Ewch i’r prif gynnwys

"Cynnig y rhyddid i bobl ddewis sut maen nhw'n teithio"

24 Hydref 2023

Dyn mewn cadair olwyn yn cael ei lun wedi’i dynnu wrth ymyl trên yng ngorsaf danddaearol Llundain Bermondsey.
Roedd Cellan eisiau'r rhyddid i ddewis ei lwybrau ei hunan ar Rhwydwaith Tanddaearol Llundain tra'n sicrhau siwrne ddiogel, felly mae’n datblygu ap i ddiwallu ei anghenion hygyrchedd.

Mae un o raddedigion Prifysgol Caerdydd yndatblygu ap sy'n defnyddio data ffynhonnell agored System Danddaearol Llundain i weld a yw lifftiau gorsafoedd y metro yn gweithio.

Dywed Cellan Hall, 25, sy'n hanu’n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr ac sydd bellach yn byw yn Llundain, ei fod eisiau codi ymwybyddiaeth o broblemau hygyrchedd defnyddwyr cadeiriau olwyn fel ef ei hun a phobl eraill sy'n dibynnu ar allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fyw a gweithio mewn dinasoedd mawr.

Mae gan Cellan, sy'n defnyddio cadair olwyn â llaw, barlys yr ymennydd. Mae'r anabledd, sy'n effeithio'n bennaf ar ei aelodau isaf, yn ei gwneud hi'n anodd iddo gerdded pellteroedd hir heb gymorth.

Er y gall Cellan yrru gyda chymorth rheolyddion llaw, ers symud i Lundain mae'n defnyddio'r system danddaearol yn bennaf, gan ddibynnu ar apiau llywio fel Google Maps neu Citymapper i ddeall pa lwybrau y gellir su defnyddio.

Dyma a ddywedodd Cellan: "Mae gan yr apiau hyn nodweddion hygyrchedd parod sy'n dangos pa lwybrau tanddaearol y galla i eu defnyddio, sy'n hynod ddefnyddiol.

"Fodd bynnag, mae cynifer o achlysuron wedi bod pan dw i wedi dilyn y cyfarwyddiadau a darganfod wedyn nad yw lifft roeddwn i’n dibynnu arno’n gweithio, sy'n golygu nad oeddwn i’n gallu defnyddio’r llwybr.

"Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid imi ailgynllunio fy nhaith a bydd hyn yn amharu’n fawr ar fy niwrnod."

Er bod ap swyddogol Transport for London (TFL) yn dangos os bydd problemau o ran lifftiau yn yr ardaloedd yr effeithir arnyn nhw ar fap y system danddaearol, yn aml dim ond un llwybr y gellir ei ddefnyddio y mae'n ei gynnig.

Roedd Cellan eisiau'r rhyddid i ddewis ei lwybrau ei hun tra’n sicrhau taith ddiogel, felly penderfynodd ymdrin â’r broblem ei hun.

Yn hygyrch, yn ddiogel ac yn effeithlon

Dyn mewn cadair olwyn yn eistedd wrth ddesg gyfrifiadurol lle mae dwy sgrin yn dangos data datblygwr Trafnidiaeth i Lundain.
Mae llyfrgell Python Cellan ar gael am ddim i ddatblygwyr ei defnyddio ac ymhelaethu arni ac mae gan Cellan uchelgais i gydweithio ag eraill i ddatblygu ei galluoedd.

Ac yntau’n eiriolwr dros feddalwedd ffynhonnell agored,  datblygodd lyfrgell Python i fodloni ei ofynion o ran hygyrchedd. Mae'r system yn defnyddio data TFL sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy'n rhoi gwybodaeth os bydd problemau o ran defnyddio lifftiau’r system danddaearol.

Dyma a ddywedodd Cellan: "Gwnes i ddarganfod bod y data ar gael i'r cyhoedd ac mae TFL yn annog datblygwyr i'w ddefnyddio wrth greu eu hoffer eu hunain.

"Gwnes i greu cleient Python sy'n fy ngalluogi i addasu'r ymatebion yn unol â fy ngofynion. Felly, drwy wneud cais syml, galla i gael yr holl fanylion angenrheidiol i sicrhau bod fy nhaith yn hygyrch, yn ddiogel ac yn effeithlon."

Dywedodd Cellan, a gwblhaodd ei astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ar y rhaglenni Ffiseg gyda Seryddiaeth (BSc) a Gwyddor Data a Dadansoddeg (MSc), fod y prosiect wedi rhoi’r cyfle iddo weithio gyda phecynnau cymorth newydd i ddatblygwyr megis HTTPX a Typer, gan ehangu ei set sgiliau yn y broses.

Mwy o waith i'w wneud

Mae llyfrgell Python Cellan ar gael am ddim i ddatblygwyr ei defnyddio ac ehangu arni a’i fwriad yw cydweithio â datblygwyr eraill i ymgorffori prosesu iaith naturiol yn rhan o gynllunio teithiau fel y gall defnyddwyr ofyn cwestiynau megis “pa lwybrau galla i eu defnyddio rhwng Lundain Paddington a Canary Wharf? “neu “ar ba adeg o'r dydd y mae'r llwybr hwn ar ei leiaf orlawn? “

Ond, meddai Cellan, dylai'r mathau hyn o nodweddion fod ar gael yn haws hefyd i bobl nad ydyn nhw'n ddatblygwyr.

"Rwy'n ddiolchgar am yr ymdrechion a'r adnoddau a fuddsoddwyd i wneud y metro’n fwy hygyrch. Mae'n fy ngalluogi i barhau’n annibynnol wrth imi wneud y rhan fwyaf o fy nheithiau. Ond mae mwy o waith i'w wneud bob amser," meddai.

"Mae’n rhaid i'r cwmnïau sy'n datblygu'r apiau hyn barhau i gydweithio â’r gweithgorau amrywiol sy'n cynnwys unigolion o sawl cefndir."

"Mae cynnig rhyddid i bobl ddewis sut maen nhw'n teithio yn grymuso ac yn agor cyfleoedd nad oedd ar gael cyn hyn. Tua deg neu 15 mlynedd yn ôl, fyddai dim gen i’r hyblygrwydd na'r rhyddid i deithio o amgylch Llundain fel rwy bellach yn ei wneud. Mae'r cynnydd a wnaed o ran hygyrchedd wedi gwneud cryn wahaniaeth yn fy ngallu i ddarganfod a theithio o amgylch y ddinas. Mae'n hollbwysig bod y gwaith yn parhau!"

Cellan Hall (BSc 2019, MSc 2021)
Llun o ddau ddyn a dwy ddynes mewn seremoni wobrwyo.
Dathlwyd cyflawniadau Cellan yng Ngwobrau Alumni 30 ddydd Iau 5 Hydref 2023 lle cafodd y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig ym maes Traweffaith Gymdeithasol. Ch-Dd Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, Cellan Hall a'r Llywydd a'r Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner.

Rhannu’r stori hon

Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.