Ewch i’r prif gynnwys

Academi arweinwyr y dyfodol IROHMS 2021

IROHMS Background

Daeth Academi Arweinwyr y Dyfodol IROHMS 2021 ynghyd ag academyddion blaenllaw, addysg uwch, rheolwyr cyhoeddus a'r trydydd sector ac arbenigwyr diwydiant.

Croesawodd ein cynhadledd flynyddol gyntaf gorff rhyngwladol o fynychwyr a siaradwyr, gan gynnwys academyddion a myfyrwyr o Ysgolion Peirianneg, Seicoleg a Chyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd gydag ystod eang o gydweithredwyr.

Cynhaliwyd y gynhadledd rithwir dros gyfnod o chwe wythnos, rhwng 18 Ionawr a 26 Chwefror 2021, yn cynnwys rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau:

  • pedwar fforwm trafod
  • tair taith labordy
  • pedwar gweithdy hyfforddi arweinyddiaeth
  • colocwiwm PhD.

Roedd y thema ymchwil yn cynnwys deallusrwydd artiffisial tebyg i berson, deallusrwydd artiffisial moesegol ac esboniadwy, technolegau a chymdeithas yn seiliedig ar bobl, a pobl a robotiaid. Roedd ein siaradwyr yn cynnwys arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ym meysydd deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant-dynol a siaradwyr gwadd o Costain, Dyson, Intellectual Property Office, GE Aviation a UKRI EPSRC.

Fe wnaeth ein Academi Arweinwyr y Dyfodol ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd i’n haelodau a myfyrwyr PhD i ddatblygu sgiliau angenrheidiol arweinydd yn y dyfodol, a chaniatáu inni ddangos ein hymchwil drawsnewidiol ac ymgysylltiad diwydiannol a sector cyhoeddus cryf.

Darllenwhc yr adroddiad llawn a gwyliwch ein fforymau trafod a teithiau labordy.