Ewch i’r prif gynnwys

Themâu trawsbynciol

Mae themâu trawsbynciol (neu lorweddol) yn faterion sy’n cyffwrdd ag egwyddorion cyffredinol megis democratiaeth, cydraddoldeb, llywodraethu da a chynaladwyedd.

Mae angen cymryd camau mewn sawl maes felly mae angen eu hintegreiddio ym mhob maes o’r rhaglenni Ariannu Ewropeaidd a mynd i’r afael â nhw yn y sgwrs ynghylch datblygiad y rhaglenni.

Nod y themâu yw gwella ansawdd a deilliant pob gweithgaredd sydd o dan nawdd y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru ac ychwanegu gwerth at raglenni yn eu cyfanrwydd. Byddan nhw’n sbarduno camau mewn amryw feysydd a byddan nhw’n rhan annatod o broses llunio a chynnal pob gweithgaredd. Mae tair thema o’r fath:

  • Cyfleoedd Cyfartal, Cymathu Rhywedd yn y Brif Ffrwd a Hybu’r Gymraeg
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Trechu Tlodi ac Allgau Cymdeithasol

Pecyn Cymorth rhag Newidiadau'r Dyfodol

Diben y pecyn yw helpu pob cwmni sy'n gofyn am gymorth trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i gyfrannu at Les Cenedlaethau'r Dyfodol ac elwa ar ymgorffori Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb a chymorth er lles y Gymraeg yn eu hamcanion yn unol â'r themâu trawsbynciol.

Trwy ddefnyddio'r pecyn, bydd cwmnïau'n pennu eu sefyllfa bresennol a, gyda chymorth dolenni ag adnoddau ac astudiaethau perthnasol, yn nodi cyfleoedd i ddatblygu a/neu wella eu busnes fel y bydd eu cadernid rhag newidiadau yn y dyfodol yn gryfach.

Ar ôl i gwmni bennu ei sefyllfa bresennol, bydd Ymgynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau Materol a Dynol Busnes Cymru yn helpu eu cefnogi i wneud unrhyw welliannau neu newidiadau a nodwyd.

Os oes gennych ddiddordeb ynghylch creu cyfrif a defnyddio'r pecyn, mae'r wefan bellach ar waith Gwefan Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.