhrelluest yn rhan o'r Porth Cymunedol, prosiect ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd.

Y Porth Cymunedol yn trefnu partneriaethau rhwng Prifysgol Caerdydd a’r gymuned yn Nhrelluest. Mae wedi lansio dros 85 o brosiectau rhwng y gymuned a’r brifysgol, gan greu cysylltiadau rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol a thrigolion Trelluest i helpu i wireddu syniadau a sbardunwyd gan y gymuned.

Yr ardal hon yng nghanol y brifddinas yw'r ardal etholiadol fwyaf ac un o'r mwyaf amrywiol yn ddiwylliannol yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda thrigolion i weld a chlywed am eu cariad tuag at eu cymuned yn ogystal â'u huchelgeisiau ar gyfer ei dyfodol. Maent wedi nodi naw thema ar gyfer buddsoddi mewn partneriaethau yn y dyfodol sydd wedi llywio'r hyn sydd wedi dilyn.

Cysylltiad Ysgol Busnes Caerdydd

Ers 2015, mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect dylanwadol yn rhan o raglen y Porth Cymunedol. Mae'r rhain wedi canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau a chefnogi busnesau lleol Trelluest.

Mae'r prosiect hefyd wedi bod yn llwyfan werthfawr i'n myfyrwyr wella eu sgiliau. Drwy gymryd rhan mewn prosiectau busnes byw, mae myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol o'u cyrsiau ar waith mewn senarios yn y byd go iawn tra'n cyfrannu at y gymuned leol mewn modd ystyrlon.

"Mae partneriaeth Ysgol Busnes Caerdydd â chymuned Trelluest yn enghraifft wych o addysg gwerth cyhoeddus ar waith. Mae gweithio gyda'r Porth Cymunedol wedi darparu ffordd amhrisiadwy o integreiddio gwaith prosiect byw a dysgu drwy brofiad i addysgu yn yr ysgol busnes ar lefel israddedig ac ôl-raddedig tra hefyd yn darparu templed ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng cwmnïau a'r gymuned at y dyfodol."
Yr Athro Eleri Rosier Senior Lecturer in Marketing and Strategy

Siopa a gweithio'n lleol yn Nhrelluest

Mewn ymateb i'r dyheadau a leisiwyd gan drigolion Trelluest ar gyfer economi leol fywiog, helpodd Ysgol Busnes Caerdydd i sbarduno’r prosiect 'Siopa a Gweithio’n Lleol'.

Y nod yw gweld cymuned ffyniannus gyda chynnyrch, siopau a busnesau safonol sy'n annog pobl i siopa a gweithio'n lleol ac ail-fuddsoddi yn yr ardal.

Mae'r prosiect wedi cyflwyno nifer o fentrau allweddol:

Fforwm Busnes

O dan arweiniad yr Athro Eleri Rosier, ochr yn ochr â Steve Duffy, un o drigolion Trelluest, cymerodd 250 o fyfyrwyr israddedig ran mewn aseiniad prosiect byw. Trwy ymchwil i'r farchnad, lluniodd myfyrwyr argymhellion ar gyfer datblygu Fforwm Busnes yn Nhrelluest.

Yna cafodd yr awgrymiadau hyn eu mireinio gan fyfyrwyr Marchnata Strategol (MSc) trwy astudiaeth ddichonoldeb fanwl, gan arwain at sefydlu'r Fforwm Busnes cyntaf. Ers ei sefydlu yn 2017, mae'r fforwm wedi darparu llwyfan i fusnesau lleol gydweithio a dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau.

Map busnesau Trelluest

Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb fanwl gan fyfyrwyr Marchnata Strategol (MSc), crëwyd Map Busnesau annibynnol Trelluest gan restru 22 o fusnesau lleol. Nod y fenter hon, a sbardunwyd yn sgil trafodaethau yn y Fforwm Busnes, yw hyrwyddo busnesau Trelluest ac annog cefnogaeth y gymuned.

Marchnad stryd

Mewn ymateb i adborth gan y gymuned, gweithiodd myfyrwyr israddedig Rheoli Busnes â thîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd i gysyniadu a lansio marchnad stryd reolaidd ar gyfer masnachwyr lleol. Cynhaliwyd Marchnad Byd gyntaf Trelluest yn 2017 ac ers hynny mae wedi dod yn ganolbwynt rheolaidd yn y gymuned.

“Mae’r Porth Cymunedol wedi bod yn chwa o awyr iach. Mae wedi dod â llawer o bobl sydd eisoes yn gwneud pethau yn Nhrelluest at ei gilydd, ynghyd ag eraill sydd am gymryd rhan; mae wedi ein helpu i ganolbwyntio ar gyflawni pethau'n iawn. Rydyn ni'n dechrau gweld rhai buddion go iawn - mae wedi rhoi hwb cyfeillgar i Drelluest i gyfeiriad cadarnhaol."
Steve Duffy, Gweithredu Cymunedol Trelluest a Grangetown News

Y tu hwnt i'r prosiectau hyn, mae myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wedi cymryd rhan mewn llu o fentrau eraill yn rhan o'r Porth Cymunedol. Ymhlith y rhain mae’r canlynol:

  • Dyluniodd tri myfyriwr Rheoli Busnes ail flwyddyn logo ar gyfer grŵp Gweithredu Cymunedol Trelluest, sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.
  • Datblygodd myfyrwyr Marchnata Strategol (MSc) syniadau am ddefnydd cais llwyddiannus gan y Loteri Genedlaethol gyda'r nod o wella Pafiliwn Grange, gyda syniadau'n cael eu troi’n realiti yn ddiweddarach.
  • Datblygodd myfyrwyr Marchnata Strategol (MSc) friff dylunio ar gyfer creu brand CIO (Sefydliad Corfforedig Elusennol) Pafiliwn Grange a oedd yn cynnwys logo, gan ddiffinio arddull tŷ a negeseuon allweddol.
  • O dan ymbarél #Siopanlleol/Shoplocal, mae myfyrwyr wedi cysylltu'r fforwm busnes, marchnad y byd a'r map busnesau at ei gilydd.
  • Drwy Brosiect Arloesi Addysg Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn lleoliadau gyda’r Porth Cymunedol, gan hogi eu sgiliau cyflogadwyedd wrth gyfrannu at ddatblygu cymunedol.
  • Dyfeisiodd myfyrwyr Marchnata Strategol (MSc) gynllun marchnata ar gyfer prosiect cwrw mêl Pharmabees, Mêl.
Grangetown Community Action Logo
Cynhyrchwyd y logo gan fyfyrwyr.

Cynlluniau at y dyfodol

Ers brecwast busnes diweddar ym Mhafiliwn Grange, mae Ysgol Busnes Caerdydd bellach yn archwilio ffyrdd parhaus y gall ein hymchwil, ein haddysgu a'n hymgysylltiad gefnogi buddiannau presennol yn Nhrelluest ymhellach. Mae hyn yn cynnwys cefnogi a datblygu busnesau annibynnol gyda defnyddwyr rheolaidd y Pafiliwn megis y Fforwm Ieuenctid a Marchnad y Byd Trelluest.

Rhagor o wybodaeth

Porth Cymunedol

Ein cymysgedd cyfoethog o waith parhaus gyda thrigolion a busnesau Grangetown yn cynhyrchu canlyniadau go iawn ac yn cyflwyno cyfleoedd newydd.