Ewch i’r prif gynnwys

Deallusrwydd artiffisial (AI) sy'n canolbwyntio ar bobl at ddibenion delweddu meddygol

Nod y gweithgor ar ddeallusrwydd artiffisial sy'n canolbwyntio ar bobl at ddibenion delweddu meddygol yw arwain yr ymdrechion sy’n anelu at sicrhau cyllid ymchwil ac achosion effaith ym maes dysgu peirianyddol, dysgu dwfn a deallusrwydd artiffisial ym myd delweddu meddygol.

Medical imaging

Bydd y grŵp trawsbynciol hwn yn meithrin prosiectau ymchwil newydd ar y cyd ym maes datblygu ac arloesedd ymchwil (RD&I ), a hynny gyda phartneriaid ym myd diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau academaidd a llunwyr polisïau blaenllaw.

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn argoeli’n dda o ran gweddnewid meysydd iechyd a gofal. Mae'r problemau y mae deallusrwydd artiffisial yn ceisio eu datrys yn gysylltiedig â sypiau mawr o ddata gofal iechyd sy'n rhy fawr i bobl allu eu dadansoddi'n effeithiol ond y gall model AI ddysgu ohonynt. Mae'r defnydd o AI at ddibenion delweddu meddygol yn cael ei werthuso'n helaeth, ac mae modelau deallusrwydd artiffisial yn dangos manwl gywirdeb a sensitifrwydd trawiadol ym maes delweddu diagnostig yn benodol.

Mae datblygu, dilysu, comisiynu a mabwysiadu atebion ar sail deallusrwydd artiffisial i’w defnyddio wedyn ym maes gofal iechyd yn fater cymhleth a gellid dadlau nad yw hyn wedi'i wireddu hyd yma.

Cyd-gadeiryddion: Dr Emiliano Spezi,Dr Hantao Liu a Dr Marco Palombo.