Ewch i’r prif gynnwys

Academi arweinwyr y dyfodol IROHMS 2022

Yn ystod mis Mehefin 2022 cynhaliwyd Academi Arweinwyr y Dyfodol IROHMS. Daeth Academi Arweinwyr y Dyfodol IROHMS 2022 ag academyddion blaenllaw, rheolwyr o fyd addysg uwch, rheolwyr o’r sector cyhoeddus a thrydydd sector ac arbenigwyr o fyd diwydiant, ynghyd.

Cynhaliwyd y gynhadledd gyfunol dros gyfnod o dair wythnos, ac ynddi cafwyd rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau:

  • chwe phrif anerchiad
  • tair taith labordy
  • gweithdai o faes diwydiant
  • colocwiwm PhD
  • gweithdy Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC)
  • derbyniad gyda'r hwyr

Ymhlith y themâu ymchwil roedd Deallusrwydd Artiffisial (AI) tebyg i fodau dynol, AI moesegol ac egluradwy, technolegau a chymdeithas sy’n canolbwyntio ar bobl, a bodau dynol a robotiaid. Ymhlith ein siaradwyr roedd arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ym meysydd deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant dynol, yn ogystal â siaradwyr gwadd.

Prif areithiau

Y Dr Rob Deaves, Pensaer Systemau Robotig Dyson UK, roddodd y prif gyflwyniad hwn.

Teitl: Horizon ym maes Roboteg Ymreolaethol

Yn y cyflwyniad hwn cafwyd trosolwg o dechnolegau a dibenion diddorol yn ymwneud â robotiaid ymreolaethol y dyfodol. Yn rhan o hyn, trafodwyd technolegau sy’n helpu pobl a robotiaid i ryngweithio, synhwyro amgylcheddol, prosesu algorithmau/pensaernïaeth (gan gynnwys rhai ar gyfer mwy nag un robot) a chychwynwyr. Wrth drafod sut y gellir defnyddio robotiaid ymreolaethol, rhoddwyd ystyriaeth i sawl enghraifft gan gynnwys rhai sy’n seiliedig ar strwythurau biolegol a rhai sy’n hybu cynaliadwyedd.

Bywgraffiad

Mae’r Dr Rob Deaves yn gymrawd peirianneg hynod arloesol (FIET) ac hefyd yn gymrawd addysgu hynod arloesol (FHEA) a chanddo dros 30 mlynedd o brofiad diwydiannol mewn tri chwmni enwog yn ne-orllewin Lloegr: BAE Systems, STMicroelectronics (Inmos gynt) a Dyson; gan helpu i gynhyrchu nwyddau blaenllaw megis awyren ymladd aml ei rolau Eurofigher, blychau uwch-set (set-top) SoCs a glanhawyr awtomataidd Dyson.

Rob oedd Arweinydd Technegol y Cynnyrch ar gyfer Heurist360 Dyson, sef sugnwr llwch robotig diweddaraf y cwmni a theclyn mwyaf cymhleth y cwmni hyd yma. Mae'n Athro Gwadd Yr Academi Frenhinol Peirianneg (RAEng) ym maes Pensaernïaeth Systemau Robotig yng Ngholeg Imperial Llundain, mae hefyd yn llywio dau fwrdd ymgynghorol ar gyfer grantiau rhaglenni Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol ac mae hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Gwyddonol Rhyngwladol ar gyfer IROHMS.

Yr Athro George Huang, Athro Peirianneg Ddiwydiannol a Systemau Prifysgol Hong Kong, roddodd y prif gyflwyniad hwn.

Teitl: Rhyngrwyd Seibr-Ffisegol ar gyfer Logisteg Drawsffiniol Gweithgynhyrchion

Fe roes cylchgrawn yr Economist sylw i’r Rhyngrwyd Ffisegol (PI) yn 2006 gan gynnig y byddai modd anfon a derbyn nwyddau trwy’r we yn union fel anfon a derbyn negeseuon. Ymchwilwyr yn Ewrop a Chanada gynigiodd y syniad yn academaidd felly, ac yna fe gafodd y gwaith gefnogaeth trwy nifer o brosiectau o dan nawdd Undeb Ewrop – prosiectau ac iddynt ganlyniadau calonogol: cynyddu’r gyfradd lenwi gan bron i 20%, gostwng allyriadau CO2 o 60%, cwtogi ar gostau logisteg o 35% ac, yn bwysicaf oll, hwyluso synergedd ymhlith gweithgynhyrchu, cludiant a chynaliadwyedd.

Roedd y cyflwyniad hwn yn ymwneud ag arloesi, sef ychwanegu haen ddigidol at y Rhyngrwyd Ffisegol i greu Rhyngrwyd Seibr-Ffisegol (CPI). Trafodwyd pedwar piler CPI: (1) pensaernïaeth ddigideiddio i greu systemau CPI ar gyfer gweithgynhyrchu a logisteg; (2) gwasanaethau CPI ar gyfer ffurfweddu rhwydweithiau ardaloedd lleol (LAN), ardaloedd eang (WAN) a dalgylchoedd (CAN); (3) mecanweithiau CPI ar gyfer sbarduno a hwyluso cysylltiadau clymu ymhlith amryw bobl berthnasol megis cynhyrchwyr, cludwyr (darparwyr gwasanaethau logisteg) ac anfonwyr (broceriaid gwasanaethau); (4) prosesau penderfynu CPI ar gyfer cynllunio, trefnu a gweithredu mewn modd cydlynol. Trwy CPI, bydd modd cynnig systemau logisteg ledled y byd; systemau sy’n cyd-fynd â chenhedlaeth-rhwydwaith 4.0.

Mae'r gadwyn gyflenwi fyd-eang wedi bod yn anghyson iawn am nifer o resymau, yn enwedig pandemig Covid-19. Mae ymbellhau cymdeithasol byd-eang a lleol wedi amharu’n fawr ar weithgynhyrchu a logisteg. Mae pobl yn gorfod gweithio gartref a phrynu nwyddau ar y we. Mae galw mawr am wasanaethau logisteg e-fasnach uchel eu safon.

Yn sgîl cau ffatrïoedd yn llwyr neu’n rhannol, torri ar draws gwaith yr harbwrs, dileu awyrdeithiau a gohirio mordeithiau, mae llai o nwyddau ac mae sawl tagfa ar y meysydd awyr ac yn y porthladdoedd. Mae mynegai cludo nwyddau ar y môr wedi cynyddu dros bum gwaith ac mae mynegai cludo nwyddau yn yr awyr wedi dyblu a mwy mewn dwy flynedd.

Bydd yr arloesi hwn yn gam at leddfu’r sefyllfa gan helpu cynhyrchwyr blaenllaw i ystyried ffyrdd amgen o allforio nwyddau yn ôl amserlenni caeth.

Bywgraffiad

Mae gan Yr Athro George GQ Huang Gadair Bersonol ym Mhrifysgol Hong Kong; mae’n Bennaeth ar yr Adran Peirianneg Systemau Diwydiannol a Gweithgynhyrchu yn y brifysgol hefyd. Enillodd BEng o Brifysgol De-ddwyrain Tsieina a PhD ym maes Peirianneg Fecanyddol o Brifysgol Caerdydd. Mae wedi cynnal ymchwil i’r Rhyngrwyd Ffisegol (Rhyngrwyd o Bethau) ar gyfer gweithgynhyrchu a logisteg gyda chymorth grantiau gwladol a diwydiannol sylweddol.

Mae wedi cyhoeddi’n helaeth gan gynnwys dros 200 o bapurau mewn cyfnodolion o fri, dros 200 o bapurau i gynadleddau a 10 monograff yn ogystal â golygu cyfeirlyfrau a chofnodion cynadleddau. Mae’i ymchwil wedi'i chydnabod yn eang yn y meysydd perthnasol. Mae'n olygydd cyswllt ac aelod golygyddol ar gyfer nifer o gyfnodolion rhyngwladol. Mae'n Beiriannydd Siartredig (CEng), yn gymrawd gyda ASME, HKIE, IET a CILT, ac yn aelod o IIE.

Yr Athro Anna Cox, Athro Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol Coleg Prifysgol Llundain wnaeth roi’r prif gyflwyniad hwn.

Teitl: Gwell lles a chynhyrchiant digidol i academyddion ar ddechrau eu gyrfa

Bywgraffiad

Mae Anna Cox yn Athro Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol yng Nghanolfan Rhyngweithio Is-adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith Coleg Prifysgol Llundain (UCLIC) ac yn Is-Ddeon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghyfadran Gwyddorau'r Ymennydd. Bu’n ddirprwy gyfarwyddwr y ganolfan honno rhwng 2009 a 2017, a bu hefyd yn gadeirydd tîm hunanasesu Athena SWAN yr Is-adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith (gan helpu i ailennill y wobr arian ddwywaith) a bu’n arwain Cyfadran Athena SWAN rhwng 2017 a 2019. Mae’n rhiant hefyd.

Mae'r Athro Cox yn aelod o bwyllgorau llywio CHI a CHI PLAY. Bu’n ymgynghorydd arbenigol i Bwyllgor Dethol Digidol, Materion Diwylliannol, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin yn 2019 ar gyfer eu hymchwiliad i dechnolegau ymgolli a chaethiwus. Mae wedi cyflawni rolau uwch ym mhwyllgorau rhaglenni a threfnu nifer o gynadleddau pwysig y maes hwn megis bod yn gadeirydd ar y rhaglen dechnegol CHI2018 a CHI2019 ac yn brif gadeirydd CHI PLAY 2015 a 2016.

Yr Athro Ah-Hwee Tan, Athro Cyfrifiadureg Prifysgol Rheolaeth Singapôr, wnaeth roi’r prif gyflwyniad hwn.

Teitl: Cyfrifiadura gwybyddol: damcaniaethau, modelau a chymwysiadau

Er bod maes deallusrwydd artiffisial yn mynd o nerth i nerth o ganlyniad i ddatblygiadau diweddar ym maes dysgu peiriannol yn enwedig dysgu dwfn, mae tuedd i lunio sustemau datrys problemau penodol trwy ddysgu o swm helaeth o ddeunydd hyfforddi. Ar y llaw arall, mae pobl yn gweithredu trwy gyfuniad cymhleth o swyddogaethau lefel uchel megis hunanymwybyddiaeth, y cof, rhesymu, dysgu a datrys problemau.

Yn y cyflwyniad hwn, trafodwyd agwedd newydd o’r enw Cyfrifiadura Gwybyddol sydd wedi’i seilio ar swyddogaethau a phrosesau gwybyddol pobl. Gellir defnyddio teulu o fodelau rhwydwaith niwral sy’n hunan-drefnu, y’i gelwir ar y cyd yn ymasiad Theori Cyseiniant Addasol (fusion ART) i efelychu cyfrifiadura gwybyddol. Trwy estyn y theori honno (ART) i bensaernïaeth rhwydwaith aml ei sianeli, gallwn ni uno modelau niwral pwysig sydd wedi’u llunio yn ystod y degawdau diwethaf hyn megis yr un ART gwreiddiol ar gyfer dysgu heb oruchwylio, Map Cyswllt Cyseiniant Addasol (ARAM) ar gyfer dysgu o dan oruchwyliaeth, a Phensaernïaeth Cyfuno ar gyfer Dysgu a Gwybyddiaeth (FALCON) ar gyfer dysgu’n ymwneud ag atgyfnerthu.

Yn ôl y syniad o wybyddiaeth ymgorfforedig, mae modd defnyddio damcaniaeth cyfuno ART ac iddi set o egwyddorion codio ac addasu niwral cyffredinol yn rhan o broses llunio model cof o’r enw EM-ART i fodelu atgofion am leoedd ac amser, hefyd. Yn y cyflwyniad hwn cafwyd astudiaethau achos yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio modelau gwybyddol o’r fath i amryw ddibenion lle mae angen cof megis dadansoddi gweithgareddau bywyd beunyddiol (ADL), mapio a llywio tirweddau ac olrhain pobl fu’n ymwneud â COVID-19.

Bywgraffiad

Enillodd y Dr Ah-Hwee Tan Ph.D. ym maes Systemau Gwybyddol a Niwral ym Mhrifysgol Boston ac MSc a BSc (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) ym maes Gwyddorau Cyfrifiadureg a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Cenedlaethol Singapôr. Mae’n Athro Gwyddorau Cyfrifiadureg ac yn Ddeon Cyswllt (Ymchwil) Ysgol Systemau Cyfrifiadureg a Gwybodaeth (SCIS) Prifysgol Pynciau Rheoli Singapôr (SMU). Cyn ymuno â SMU, bu’n Athro Gwyddorau Cyfrifiadureg yn yr Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadureg a Pheirianneg (SCSE) ym Mhrifysgol Dechnolegol Nanyang ac yn Gadeirydd Cyswllt (Ymchwil) yno. Cyn hynny, bu’n uwch aelod o staff ymchwil Sefydliad yr Ymchwil i Wybodaeth a Chyfathrebu (I2R), lle yr arweiniodd rhaglenni ymchwil Cloddio Testunau ac Asiantau Deallus.

Mae’i ymchwil bresennol yn ymwneud â systemau gwybyddol a niwral, asiantau deallus sy’n efelychu’r ymennydd, dysgu peiriannol a chloddio testunau. Mae’r Dr. Tan wedi cyhoeddi dros 200 o bapurau technegol mewn cyfnodolion rhyngwladol o bwys ac mewn cynadleddau am ei feysydd, yn ogystal â chwe llyfr a chofnodion wedi’u golygu. Mae ganddo ddwy hawlfraint yn UDA a phump yn Singapôr, ac mae wedi arwain nifer o brosiectau A*STAR wrth fasnacheiddio cyfres o feddalwedd rheoli gwybodaeth a chloddio testunau. Bu’n olygydd cyswllt i nifer o gyfnodolion megis IEEE Transactions on Neural Networks and Learning, IEEE Transactions on SMC Systems ac IEEE Access. Mae'n uwch aelod o IEEE, yn aelod o Bwyllgor Technegol IEEE dros Rwydweithiau Niwral, yn Is-Gadeirydd i Dasglu IEEE CIS (Tuag at Ddeallusrwydd tebyg i Ddeallusrwydd Pobl) ac yn brif gyd-gadeirydd Cyfres Symposiwm IEEE 2022 ar Wybodaeth Gyfrifiadurol (IEEE SSCI 2022).

Yr Athro Tony Pipe, Athro Roboteg a Systemau Ymreolaethol Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, roddodd y prif gyflwyniad hwn.

Teitl: A fydd datblygiadau ym maes Cerbydau Ymreolaethol Cysylltiedig yn cynnig allwedd hanfodol i ddatgloi’r llwybr hwn? (cyflwyniad)

Rwy’n gryf o’r farn bod cydlifo o ran technoleg briodol ar gyfer robotiaid sy’n gweithredu gyda ni ac yn ein plith, a hynny i’r graddau ein bod bron yn barod i gyrchu’r farchnad o safbwynt ymchwil a datblygu. O ganlyniad, rydyn ni’n agos iawn at uchafbwynt cylch y disgwyliadau chwyddedig yn ôl damcaniaeth Gartner, hefyd. Yn sector y cerbydau ymreolus cysylltiedig (CAV), mae prosesau gwirio a dilysu – ynghyd â safonau, rheoleiddio a fframwaith cyfreithiol – yn ffactor mawr a chyfun ac rwy’n credu eu bod yn allweddol ar gyfer osgoi siomi pobl yn arw unwaith eto (mae wedi digwydd o’r blaen yn ystod fy ngyrfa) yn sgîl methu â chyflawni yn ôl eu disgwyl ym maes roboteg. Felly, fe hoffwn drafod y posibiliadau yn ogystal â’r peryglon mae ymchwilwyr a datblygwyr yn eu hwynebu ym maes cerbydau sy’n gallu eu gyrru eu hunain yn ddiogel megis y brif enghraifft yn nychymyg pobl - “car heb yrrwr”.

Bywgraffiad

Enillodd Tony Pipe PhD ym 1997, aeth yn ddarllenydd yn 2006, mae’n Athro Roboteg a Systemau Ymreolaethol ers 2010 ac mae’n gyn Ddirprwy Gyfarwyddwr Labordy Roboteg Bryste. Mae’n cynnal ymchwil ers 20 mlynedd ym meysydd systemau synwyryddion uwch, roboteg feddygol, roboteg a ysbrydolir gan fioleg, dysgu peiriannol ac ymddygiad ymaddasol ar gyfer systemau rheoli a monitro deallus a dosbarthedig roboteg. Mae’n cynnal prosiectau gwerth dros £8 miliwn yn y meysydd hynny ar hyn o bryd. Mae’n gyd-gyfarwyddwr yng Nganolfan Labordy Roboteg Bryste dros Hyfforddiant Doethurol Roboteg a Sustemau Ymreolaethol o dan nawdd Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol ac mae’n arwain dau brosiect gwladol eu nawdd ym maes ceir heb yrrwr.

Yr Athro Tom Gedeon, Cadair Optus ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Prifysgol Curtin, roddodd y prif gyflwyniad hwn.

Teitl: Mae AI Ymatebol angen AI Cyfrifol

AI Ymatebol yw'r defnydd o ddata ymddygiad dynol a biometrig i greu systemau AI defnyddiol, ac mae'n dod o gyfuniad o HCI ac AI. Rhoddwyd enghreifftiau o rai canlyniadau ymchwil cyffrous yn y maes hwn. Ond gallai’r canlyniadau gwych hyn olygu hefyd ein bod yn colli preifatrwydd. Felly, mae angen AI cyfrifol, sef dull o gynnal preifatrwydd trwy ddyluniad, i reoli'r data preifat a phersonol a ddefnyddir.

Bywgraffiad

Cadair Optus Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Curtin, Perth, yw’r Athro Tom Gedeon. Mae Tom yn Athro Anrhydeddus Cyfrifiadureg ac, yn ddiweddar, bu’n Bennaeth Meysydd Ymchwil Cyfrifiadura Gallu Dynol (Hcc) Ysgol Cyfrifiadura Coleg Peirianneg a Chyfrifiadureg Prifysgol Genedlaethol Awstralia. Mae’i ymchwil yn ymwneud â llunio sustemau awtomataidd ar gyfer echdynnu gwybodaeth o destunau, yn ogystal â chyswllt llygaid a data ffisiolegol dynol, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth honno mewn adnoddau sy’n ddefnyddiol i bobl trwy ddulliau rhwydweithiau niwral, dysgu dwfn a rhesymeg niwlog yn bennaf. Mae hynny’n ymatebol i ddeallusrwydd artiffisial neu gyfrifiadura sy’n canolbwyntio ar allu dynol.

Teithiau, cyflwyniadau a gweithdai

Yn rhan o raglen ddigwyddiadau Academi Arweinwyr y Dyfodol, fe wnaeth Canolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol (IROHMS) Prifysgol Caerdydd groesawu Afia Masood (Rheolwr Portffolios/Rheolwr Perthynas Fusnes), y Dr Danielle Lloyd (Uwch Reolwr Portffolios) a Rhian Jacob-Barclay (Rheolwr Portffolios) o Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), ar ddydd Mawrth 7 Mehefin, i drafod manylion Thema Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg.

Roedd hwn yn gyfle gwych i glywed y diweddaraf am Thema Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg EPSRC, a manteision gwneud cais am eu cyfleoedd. Yn y sesiwn trafodwyd cyfleoedd presennol, ynghyd â’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer ymgeiswyr. Daeth y gweithdy i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb a roddodd gyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau i dîm EPSRC.

Rheolwr y labordy, Satheeshkumar Veeramani, oedd y tywysydd trwy Labordy Rhyngweithio Pobl a Robotiaid yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Clywodd cyfranogwyr am ein hymchwil yn y Labordy a phrofi sut mae rhai o’n cyfleusterau ymchwil arloesol yn gweithio.

Dysgwch ragor am ein labordy.

Mae’r seilwaith newydd a gwell o gyfleusterau ymchwil yn ganlyniad i gymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cyflwynodd aelodau o garfan PhD IROHMS gyflwyniadau byr ar eu hymchwil, gan ddangos yr ystod eang o bynciau ym meysydd deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant dynol sy'n cael eu harchwilio yn y Ganolfan ar hyn o bryd. Roedd y sesiwn yn gyfle gwych i rannu ymchwil, profiadau a syniadau gydag ymchwilwyr a myfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd y cyflwyniadau mewn un o bedwar categori: Deallusrwydd Artiffisial (AI) tebyg i Fodau Dynol, AI Moesegol ac Egluradwy, Technolegau a Chymdeithas sy’n Canolbwyntio ar Bobl, a Bodau Dynol a Robotiaid. Croesawyd y cyfranogwyr i'r digwyddiad gyda chyflwyniad gan yr Athro Phil Morgan.

Cyflwyniadau

Deallusrwydd artiffisial tebyg i fodau dynol (Cadeirydd: Yr Athro Rossi Setchi)

  • Francisco Munguia Galeano (myfyriwr PhD) - Dysgu Atgyfnerthiad Dwfn gyda Chynrychiolaeth Cyd-destun Penodol
  • Xiaodan Wang (myfyriwr PhD) - Modelu Ansicrwydd mewn Cydweithrediadau Diwydiannol Rhwng Pobl a Robotiaid
  • Qingmeng Wen (myfyriwr PhD) - Ymwybyddiaeth Gyd-destunol ym maes Roboteg
  • Tong Tong (myfyriwr PhD) - Newid cyd-destun a sbardunau ar gyfer adnabod bwriadau bodau dynol

AI Moesegol ac Esboniadwy (Cadeirydd: Dr Yulia Hicks)

  • Jacob Bretherick (myfyriwr PhD) - Archwilio Dealltwriaeth Bodau Dynol o Seiberddiogelwch, Preifatrwydd a Nodweddion Diogelwch Corfforol Cerbydau Cysylltiedig ac Ymreolaethol
  • Victoria Marcinkieicz (myfyriwr PhD) - Seiberddiogelwch ar gyfer Cerbydau Ymreolaethol
  • Yan Gao (myfyriwr PhD) - Fframwaith Digidol Deuol yn seiliedig ar Edge ar gyfer Rheoli Perfformiad Pontydd o Bell

Technolegau a Chymdeithas sy'n Canolbwyntio ar Bobl (Cadeirydd: Yr Athro Yu-kun Lai)

  • Yan Shan Tai (myfyriwr PhD) - Integreiddio Gwybodaeth Gyflym i Gefnogi Ymwybyddiaeth Sefyllfaol ac Ymddygiad Gofodol: Rôl Disgwyliad Hunan-Gynhyrchu (SGE)
  • George Raywood-Burke (myfyriwr PhD) - Ystyried Ffactorau Llwyth Gwaith Dynol o ran Gwneud Penderfyniadau Seiber-Ddiogelwch 
  • Jialu Yang (myfyriwr PhD) - Elfen allweddol ar gyfer Rhyngweithio Peiriant-Dynol tuag at Ddiwydiant 5.0: Gweithgynhyrchu Clyfar sy’n Canolbwyntio ar Bobl
  • Tianyuan Liu (myfyriwr PhD) - Model ymddiriedolaeth sy'n cael ei yrru gan ddata ar gyfer rhyngweithio peiriannol-dynnol tuag at Ddiwydiant 5.0

Pobl a Robotiaid (Cadeirydd: Dr Ze Ji)

  • Francisco Munguia Galeano (myfyriwr PhD) - Personoliaethau ac Ymddygiadau sy’n Sensitif i Gyd-Destunau ar gyfer Robotiaid
  • Carly McGregor (myfyriwr PhD) - Robotiaid a Chydamseroldeb Cymdeithasol
  • Prasad Rayamane (myfyriwr PhD) - Dylunio a datblygu synhwyrydd cyffwrdd cadarn sy'n seiliedig y golwg

Teitl: Ymchwil ddamcaniaethol a chymhwysol - persbectif o labordy ymchwil diwydiannol

Yn y ddarlith hon, trafodwyd priod le ymchwil sylfaenol neu ddamcaniaethol ynghyd ag ymchwil mewn labordy diwydiannol. Ystyriwyd sut y gall ac y dylai’r byd academaidd a’r byd diwydiannol gydweithio i wneud y gorau o effaith ymchwil. At hynny, trafodwyd un o’r prif wahaniaethau rhwng y ddau fath o ymchwil a sut mae creu cyfleoedd a hwyluso cyfathrebu trwy drosglwyddo medrau o’r naill i’r llall. Yn y ddarlith, soniwyd am y cydweithio llwyddiannus yn ddiweddar rhwng Ysgol Seicoleg ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, ac Airbus.

Bywgraffiad

Pennaeth Arloesi a Darganfod Seibr Airbus yw Matilda Rhode - hanfod ei rôl yw ceisio rhagweld problemau diogelwch y we a’u datrys trwy gydweithio’n agos â’r byd academaidd. Newidiodd Matilda i wyddorau cyfrifiadureg yn 2015 yn lle gwyddorau cymdeithasol pan ddechreuodd gwrs PhD cyfrifiadura ym Mhrifysgol Caerdydd a PhD Canfod Firysau trwy Ddysgu Peiriannol wedyn. Ar ôl ennill PhD, aeth i gwmni Airbus lle mae tîm yr arloesi’n canolbwyntio ar fygythiadau na all rhaglenni cyfredol eu lleddfu ynghylch diogelwch y we ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Rheolwr y Labordy, y Dr Jacques Grange, oedd y tywysydd trwy Labordy Efelychu IROHMS yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd. Clywodd cyfranogwyr ragor am ein hymchwil yn y Labordy a phrofi sut mae rhai o’n cyfleusterau ymchwil arloesol yn gweithio.

Rhagor am ein labordy.

Mae’r seilwaith newydd a gwell o gyfleusterau ymchwil yn ganlyniad i gymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Teitl: Meddwl dylunio a mabwysiadu technolegau blaengar mewn cynhyrchion neu wasanaethau

Mae ymchwilwyr a gwyddonwyr yn canolbwyntio’n gywir ar wthio ffiniau eu meysydd arbenigol. Fodd bynnag, nid yw pob un o’r technolegau a’r patentau newydd sy’n deillio o’u gwaith caled yn arwain at greu cynhyrchion neu wasanaethau llwyddiannus. Felly, beth yw’r prif ystyriaethau o ran masnacheiddio technolegau’n llwyddiannus? Roedd y cyflwyniad hwn yn ystyried sut y gall meddwl dylunio fod yn fframwaith pwysig ar gyfer ateb y cwestiwn hwn.

Bywgraffiad

Dechreuodd gyrfa academaidd Dr Alexander (Alex) Chan ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl iddo orffen astudio ar gyfer ei PhD mewn Deallusrwydd Artiffisial ym 1996. Yn y 1990au hwyr, ymunodd â’r diwydiant technoleg symudol. Am dros 15 mlynedd, derbyniodd nifer o swyddi uwch ym maes gwerthu a marchnata mewn cwmnïau blaenllaw ym Mhrydain ac Ewrop.

Rhwng 2004 a 2011, Alex oedd Is-lywydd Gwerthiant Asia Pacific yn Beijing, lle gwelwyd refeniw gwerthiant blynyddol o dros €40 miliwn.

Ymhlith y cwsmeriaid a reolwyd gan Alex roedd cwmnïau rhyngwladol enwog fel Google, Samsung, LG, Nokia, Motorola, Microsoft, Toshiba, Panasonic, HTC, Lenovo, Huawei a China Mobile.

Ymunodd Alex â HKU SPACE yn 2014, a’i swydd oedd Pennaeth y Ganolfan Rheoli ac Arloesi yn y Sefydliad ar gyfer Busnes Tsieina. Roedd yn Brif Ddarlithydd yn HKU SPACE ac yn arbenigo mewn addysgu a rhoi hyfforddiant corfforaethol ym maes rheoli, strategaeth, arwain ac arloesi.

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae Alex wedi addysgu a rhoi hyfforddiant i dros 1,200 o weithredwyr busnes ar dir mawr Tsieina. Mae New Oriental, Jabil, Lenovo, Novo Nordisk ac IKEA ymhlith y cwmnïau enwog y mae wedi'u gwasanaethu. Yn Hong Kong, mae wedi rhoi hyfforddiant corfforaethol ar bynciau sy’n amrywio o reoli, strategaeth, gwerthu, arloesi a thrawsnewid digidol i feddwl dylunio, a hynny i sefydliadau fel Estée Lauder, Bank of Singapore, Delta Asia, ICBC, Haitong International a Chow Tai Fook.

Mae ganddo bellach ei gwmni ymgynghori ei hun, Brainy Alliance, yn Hong Kong.

Rheolwr y labordy, y Dr Ze Ji, wnaeth dywys cyfranogwyr drwy Labordy’r Systemau Ymreolaethol a Roboteg yn Ysgol Peirianneg. Clywodd cyfranogwyr ragor am ein hymchwil yn y Labordy a phrofi sut mae rhai o’n cyfleusterau ymchwil arloesol yn gweithio.

Rhagor am ein labordy ar-lein.

Mae’r seilwaith newydd a gwell o gyfleusterau ymchwil yn ganlyniad i gymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.