Ewch i’r prif gynnwys

Am y Gwobrau (tua)30

Dysgwch fwy am y Gwobrau (tua)30, pwy all wneud cais, a phryd y cynhelir y noson wobrwyo.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o ‘30 o dan 30’, roedd Gwobrau (tua) 30 yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy’n teimlo eu bod (tua) 30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir Newydd.

Gallwch chi enwebu pobl nawr ar gyfer y bedwaredd seremoni wobrwyo flynyddol Gwobrau (tua)30.

P’un a ydych chi’n cyflwyno cais eich hun neu’n enwebu rhywun arall, cyflwynwch eich enwebiad erbyn dydd Sul 20 Gorffennaf 2025.

Enwebu neu ymgeisio

Cymhwysedd

Rydym yn sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg uwch. Rydyn ni’n gwrthod cael ein cyfyngu gan rifau di-ystyr. Ac yn unol â’r bobl rydyn ni’n eu dathlu, sy’n torri’r rheolau ac yn arloeswyr, rydyn ninnau'n gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Felly, os ydych chi'n gyn-fyfyriwr sydd o dan neu dros 30 oed, ac rydych chi'n teimlo (tua)30, ewch amdani!

Digwyddiad gwobrau

Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau (tua)30 oed, yn derbyn gwobr a gwahoddiad i ymuno â ni i ddathlu ar y campws ddydd Iau 23 Hydref 2025.

Cynhelir y digwyddiad gan yr Llywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd Athro Wendy Larner. Ni fydd angen i chi wisgo'r tei du traddodiadol – dyma dathliad o gynfyfyrwyr dawnus Prifysgol Caerdydd.

Bachwch ar y cyfle i gael eich gweld a chysylltu â chynfyfyrwyr arloesol eraill o Brifysgol Caerdydd. Hyd yn oed os na allwch ddod i’r digwyddiad, gallwch fod yn falch o gael eich cydnabod ar y rhestr fawreddog hon. Rydym yn gwybod bod gennym gynfyfyrwyr gwych ledled y byd a fydd yn cael eu henwebu, a bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis gan y panel ar sail teilyngdod, nid eu gallu i fynd i’r digwyddiad.