Ewch i’r prif gynnwys

Labordy Efelychu IROHMS

Mae Labordy Efelychu IROHMS yn canolbwyntio ar agenda ymchwil IROHMS: ymchwilio i broblemau ymchwil ar groesffordd deallusrwydd artiffisial (AI), roboteg a systemau peiriant-dynol.

Mae'r labordy yn ymchwilio i sut mae pobl yn rhyngweithio â thechnolegau blaengar megis:

  • robotiaid
  • cerbydau ymreolaethol
  • rhithwir
  • deallusrwydd artiffisial
  • sustemau seibr-gorfforol.

Mae'r ymchwil hon yn ychwanegu at waith grŵp ymchwil Rhagoriaeth Ffactorau Dynol (HuFEx). Y prif nod yw defnyddio newidiadau gweithredol a chymdeithasol arloesol i wella effeithlonrwydd sustemau a llesiant pobl fel ei gilydd.

Mae pum prif barth yn ein labordy 200m2: efelychydd cludiant; cromen dri dimensiwn; parth roboteg wybyddol; rhithwir symudol; parth realiti estynedig a chymysg; canolfan gorchymyn a rheoli diogelwch seibr. Mae parth realiti a chanolfan y gorchymyn a’r rheoli yn cael eu datblygu o hyd.

Cyfleusterau technegol

Mae gan y labordy ystafelloedd newydd lle mae’r offer diweddaraf ar gyfer ymchwil ac addysgu.

Efelychydd cludiant

Mae gan yr efelychydd cludiant tri dimensiwn sustem arddangos Antycip ST Engineering — sgrîn grom led-silindrog sy’n rhoi golygfa 180 gradd — a chaban gyrru cryno SimEasy AV Simulation lle mae popeth angenrheidiol ar gyfer gyrru rhithwir.

Rydyn ni’n bwriadu gosod cerbyd cyfan yn lle’r caban i gryfhau meddalwedd efelychu arloesol SCANeR Studio fel y bydd modd trin a thrafod newidynnau megis trafnidiaeth, tywydd a gwelededd.

Cromen dri dimensiwn Igloo

Mae cromen dri dimensiwn Igloo yn gyfleuster 6m2 ar gyfer hyd at 12 o bobl gan eu galluogi i gymryd rhan mewn arbrofion sy’n efelychu sawl sefyllfa naill ai trwy fideos neu raglenni.

Trwy sustem sain gynhwysfawr y gromen, mae modd cynhyrchu seiniau tri dimensiwn yn ôl yr angen a thrwy sustem y taflunwyr, mae modd cyfleu lluniau eglur iawn yn ôl safon 4KHD. Mae'r gromen yn cynnig sawl cyfle rhithwir gan alluogi defnyddwyr i gysylltu taclau rhithwir symudol â rhai realiti estynedig i greu gwir sefyllfa dri dimensiwn.

Mae'r cyfleuster yn un o'r ychydig leoedd sy'n ymwneud ag ymchwil o’r fath ledled y byd.

Robotiaid gwybyddol

Mae gan y labordy nifer o robotiaid cymdeithasol i’w helpu i gynnal ymchwil i’r modd y gall pobl a robotiaid ryngweithio. Ym mharth roboteg y labordy, mae robot Pepper gan SoftBank Robotics a dwy uned NAO gan yr un cwmni:

Pepper

Mae Pepper yn robot cymdeithasol, dynol ei wedd - y cyntaf yn y byd sy’n gallu adnabod wynebau a theimladau sylfaenol pobl - a thrwy ei sgrîn gyffwrdd y byddwn ni’n rhyngweithio ag e.

Mae gan y robot 20 gradd o ryddid ar gyfer symud mynegiannol naturiol yn ogystal â synwyryddion cyffwrdd ac is-goch, goleuadau a meicroffonau, uned anadweithiol, camerâu dau a thri dimensiwn a sonar; mae hyn oll yn ei helpu i symud a llywio mewn sawl ffordd a chyfeiriad.

Mae’r robot ar blatfform agored a rhaglenadwy.

NAO

Mae NAO yn uned raglennu bwerus sydd erbyn hyn yn rhan annatod o addysg ac ymchwil. Mae gan NAO 25 gradd o ryddid sy'n ei galluogi i symud ac ymaddasu yn ôl yr hyn sydd o’i hamgylch yn ogystal â synwyryddion cyffwrdd ac uned anadweithiol i bennu lle mae hi.

Mae ynddi bedwar meicroffon a seinydd fel y gall siarad â phobl (mae’n gallu trin a thrafod 20 iaith), dau gamera dau ddimensiwn i’w galluogi i adnabod siapiau, pethau a phobl a phlatfform agored a rhaglenadwy.

Gwyliwch ein rhith-daith ar YouTube

Mae'r cyfleusterau o’r radd flaenaf hyn, sydd ar gael ar gyfer ymchwil a datblygu, wedi'u lleoli yn yr Ysgol Seicoleg.

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â SimLab@caerdydd.ac.uk.