Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Is-bwyllgorau a phaneli sefydlog

Is-bwyllgorau a phaneli sefydlog

Pwyllgor Safonau Biolegol

Diben

1. Cynghori a chynorthwyo Deiliad Trwydded y Sefydliad Gweithdrefnol yn ei rôl o dan y Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol), 1986. Cynghori a chynorthwyo Llywodraethu ar unrhyw fater sy'n effeithio ar gyfrifoldebau'r Brifysgol o dan y Ddeddf.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodaeth

Deiliad Trwydded Sefydliad (ex officio)

Rhag Is-ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd (ex officio)

Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Safonau Biolegol (ex officio)

 

Milfeddyg a Enwir (NVS), na fydd yn ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil yn y Brifysgol (ex officio)

 

Dau aelod lleyg a benodir gan y Cyngor, bydd un ohonynt yn cael ei benodi’n Gadeirydd

 

Dau aelod o staff y Brifysgol nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil anifeiliaid, wedi'u penodi gan y Senedd

 

Dau Bennaeth Ysgol sy'n defnyddio cyfleusterau anifeiliaid

 

Tri chynrychiolydd a benodir gan AWARP, Cadeirydd AWARP fydd un ohonynt a bydd o leiaf un deiliad Trwydded Prosiect ac un deiliad Trwydded Bersonol (ni fydd yn ddeiliad Trwydded Prosiect) yn eu plith.

 

Y Prif Dechnegydd Anifeiliaid

 

Tri chynrychiolydd o'r technegwyr anifeiliaid, bydd dau ohonynt yn NACWOs cyfredol

 

Cynrychiolydd o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n defnyddio'r cyfleuster

 

Rheolwr Rhaglen Ranbarthol NC3Rs

 

y Swyddog Hyfforddi a Chymhwysedd a Enwir ar gyfer y sefydliad

 

y Swyddog Gwybodaeth a Enwir ar gyfer y sefydliad

 

Nodiadau:

Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 11.

 

Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol)

Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Diogelwch a Lles Staff

Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Ystadau a Chyfleusterau'r Campws

Nodiadau:

Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.

Adeg Cynnal

3. Bydd o leiaf bedwar cyfarfod ym mhob sesiwn academaidd.

Cworwm

4. Bydd yn cynnwys chwe aelod, gan gynnwys aelod lleyg, NVS neu NACWO ac aelod gwyddonol.

Cylch Gorchwyl

Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:

5. pob agwedd ar weinyddu Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 a bydd, pan fo angen, yn gwneud argymhellion i Ddeiliad y Drwydded Sefydliad a/neu'r Brifysgol ar unrhyw fater sy'n effeithio ar gyfrifoldebau'r Brifysgol o dan y Ddeddf;

6. cydymffurfio â gofynion y Ddeddf, i sicrhau y cynhelir safonau cyson ar draws y Brifysgol, a bod defnyddwyr yn dangos ymrwymiad i weithio tuag at arfer gorau;

7. gwaith a datblygiad yr holl gyfleusterau i anifeiliaid, gan gynnwys safon y llety a gwneud argymhellion priodol;

8. anghenion defnyddwyr a sefydlu Grŵp Defnyddwyr at y diben hwn (y Panel Lles ac Ymchwil Anifeiliaid (AWARP) fydd enw lleol y grŵp hwn);

9. y gweithdrefnau sy'n gweithredu yn y cyfleusterau anifeiliaid i sicrhau cydymffurfiaeth ac anghenion defnyddwyr;

10. darparu cyngor i ddeiliaid trwydded ynghylch lles anifeiliaid a materion moesegol sy'n deillio o'u gwaith;

11. hyrwyddo'r defnydd o ddadansoddiad moesegol i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion lles anifeiliaid a hyrwyddo mentrau sy'n arwain at y defnydd ehangaf posibl o'r 3R (mireinio, lleihau ac ailosod/ refinement, reduction and replacement);

12. sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i drwyddedigion a staff technegol a'i fod yn cael ei fonitro'n briodol;

13. sicrhau bod deiliaid trwyddedau prosiect yn darparu goruchwyliaeth briodol o ddeiliaid trwyddedau personol;

14. adolygu'r materion moesegol sy'n ymwneud â defnyddio anifeiliaid wrth addysgu a rhoi cyngor i Ysgolion arnynt;

15. goruchwylio'r holl waith gydag anifeiliaid nad yw'n drwyddedig sy'n digwydd ar dir y Brifysgol;

Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:

16. materion moesegol sy'n ymwneud â defnyddio anifeiliaid, yn enwedig gweithrediad y Corff Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol (AWERB);

17. darparu cyngor moesegol annibynnol i Ddeiliad Trwydded y Sefydliad, yn enwedig mewn perthynas â gofal a lles anifeiliaid, a'r holl faterion trwyddedu;

18. perfformio adolygiad moesegol ar unrhyw gynigion trwydded prosiect (1) gan ymgeiswyr tro cyntaf, ymgeiswyr sy'n newydd i'r sefydliad, ac ymgeiswyr sydd am ychwanegu Prifysgol Caerdydd fel sefydliad eilaidd; (2) sy'n cynnwys protocolau difrifol a rhywogaethau arbennig;

19. ystyried unrhyw faterion a gyfeirir ato gan Is-grŵp AWERB, sy'n ystyried materion fel diwygiadau, trwyddedau parhad a gwaith anifeiliaid nad yw'n berthnasol i ASPA;

20. Adroddiadau Chwarterol gan:

  • Deiliad Trwydded Sefydliad
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Biolegol a Safonau (Isadeiledd a Chydymffurfiaeth)
  • Llawfeddyg Milfeddygol a Enwir
  • Panel Ymchwil a Lles Anifeiliaid
  • Materion Cyfalaf ac Ystadau

21. Adroddiadau Blynyddol:

  • Cyllid a Seilwaith
  • Ffurflen flynyddol Trwyddedau Prosiect a chrynodeb o weithgarwch perthnasol yn y Brifysgol
  • Diogelwch
  • Adolygiad Cydymffurfio Blynyddol
  • Iechyd a Diogelwch
  • Addysg a Hyfforddiant
  • Ffocws 3Rs — Crynodeb o Ddigwyddiadau a Datblygiadau'r Flwyddyn
  • Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Dull Gweithredu

22. Dylai’r pwyllgor ardystio i'r Cyngor yn flynyddol ar gydymffurfiaeth y Brifysgol â gofynion Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986;

23. Dylai’r pwyllgor ddarparu adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu a'r Is-bwyllgor Moeseg a Gonestrwydd Ymchwil Agored.

24. Dylai’r pwyllgor ystyried unrhyw faterion a gyfeirir ato o bryd i’w gilydd.

25. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol:

a. Panel Ymchwil a Lles Anifeiliaid

b. Is-grŵp Lles Anifeiliaid a Chorff Adolygu Moesegol

26. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Mawrth 2023
Dyddiad a chorff cymeradwyo:BSC
I’w adolygu:Mawrth 2026

Cyfansoddiad Yr Is-Bwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol.

Diben

1. Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth, polisïau a gweithdrefnau cynaliadwyedd amgylcheddol, a rhaglenni gweithgaredd a chynghori a chynorthwyo'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ar y materion hyn.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodaeth

Is-Ganghellor, neu enwebai o blith y Dirprwy Is-Ganghellor a'r Rhag Is-gangellorion, a fydd yn Gadeirydd

Ail aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, a enwebwyd gan yr Is-Ganghellor

Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol, a fydd yn Is-Gadeirydd

un Aelod Lleyg a benodir gan y Cyngor ac o’i blith

Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter, neu enwebai

Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, neu enwebai

Un Rheolwr Ysgol o bob un o'r Colegau a benodir gan Gofrestryddion y Coleg

 

Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Campws, neu enwebai

 

Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ariannol, neu enwebai

 

Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol, neu enwebai

 

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata, neu enwebai

 

Pennaeth y Gwasanaeth Diogelwch a Lles, neu enwebai

 

un cynrychiolydd sy’n fyfyriwr a enwebwyd gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr

 

Nodiadau:

Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 11.

 

Yn bresennol

Rheolwr Materion Cyhoeddus

Cyfarwyddwr Caffael, neu enwebai

Dirprwy Gyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Campws, neu enwebai

Dirprwy Gyfarwyddwr Ystadau - Datblygu’r Campws, neu enwebai

Cynrychiolydd o'r grŵp System Rheoli Amgylcheddol

Gellir gwahodd cynghorwyr eraill i fod yn bresennol weithiau neu i ymuno, yn unol ag argymhelliad y Cadeirydd

Nodiadau:

Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cael ei enwebu gan y Cadeirydd

Adeg Cynnal

3. Bydd yr Is-bwyllgor yn cyfarfod o leiaf dair gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.  Bydd adroddiad o bob cyfarfod yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.

Cylch Gorchwyl

Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:

4. Gweithredu strategaeth, polisïau, gweithdrefn a chynlluniau Cynaliadwyedd Amgylcheddol y Brifysgol, gan gynnwys cynnydd tuag at Garbon Sero Net; gwneud argymhellion ynghylch unrhyw gamau unioni sydd eu hangen; a nodi ac argymell yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r nodau y cytunwyd arnynt;

5. Heriau cyfredol a phosibl sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â Chynaliadwyedd Amgylcheddol a allai gael effaith ar weithgareddau'r Brifysgol, a chan gynnwys cydymffurfio â deddfwriaeth;

6. Perfformiad mewn meysydd Cynaliadwyedd Amgylcheddol, ISO 14001, a'r llwybr i Garbon Sero-Net;

7. Darparu hyfforddiant a chymorth Cynaliadwyedd Amgylcheddol priodol i staff a myfyrwyr, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau Cynaliadwyedd Amgylcheddol penodol; a monitro effeithiolrwydd yr hyfforddiant a ddarperir;

8. Perthnasoedd ag unigolion a sefydliadau allanol sy'n berthnasol i weithredu gwaith Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Charbon Sero Net Caerdydd*, gan hyrwyddo a hybu dull gweithredu'r Brifysgol;

9. Cynlluniau Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn perthynas â nodau strategol y Brifysgol, gan sicrhau integreiddio â strategaethau a chynlluniau gweithredu allweddol eraill y Brifysgol, ac adrodd yn briodol i gymuned ehangach y Brifysgol ac ymgysylltu â hi mewn perthynas â chynlluniau a chamau gweithredu Cynaliadwyedd Amgylcheddol;

10. Arbenigedd, gwybodaeth ac ymchwil briodol Prifysgol Caerdydd sy'n cyfrannu at y nodau uchod ac yn eu cefnogi;

11. Parhau i adolygu ymgynghori, cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol mewn perthynas â Chynaliadwyedd Amgylcheddol;

12. Ym mhob un o'r uchod, bydd yr Is-bwyllgor yn sicrhau aliniad a chydweithrediad gyda'r Is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles, gan gynnwys partneriaeth i sicrhau cydlyniad ac aliniad strategol y System Integredig Iechyd, Diogelwch a Rheoli Amgylcheddol.

* Fel yr oedd ym mis Chwefror 2022, mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft: Llywodraeth Cymru; Cyngor Dinas Caerdydd; Ymddiriedolaeth GIG Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro; Cymdeithas Amgylcheddol Prifysgolion a Cholegau; GW4

Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:

13. Mae gan yr Is-bwyllgor yr awdurdod i gymeradwyo ar ran y Cyngor sefydlu is-bwyllgorau neu grwpiau, fel y bo'n briodol, i gynghori ar strategaeth a chamau gweithredu mewn meysydd fel, ond heb fod yn gyfyngedig i: fioamrywiaeth, ystadau (adeiladau ac ynni), cadwyn gyflenwi drwy gaffael, teithio, gwastraff ac ailgylchu, arlwyo, hyfforddiant a chyllid

Dull Gweithredu

14. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Hydref 2022
Dyddiad a chorff cymeradwyo:Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau 14 Tachwedd 2022
I’w adolygu:Hydref 2023

Cylch Gorchwyl Y Pwyllgor Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant

Diben

1. Sefydlwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu i gynghori'r Cyngor (drwy'r Pwyllgor Llywodraethu) ar ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol ac arfer gorau ym mhob mater sy'n ymwneud â chyfle cyfartal ac amrywiaeth.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodaeth

Dirprwy Is-Ganghellor, a enwebir gan yr Is-Ganghellor, a fydd yn Gadeirydd

Rhag Is-ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Menter

Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a chadeirydd y Grŵp Cefnogi Myfyrwyr LHDT

Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Y Prif Swyddog Gweithredu

Y tri Deon Cysylltiol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Deon y Gymraeg

Dau fyfyriwr sydd wedi'u henwebu gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr

Un cynrychiolydd a enwebwyd o bob un o'r undebau llafur cydnabyddedig

Pob un o Gadeiryddion y Rhwydweithiau Staff Cydraddoldeb

Un aelod lleyg

Un aelod cyfetholedig

Nodiadau:
Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 11.

  

Swyddogion y Pwyllgor

Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a fydd yn Ysgrifennydd

Cwnsler Cyfreithiol ac Ysgrifennydd y Brifysgol

Pennaeth Cydymffurfiaeth a Risg

Uwch Gynghorydd Cydymffurfiaeth a Swyddog y Gymraeg

Uwch-ymgynghorydd Cydymffurfio - Hil, Crefydd a Chred

Swyddog Cydymffurfio, Tîm Cydymffurfio a Risg

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Swyddog Adnoddau Dynol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Pennaeth Arweinyddiaeth a Datblygiad Staff

Rheolwr Datblygiad Sefydliadol

Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Ystadau

Academi Dysgu ac Addysgu – Arweinydd Cwricwlwm Cynhwysol

Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr

Pennaeth Cefnogi Materion Anabledd a Mynediad

Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr

Dirprwy Bennaeth Cyfathrebu

Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth TG a Gweithrediadau

Nodiadau:
Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.

Adeg Cynnal

3. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn gyda'r opsiwn o gyfarfodydd ad hoc ychwanegol a fydd yn cael eu trefnu os oes angen.

Cylch Gorchwyl

4. Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac i gynghori'r Cyngor ac argymell cynigion drwy'r Pwyllgor Llywodraethu, yn y meysydd busnes canlynol.

5. Datblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol ac arfer gorau ym mhob mater sy'n ymwneud â chyfle cyfartal ac amrywiaeth.

6. Dyfeisio ac argymell polisïau, gweithdrefnau a chynlluniau gweithredu i sicrhau bod cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn rhan annatod o holl feysydd gweithgarwch y Brifysgol;

7. Monitro polisïau a gweithdrefnau presennol i sicrhau bod yr holl ofynion deddfwriaethol yn cael eu bodloni a bod arferion gorau yn cael eu mabwysiadu;

8. Casglu ac adolygu data sy'n berthnasol i amrywiaeth a chydraddoldeb y materion sy'n ymwneud â myfyrwyr neu weithwyr yn rheolaidd ac argymell newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau fel y bo'n briodol;

9. Rhoi cyngor ar y ddarparu hyfforddiant priodol a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â’r holl faterion cyfle cyfartal ac amrywiaeth;

10. Pennu'r is-grwpiau hynny y gwêl yn dda i ddarparu cyngor ar feysydd polisi penodol neu ar faterion gweithdrefnol;

Dull Gweithredu

11. Bydd y Pwyllgor yn cynhyrchu adroddiad yn dilyn pob un o'i gyfarfodydd fel diweddariad ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu. Bydd papurau unigol yn cael eu cynhyrchu yn ôl yr angen, yn dibynnu ar eu natur a'r penderfyniadau sy'n ofynnol.

12. Bydd 'Grŵp Gweithredol EDI' yn cefnogi gwaith y Pwyllgor a'i drefniadau llywodraethu a chaiff ei adolygu'n flynyddol.

13. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater sy'n dod o fewn ei gylch gwaith:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Medi 2022
Dyddiad a chorff cymeradwyo:Y Pwyllgor Llywodraethu, 30 Medi 2022
I’w adolygu:Hydref 2023

Cylch Gorchwyl Yr Is-Bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles

Diben

1. Cynghori a chynorthwyo'r Cyngor, drwy'r Pwyllgor Llywodraethu, ar ddatblygu a gweithredu strategaeth, polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodaeth

Y Cadeirydd fydd yr Is-Ganghellor, neu enwebai o blith y Dirprwy Is-Ganghellor a'r Rhag Is-Gangellorion;

Un Aelod Lleyg a benodir gan y Cyngor ac o’i blith

Y Prif Swyddog Gweithredu;

 

Cadeiryddion Pwyllgorau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y Coleg;

 

tri aelod o staff, un o bob Coleg, a benodir gan Rag Is-Ganghellor y Coleg;

 

Dau o weithwyr Prifysgol Caerdydd nad ydynt yn aelodau o'r Senedd.

 

dau gynrychiolydd sy’n fyfyriwr a enwebir gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr

 

un cynrychiolydd o bob un o'r Undebau Llafur cydnabyddedig

 

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu enwebai

 

Cyfarwyddwr Ystadau neu enwebai;

 

Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro neu enwebai;

 

Cyfarwyddwr, y Ganolfan Cefnogi a Lles Myfyrwyr

 

Sylwer: Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 11.

 

Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol)

Cofrestrydd Academaidd neu enwebai;

unrhyw gynghorwyr eraill y mae’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn argymell y dylent fod yn bresennol

Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor yn cael ei enwebu gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

Sylwer: Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.

Dyletswyddau, Pwerau a Chylch Gorchwyl

Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:

3. monitro cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a chan ystyried arfer gorau, cynghori ar y camau sy'n angenrheidiol i gefnogi lles staff a myfyrwyr a sicrhau amgylchedd gwaith ac astudio diogel ac iach i staff, i fyfyrwyr ac i ymwelwyr awdurdodedig â'r Brifysgol;

4. monitro gweithrediad strategaethau, polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch a lles y Brifysgol a gwneud argymhellion ynghylch unrhyw gamau cywiro sydd eu hangen;

5. sefydlu is-bwyllgorau neu grwpiau, fel y bo'n briodol, i gynghori ar feysydd megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, addasu genetig, amddiffyn rhag ymbelydredd a diogelwch tân;

6. Gwerthuso’r ddarpariaeth o hyfforddiant diogelwch, iechyd, lles a chydymffurfiaeth amgylcheddol priodol i staff a myfyrwyr, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau diogelwch, iechyd, lles a chydymffurfiaeth amgylcheddol penodol a monitro effeithiolrwydd yr hyfforddiant a ddarperir;

7. adolygu'r ddarpariaeth o wybodaeth a chyfathrebu mewn perthynas ag ymwybyddiaeth o iechyd, diogelwch a llesiant;

8. annog cydweithio ac ymgynghori rhwng y Brifysgol a chynrychiolwyr staff a myfyrwyr er mwyn gwella iechyd a diogelwch a lles staff a myfyrwyr;

9. adolygu heriau cyfredol, rhai sy'n dod i'r amlwg a heriau posibl mewn perthynas ag iechyd, diogelwch, lles a chydymffurfiaeth amgylcheddol yn y cyd-destun allanol a allai gael effaith ar weithgareddau'r Brifysgol (gan gynnwys newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth), ystyried ymatebion posibl ac argymell newid lle bo hynny'n briodol;

10. ystyried adroddiadau gan y Grŵp Llywio Systemau Rheoli Amgylcheddol, Diogelwch a Lles Staff, Cymorth i Fyfyrwyr, Cynrychiolwyr Diogelwch Undebau Llafur, pwyllgorau iechyd a diogelwch Ysgol/Cyfarwyddiaeth, ac unrhyw gyrff priodol eraill;

11. darparu mewnbwn i gynllunio at argyfwng a pharhad busnes y Brifysgol;

12. cynghori'r Cyngor drwy'r Pwyllgor Llywodraethu ar oblygiadau iechyd a diogelwch a lles fel y bo'n briodol ar gyfer holl weithgareddau'r Brifysgol;

13.adolygu'r cynllun Iechyd, Diogelwch a Lles mewn perthynas ag amcanion strategol y Brifysgol;

14. adolygu perfformiad iechyd, diogelwch a lles i gynnwys adroddiadau archwilio, ystadegau damweiniau a chlefydau hysbysadwy a thueddiadau absenoldeb salwch; gan gynnwys (mewn partneriaeth â'r Is-bwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol) sicrhau cydlyniad ac aliniad strategol y System Rheoli Amgylcheddol;

15. darparu rhyngwyneb rhwng Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro ar faterion iechyd, diogelwch a lles.

Dull Gweithredu

16. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol:

  • Pwyllgor Addasu Genetig ac Asiantau Biolegol
  • Grŵp Llywio’r Systemau Rheoli Amgylcheddol
  • Pwyllgor SHE Coleg AHSS
  • Pwyllgor SHE Coleg BLS
  • Pwyllgor SHE Coleg PSE
  • Pwyllgor SHE Gwasanaethau Proffesiynol
  • Gweithgor Systemau Awyru Gwacáu Lleol

17. Bydd y Pwyllgor yn darparu adroddiad ar ei weithgareddau a'i argymhellion i'r Pwyllgor Llywodraethu.

18. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Mai 2023
Dyddiad a chorff cymeradwyo:Pwyllgor Llywodraethu (Mai 2023)
I’w adolygu:Hydref 2023

Cyfansoddiad Yr Is-Bwyllgor Buddsoddi a Bancio

Diben

1. Cynghori a chynorthwyo'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau drwy fonitro a chynghori ar strategaeth a pherfformiad buddsoddiadau’r Brifysgol a threfniadau bancio'r Brifysgol.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodau

Cadeirydd yr Is-bwyllgor, a fydd hefyd yn aelod o'r Cyngor

Dau aelod, y dylai o leiaf un ohonynt fod yn aelod lleyg o'r Cyngor

Y Llywydd a’r Is-Ganghellor (neu enwebai)

Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (neu enwebai)

Nodiadau:

Gellir penodi aelodau allanol ychwanegol, hyd at ddau ar y mwyaf, sydd â phrofiad mewn buddsoddi a bancio fel aelodau, pan nodir angen.

Mae’n rhaid i enwebiadau am aelodaeth gael eu hargymell i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.

Bydd Cadeirydd yr Is-bwyllgor, ex officio, yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.

 

Yn bresennol

Cadeirydd y Cyngor

Rheolydd Ariannol Grŵp

Pennaeth y Trysorlys a Gwaddoliadau

Rheolwyr buddsoddi i gyflwyno gweithgareddau eu portffolio

Nodiadau:

Gall unigolion gael eu gwahodd gan y Pwyllgor i gyflwyno ar eitemau penodol.

Bydd y Prif Swyddog Ariannol yn gweithredu fel Ysgrifennydd yr Is-bwyllgor.

Adeg Cynnal

3. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.

Cylch Gorchwyl

Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion, yn y meysydd busnes canlynol:

4. Strategaeth fuddsoddi'r Brifysgol, ei hegwyddorion buddsoddi gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion rheoleiddiol y Comisiwn Elusennau, CCAUC a'i olynwyr ac yn gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau fel y bo'n briodol;

5. Meini prawf perfformiad buddsoddi, a gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau fel y bo'n briodol;

6. Penodi, telerau a pherfformiad cytundebol rheolwyr a chynghorwyr buddsoddi'r Brifysgol, a gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau fel y bo'n briodol;

7. Argymell i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ar unrhyw orddrafft banc, cyfleusterau credyd (cylchol) a benthyca arall a godir drwy fondiau neu fel arall, gan gynnwys cymeradwyo trefniadau benthyciadau a phrydlesi cyllid sy'n uwch na gwerth £500k;

8. Adolygu'n barhaus a gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ar y defnydd o arian a buddsoddiadau sy'n deillio o'r bond cyhoeddus;

9. Cynnal goruchwyliaeth o'r Gronfa Ad-dalu Bondiau gyda'r bwriad o alluogi'r Brifysgol i ad-dalu'r swm llawn ar 7 Rhagfyr 2055;

10. Argymell i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ar benodi bancwyr a llofnodwyr banc dynodedig;

11. Argymell i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a phenodi prif yswiriwr corfforaethol y Brifysgol;

12. Sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni mewn perthynas â'r materion uchod a gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ac i'r Cyngor ar gyllido allanol;

Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:

13. Dirprwywyd awdurdod i’r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau gan y Pwyllgor er mwyn cymeradwyo'r eitemau canlynol:

  • a.Polisi Rheoli’r Trysorlys

Dull Gweithredu

14. Bydd yr Is-bwyllgor yn llunio adroddiad ar ôl pob cyfarfod ac yn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, gan roi manylion am y Strategaeth Fuddsoddi, perfformiad buddsoddi ac unrhyw risgiau strategol cysylltiedig.

15. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Medi 2022
Dyddiad a chorff cymeradwyo:Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau 14 Tachwedd 2022
I’w adolygu:Medi 2023

Cyfansoddiad Is-Bwyllgor Enwebiadau

Diben

1. Gall y Pwyllgor Llywodraethu gynnull Is-bwyllgor Enwebiadau i ystyried a chytuno ar argymhellion i'r Cyngor mewn perthynas â phenodiadau allweddol, gan gynnwys penodi ac ailbenodi Cadeirydd ac Aelodau Lleyg i'r Cyngor a'i bwyllgorau.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodaeth

Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu neu enwebai (Cadeirydd)

Cadeirydd y Cyngor a/neu Is-gadeirydd y Cyngor

Aelod Lleyg ychwanegol

Un Aelod o Staff (a benodir o blith aelodau'r Senedd ar y Cyngor)

 

Un Aelod Myfyriwr (wedi'i benodi o blith aelodau'r Myfyrwyr ar y Cyngor)

 

Nodiadau: Ni fydd unrhyw unigolyn yn gymwys i fod yn aelod os yw'r Pwyllgor yn ystyried ei benodiad ei hun, neu benodiad ei olynwyr yn y rôl honno.

Pan fo angen i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu eithrio ei hun, bydd aelod lleyg arall yn cadeirio'r cyfarfod

 

Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol)

Ysgrifennydd y Brifysgol a Chwnsler Cyffredinol

Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol

Cynghorydd Llywodraethu

Nodiadau: Ysgrifennydd y Brifysgol fydd Ysgrifennydd yr Is-bwyllgor Enwebiadau.

Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, gellir gwahodd swyddogion eraill, fel y bo'n briodol, i fynychu'r cyfarfod ar sail ad hoc.

Adeg Cynnal

3. Yn ôl penderfynir gan y Cadeirydd, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwrdd â'r terfynau amser gofynnol.

Cworwm

4. Pedwar aelod, ac eithrio unrhyw aelodau cyfetholedig.

Cylch Gorchwyl

Cyfrifoldeb i graffu, ac argymell cynigion i'r Cyngor, yn y meysydd busnes canlynol:

5. Penodiad a chyfnod swydd Cadeirydd y Cyngor, Is-gadeirydd y Cyngor, ac aelodau lleyg newydd i wasanaethu ar y Cyngor a'i is-bwyllgorau, yn ôl yr angen.

6. Penodiad a chyfnod swydd y Canghellor.

7. Recriwtio a dewis unrhyw Brentis Llywodraethwr.

Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:

8. Yn unol â chyfarwyddyd y Cyngor, gweithredu ymarferion chwilio a dethol ar gyfer Cadeirydd y Cyngor, Is-gadeirydd y Cyngor, ac aelodau lleyg newydd i wasanaethu ar y Cyngor a'i is-bwyllgorau, yn ôl yr angen.

9. Sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd i swyddi gwag aelodau lleyg o fewn y sefydliad ac y gwahoddir staff, myfyrwyr ac aelodau'r Cyngor i gyflwyno enwau i Ysgrifennydd y Cyngor i gael eu hystyried.

10. Penderfynu ar aelodaeth unrhyw baneli cyfweld cysylltiedig, a allai, yn achos recriwtio ar gyfer Cadeirydd y Cyngor, gynnwys aelod allanol.

Dull Gweithredu

11. Bydd yr is-bwyllgor Enwebiadau yn ystyried:

  • a. cydbwysedd yr aelodaeth ar y Cyngor ac anghenion y Brifysgol, gan ystyried yr angen i gynnal cydbwysedd priodol o ran sgiliau ac arbenigedd ac amrywiaeth aelodau, yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor Llywodraethu
  • b. dymunoldeb bod aelodau sy’n gysylltiedig â:
    • i. Materion diwydiannol, masnachol ac ariannol;
    • ii. Proffesiynau a chymdeithasau dysgedig;
    • iii. Y sectorau cyhoeddus ac iechyd;
    • iv. Cymunedau lleol.
  • c. Datganiad Annibyniaeth y Brifysgol ar gyfer Aelodaeth Leyg

12. Ar ôl cwblhau'r prosesau chwilio a dethol bydd yr Is-bwyllgor Enwebiadau yn hysbysu'r Pwyllgor Llywodraethu ac yn argymell yr ymgeiswyr llwyddiannus i'r Cyngor. Bydd hyn hefyd yn cynnwys hyd y cyfnod a argymhellir yn y swydd pan fo hynny'n berthnasol.

13. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Medi 2022
Dyddiad a chorff cymeradwyo:Y Pwyllgor Llywodraethu, 30 Medi 2022
I’w adolygu:Medi 2023

Cyfansoddiad Pwyllgor Ymchwil Agored, Gonestrwydd a Moeseg

Diben

1. Cynghori'r Pwyllgor Llywodraethu a'r Senedd ar strwythurau a gweithdrefnau llywodraethu gonestrwydd ymchwil y Brifysgol sy'n angenrheidiol ar gyfer sicrhau bod y Brifysgol yn bodloni gofynion y Concordat i Gefnogi Gonestrwydd Ymchwil.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

Aelodaeth

Rhag Is-Ganghellor a benodwyd gan yr Is-Ganghellor

Deoniaid y Coleg (Ymchwil), o bob un o'r Colegau

Chwe aelod o'r staff academaidd sydd â phrofiad mewn materion gonestrwydd a moeseg ymchwil, yn ddelfrydol o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil Ysgolion, dau o bob Coleg ar enwebiad y Senedd

Dau aelod lleyg a benodir gan y Cyngor, bydd un ohonynt yn aelod o'r Cyngor ac un ohonynt heb fod yn aelod o'r Cyngor ac yn annibynnol ar y Brifysgol

Un aelod sy'n Ymchwilydd ar Ddechrau ei Yrfa

Gall un aelod arall gael ei gyfethol

Sylwer: Bydd y Rhag Is-Ganghellor yn cadeirio'r Pwyllgor neu gall ddirprwyo'r rôl hon i un o Ddeoniaid Ymchwil y Coleg os bydd angen.

Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 11.

Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol)

Pennaeth Gonestrwydd Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg (ysgrifennydd)

Unigolyn Dynodedig ar gyfer Trwydded Ymchwil Deddf Meinweoedd Dynol y Brifysgol

Deiliad Trwydded y Sefydliad ar gyfer ymchwil anifeiliaid

Cadeirydd y Grŵp Llywodraethu Ymchwil ar y Cyd

Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil

Swyddog Gonestrwydd Gwaith Ymchwil a'i Lywodraethu

Rheolwr Cyfathrebu Ymchwil

Pennaeth y Gwasanaeth Sicrwydd

Llyfrgellydd y Brifysgol

Cyfarwyddwr Safonau a Gwasanaethau Biolegol

Deddf Meinweoedd Dynol (Unigolyn Dynodedig)

Rheolwr y Ddeddf Meinweoedd Dynol

Swyddog Asesu Ymchwil Gyfrifol (DORA)

Sylwer: Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.

Adeg Cynnal

2. Fel arfer, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf deirgwaith y flwyddyn, i gyd-fynd ag adrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu a'r Senedd.

Cworwm

3. Bydd y cworwm yn cynnwys chwe aelod, i gynnwys aelod lleyg.

Cylch Gorchwyl

4. Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion i'r Pwyllgor Llywodraethu, y Senedd neu Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

5. Mae’n gweithredu fel corff goruchwylio i wneud yn siŵr bod y Brifysgol yn bodloni gofynion Concordat UUK ar gyfer Cefnogi Gonestrwydd Ymchwil. Ymhlith y rhain mae:

(i) Cynnal safonau

Ymrwymiad #1: Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o drylwyredd a gonestrwydd ym mhob agwedd ar ymchwil.

(ii) Fframweithiau moesegol a fframweithiau eraill

Ymrwymiad #2: Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y cynhelir ymchwil yn unol â fframweithiau, rhwymedigaethau a safonau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol priodol.

(iii) Diwylliant gonestrwydd

Ymrwymiad #3: Rydym wedi ymrwymo i gefnogi amgylchedd ymchwil sy'n seiliedig ar ddiwylliant o onestrwydd ac sy'n seiliedig ar lywodraethu da, arfer gorau a chefnogaeth i ddatblygu ymchwilwyr.

(iv) Camymddwyn ym maes ymchwil

Ymrwymiad #4: Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio prosesau tryloyw, amserol, cadarn a theg i ddelio â honiadau o gamymddwyn ym maes ymchwil pan fyddant yn codi.

(v) Cryfhau gonestrwydd

Ymrwymiad #5: Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i gryfhau gonestrwydd ymchwil ac i adolygu cynnydd yn rheolaidd ac yn agored.

(vi) Ymchwil Agored

Ymrwymiad #6: Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n staff a'n myfyrwyr i ddatblygu dulliau arloesol i gefnogi Ymchwil Agored a'r defnydd cyfrifol o fetrigau ymchwil.

6. Mae’n cynnal Côd Ymarfer Gonestrwydd a Llywodraethu Gwaith Ymchwil y Brifysgol ac yn monitro ac yn adolygu ei effeithiolrwydd yn gyson.

7. Gweithredu fel corff goruchwylio, a chael adroddiadau, i sicrhau bod y Brifysgol yn bodloni gofynion Ymchwil Agored.

8. Cynnal ac adolygu 'Polisi Prifysgol Caerdydd ar gynnal ymchwil yn foesegol sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, deunydd dynol neu ddata dynol', 'Gweithdrefnau templed Prifysgol Caerdydd ar gyfer pwyllgorau moeseg ymchwil ysgolion' a dogfennau cysylltiedig, gan gynnwys adolygiad o adroddiadau blynyddol Pwyllgorau Moeseg Ymchwil yr Ysgol.

9. Cael adroddiadau ar honiadau o gamymddwyn ym maes ymchwil academaidd a gall wneud argymhellion ar faterion cyffredinol sy'n codi o achosion o'r fath.

10. Sicrhau bod mecanweithiau priodol yn bodoli o fewn y Brifysgol i ymdrin â chwynion sy'n codi mewn perthynas â gonestrwydd a moeseg ymchwil. Wrth arfer y pŵer hwn ni fydd y Pwyllgor yn penderfynu a yw'n angenrheidiol a/neu'n briodol cynnal prosiect ymchwil penodol. Ni fydd y pŵer hwn yn ymyrryd â 'Gweithdrefnau Prifysgol Caerdydd ar gyfer Ymdrin â Honiadau o Gamymddwyn mewn Ymchwil Academaidd'.

Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:

11. Adolygu adroddiadau blynyddol Pwyllgorau Moeseg Ymchwil Ysgolion a gyflwynwyd i'r Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi.

12. Ystyried apeliadau ac atgyfeiriadau a gyflwynwyd gan Bwyllgorau Moeseg Ymchwil Ysgolion drwy Bennaeth yr Ysgol, yn unol â'r 'Gweithdrefnau ar gyfer Ysgolion Prifysgol Caerdydd mewn perthynas ag ymchwil anghlinigol sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, deunydd dynol neu ddata dynol'.

13. Hyfforddiant Gonestrwydd Ymchwil.

14. Adroddiadau a dderbyniwyd gan ei Is-bwyllgorau.

Dull Gweithredu

15. Bydd y Pwyllgor yn:

(i) llunio adroddiad blynyddol a gaiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu i’w gymeradwyo.   Bydd yr adroddiad yn:

  • crynhoi camau a gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw er mwyn cynnal a chryfhau’r broses o ddeall a defnyddio gonestrwydd ymchwil;
  • rhoi sicrwydd bod y prosesau sydd ar waith er mwyn delio â chyhuddiadau o gamymddwyn yn dryloyw, yn gadarn, ac yn deg, a'u bod yn parhau i fod yn addas at anghenion y sefydliad;
  • darparu datganiad lefel uchel ynghylch unrhyw ymchwiliadau ffurfiol i gamymddwyn ym maes ymchwil a gafwyd;
  • bod ar gael i'r cyhoedd.

(ii) adrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ar unrhyw anawsterau sydd heb eu datrys mewn perthynas â'i gylch gwaith;

(iii) ceisio eglurhad gan gyrff arbenigol allanol, yn ôl yr angen, ar faterion gonestrwydd a moeseg ymchwil.

16. Bydd y Pwyllgor yn cyfeirio materion y Senedd fel y bo'n briodol.

17. Gall y Pwyllgor sefydlu gweithgorau o'r fath fel sy'n angenrheidiol i gynghori ar faterion o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

18. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu'r Is-bwyllgorau canlynol a bydd yn monitro cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol drwy dderbyn, ym mhob cyfarfod, adroddiad gan bob un o'r Is-bwyllgorau:

  1. Pwyllgor Safonau Biolegol
  2. Y Pwyllgor Safonau Meinweoedd Dynol
  3. Grŵp Llywodraethu Ymchwil ar y Cyd
  4. Y Grŵp Gweithredol ar Ymchwil Agored

Yn ogystal, mae'r Gweithgor Diwylliant Ymchwil yn adrodd i'r Pwyllgor.

19. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • cynaliadwyedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Mai 2023
Dyddiad a chorff cymeradwyo: Pwyllgor LlywodraethuMai 2023
I’w adolygu:Medi 2024

Pwyllgor Cyflogau Athrawon ac Uwch-Aelodau Staff

Diben

1. Sefydlwyd gan y Pwyllgor Taliadau, i adolygu a phenderfynu ar daliadau, buddion ac amodau cyflogaeth Uwch Staff (Athrawon, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Proffesiynol a Gwasanaethau Proffesiynol eraill ar raddfa gyflog yr Uwch Staff) o fewn y strategaeth, y polisi a'r paramedrau a bennir gan y Pwyllgor Taliadau ac a gymeradwywyd gan y Cyngor.

Cyfansoddiad ac Aelodaeth

2. Bydd y Pwyllgor yn cael ei gyfansoddi fel a ganlyn:

Aelodaeth

Y Llywydd a'r Is-Ganghellor, a fydd yn Gadeirydd y Pwyllgor;

Y Dirprwy Is-Ganghellor a fydd yn gweithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor yn absenoldeb yr Is-Ganghellor;

Y tri Rhag Is-Ganghellor sy’n Benaethiaid Colegau;

 

Y Prif Swyddog Gweithredu;

 

Y Prif Swyddog Ariannol

 

Nodiadau:

Bydd y broses o benodi i fod yn aelod o'r Pwyllgor a thelerau'r swydd yn unol ag Ordinhad 11

 

Swyddogion Pwyllgor (yn bresennol)

Partner Busnes Adnoddau Dynol (Polisi a Phrosiectau), neu aelod arall o'r tîm Adnoddau Dynol fel y bo'n briodol a fydd yn gweithredu fel Ysgrifennydd y Pwyllgor

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Nodiadau:

Fel arfer bydd yr unigolyn sy'n gweithredu fel Ysgrifennydd y Pwyllgor hefyd yn cymryd cofnodion ar gyfer y Pwyllgor. Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd gwahoddir Swyddogion eraill y Brifysgol, aelodau lleyg neu bartïon penodedig eraill (e.e. archwilwyr allanol) fel y bo'n briodol, i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc.

Adeg Cynnal

3. Bydd y Pwyllgor yn penderfynu ar ei amserlen ei hun ar gyfer cyfarfodydd ond disgwylir iddo gwrdd ar ddau achlysur bob blwyddyn o leiaf.

Cylch Gorchwyl

Cyfrifoldeb i graffu ar berfformiad y Brifysgol, ac argymell cynigion i'r Pwyllgor Taliadau, yn y meysydd busnes canlynol:

4. adolygu a phenderfynu ar daliadau, buddion ac amodau cyflogaeth Athrawon, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Proffesiynol a Gwasanaethau Proffesiynol eraill ar raddfa gyflog yr Uwch Staff o fewn y strategaeth, y polisi a'r paramedrau a bennir gan y Pwyllgor Taliadau ac a gymeradwyir gan y Cyngor, gan ystyried gwybodaeth gymharol am daliadau, buddion ac amodau cyflogaeth yn sector y Brifysgol ac mewn mannau eraill fel y bo'n briodol

5. gwneud argymhellion ar drefniadau gwobrwyo ar gyfer aelodau staff o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

6. adolygu'r trefniadau ar gyfer tâl athrawon ac uwch swyddogion eraill y Brifysgol o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gan ystyried arfer gorau o fewn sector y Brifysgol ac mewn mannau eraill fel y bo'n briodol a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau.

Awdurdod i gymeradwyo argymhellion mewn perthynas â:

7. tâl, buddion ac amodau cyflogaeth Athrawon, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Proffesiynol a Gwasanaethau Proffesiynol eraill ar raddfa gyflog yr Uwch Staff o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

8. tâl penodiadau newydd (gan gynnwys dyrchafiad i gadair bersonol) o fewn y paramedrau penodol a'r trefniadau dirprwyo ar eu cyfer yn unol ag atodiad 1.

9. diwygiadau yn ôl disgresiwn i daliadau a wneir rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor; ac i adolygu penderfyniadau a wneir rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor. Diwygiadau yn ôl disgresiwn i dâl rhwng cyfarfodydd o hyd at 10% o'r cyflog sylfaenol i'w gymeradwyo gan yr Is-Ganghellor. Achosion uwchlaw'r gwerth hwn i'w hargymell gan yr Is-Ganghellor i'w cymeradwyo gan Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau.

10.cymeradwyo unrhyw delerau diswyddo ar gyfer staff y Brifysgol o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Cyflogau Athrawon ac Uwch pan fydd eu cyflogaeth yn dod i ben, gan weithredu o fewn y fframwaith a bennwyd gan y Pwyllgor Taliadau.

  • a. Dirprwyo pŵer i'r Rhag Is-Ganghellor/Rhag Is-Gangellorion, Cyfarwyddwr AD a'r Prif Swyddog Ariannol i gymeradwyo trefniadau diswyddo o hyd at 12 mis o gostau gros (hyd at uchafswm o £100,000) gyda chymeradwyaeth yr Is-Ganghellor ar gyfer yr holl drefniadau sy'n uwch na'r gwerth hwn
  • b. gydag uchafswm safonol o 2 flynedd o gostau gros ar gyfer cytundebau a awdurdodir gan yr Is-Ganghellor.
  • c. costau gros safonol 3 blynedd ar gyfer cytundebau a awdurdodwyd gan Gadeirydd/Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau.  
  • d. Cynigion ar gyfer cytundebau sy'n uwch na 3 blynedd o gostau gros i'w hystyried mewn cyfarfod a gynullwyd yn arbennig o'r Pwyllgor Taliadau.  Dylai achosion o'r fath gynnwys achos busnes.

Dull Gweithredu

11. Bydd y pwyllgor yn ystyried y canlynol ym mhob mater:

  • a. budd y myfyrwyr a budd y cyhoedd
  • b. cynaliadwyedd
  • c. cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

12. Bydd y Pwyllgor yn darparu adroddiad llawn o'i benderfyniadau i'r Pwyllgor Taliadau, bydd yr adroddiad yn dryloyw ac yn bodloni gofynion llywodraethu da.

13. Bydd y Pwyllgor yn hyrwyddo cyfrifoldebau'r Brifysgol dros gydraddoldeb ac amrywiaeth drwy sicrhau bod materion perthnasol yn cael eu hystyried yn llawn ym mhob mater sy'n ymwneud â thâl yr holl staff sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

Atodiad 1 Paramedrau a threfniadau dirprwyo

a) Recriwtio thrawol

Lefel penodi:

Awdurdod

Band 1

Argymhellir gan Bennaeth yr Ysgol a’i gymeradwyo gan Rag Is-ganghellor y Coleg.

Mae’n rhaid i gyflogau sy’n uwch nag uchafswm y band gael eu cymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

Band 2

Argymhellir gan Rag Is-ganghellor y Coleg a’i gymeradwyo gan y Dirprwy Is-ganghellor.

Mae’n rhaid i gyflogau sy’n uwch nag uchafswm y band gael eu cymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Band 3

Argymhellir gan Rag Is-ganghellor y Coleg i’w gymeradwyo gan y Dirprwy Is-ganghellor a’r Is-ganghellor.

Mae’n rhaid i gyflogau sy’n uwch nag uchafswm y band gael eu cymeradwyo gan yr Is-ganghellor, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Bydd angen i’r Is-ganghellor gymeradwyo pob cyflog sy’n uwch na’r raddfa gyflog bresennol gyda chymorth gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

Bydd angen i’r Is-ganghellor a Chadeirydd y Pwyllgor Taliadau (neu ei ddirprwy) gymeradwyo pob cyflog sy’n £150,000 neu’n fwy na hynny, gyda chymorth gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

b) Uwch Staff Proffesiynol — Penderfynu ar daliadau

Bydd recriwtio i bob rôl Uwch Staff Proffesiynol yn amodol ar werthusiad swydd HAY gan Adnoddau Dynol a rhoddir Haen, gyda chyflog yn cael ei bennu gan y farchnad a’i gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr a’r Prif Swyddog Gweithredu. Pan fo angen ychwanegiad marchnad oherwydd grymoedd y farchnad, bydd y broses hon yn cael ei chefnogi gan y Cyfarwyddwr AD.

Rheoli Fersiynau

Adolygwyd y cylch gorchwyl ddiwethaf:Tachwedd 2022
Dyddiad a chorff cymeradwyo: Pwyllgor Taliadau;Tachwedd 2022
I’w adolygu:Tachwedd 2023

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Is-bwyllgorau a phaneli sefydlog
Dyddiad dod i rym:01 Rhagfyr 2022