Dod yn fentor
Gallwch gefnogi cyn-fyfyrwyr neu fyfyrwyr presennol drwy ein rhaglenni mentora.
Ni waeth faint o amser y gallwch ei roi, mae ein rhaglenni hyblyg yn cynnig dewis o fentora untro, anffurfiol, neu strwythuredig, i’ch siwtio chi.
Yn ogystal â chefnogi eraill, gall mentora eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, gwella eich CV, ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol.
Menywod yn Mentora
Mae ein rhaglen flynyddol Menywod yn Mentora (Womentoring) wedi'i chynllunio i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac mae’n cysylltu mentoriaid benywaidd ar frig eu meysydd mewn diwydiannau megis y gyfraith, technoleg, cyllid, gweithgynhyrchu a chyhoeddi, â mentoreion ar ddechrau eu gyrfa
Mae'r rhaglen fflach-fentora hon, a gynhelir ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn cael effaith fawr ar fentoriaid a mentoreion mewn amser byr. Neilltuir hyd at dri mentorai i bob mentor, ac yn ystod y mis, maent yn cynnal cymysgedd o sesiynau grŵp ac un-i-un. Mae rhaglen Menywod yn Mentora yn gyfle traws-gynhwysol. Mae nodweddion allweddol Menywod yn Mentora yn cynnwys:
- fflach-fentora
- cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr
- ar-lein
- pedwar wythnos yn ystod mis Mawrth
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen Menywod yn Mentora nesaf, e-bostiwch alumni@caerdydd.ac.uk.
Mentora myfyriwr
Ar agor ar gyfer ceisiadau nawr.
Dan arweiniad ein tîm gyrfaoedd Dyfodol Myfyrwyr, mae Cynllun Mentora Gyrfa Prifysgol Caerdydd yn gyfle i fyfyrwyr elwa o drafod eu cynlluniau gyrfa gyda gweithiwr proffesiynol profiadol yn eu maes dewisol. Mae mentoriaid o gyn-fyfyrwyr yn cael eu paru â mentoreion o fyfyrwyr a darperir fframwaith ar gyfer sgyrsiau.
Bydd disgwyl i chi gwrdd am o leiaf pum sesiwn rhwng diwedd mis Tachwedd a mis Ebrill. Bydd ceisiadau ar gyfer y rhaglen 2024/25 ar agor tan 17 Tachwedd 2024. Caiff unrhyw fynegiannau o ddiddordeb a ddaw i law ar ôl yr amser hwn eu hystyried ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae nodweddion allweddol y rhaglen hon yn cynnwys:
- mentora anffurfiol
- cyn-fyfyrwyr i fyfyrwyr
- ar-lein neu wyneb yn wyneb
- chwe mis - mis Tachwedd i fis Ebrill
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen myfyriwr sy'n mentora nesaf, llenwch y ffurflen gais fer hon. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at workexperience@caerdydd.ac.uk.
Mentora anffurfiol ar Cysylltiad Caerdydd
Helpwch eich cyd-gyn-fyfyrwyr drwy gynnig mentora a chymorth gyrfaol arall drwy ein platfform rhwydweithio ar-lein, Cysylltiad Caerdydd. Mae Cysylltiad Caerdydd yn gyflym, yn hawdd ac yn hyblyg, ac mae’n ei gwneud hi'n hawdd i gyn-fyfyrwyr sy'n cynnig neu'n ceisio mentora ddod o hyd i'r person perffaith. Gallwch chwilio yn ôl diwydiant, lleoliad, neu’r pwnc a astudir, a chynnig cymaint neu gyn lleied o amser ag sy'n addas i chi. Mae nodweddion allweddol mentora Cysylltiad Caerdydd yn cynnwys:
- mentora anffurfiol
- cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr
- ar-lein
- hyblyg o ran hyd ac amseru
Dyma ffordd wych o adeiladu'ch rhwydweithiau o fewn y gymuned cynfyfyrwyr, a helpu'r rheiny sydd angen cymorth, heb ymrwymo i berthynas fentora hirach am dymor penodol. Cofrestrwch ar gyfer Cysylltiad Caerdydd.
Allwch chi gynnig cyfle yn y gweithle i fyfyriwr Prifysgol Caerdydd? Ymunwch â’r cynfyfyrwyr eraill sy’n elwa ar y doniau a’r angerdd y gall myfyrwyr Caerdydd eu rhoi i’ch sefydliad.