Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Trais

Mae'r Grŵp Ymchwil Trais wedi helpu gyda chamau ymarferol i leihau anafiadau yn dilyn ymosodiadau treisiol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Dyfarnwyd un o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines i Addysg Uwch a Phellach i'r Grŵp yn 2009.

Sefydlwyd y grŵp ym 1991 ar ôl i'r llawfeddyg y genau a'r wyneb Jonathan Shepherd weld ei fod yn trin mwy a mwy o ddioddefwyr ymosodiadau a gafodd eu safnau a'u hesgyrn bochau wedi'u torri. Ond nid adroddwyd llawer o'r achosion hyn erioed i'r heddlu.

Dywedodd yr Athro Shepherd: "Roedd pobl ar fy mwrdd llawdriniaeth bob bore dydd Iau, wedi'u hanafu gan rywun nad oedd erioed wedi mynd o flaen y llys. Doedd hynny ddim yn iawn. Roedd angen i ni wneud yn well na hyn."

Dangosodd ymchwil cynnar nad oedd yr heddlu'n clywed am saith allan o bob wyth ymosodiad ar dir ysbyty a arweiniai at driniaeth yn yr ysbyty. Yn amlwg, roedd angen mwy o astudiaeth - a mwy o gamau gweithredu.

Erbyn hyn mae gan y grŵp arbenigedd mewn Meddygaeth, Seicoleg, Busnes a Deintyddiaeth. Mae eu cyflawniadau yn cynnwys:

  • Adnabod achosion trais, ardaloedd â phroblemau trais ac arfau a oedd gynt yn anhysbys
  • Creu Grŵp Atal Trais Caerdydd, gan rannu gwybodaeth gyda'r heddlu, gwasanaethau iechyd a chyrff eraill i leihau trais. Mabwysiadwyd y model hwn erbyn hyn ledled y DU.
  • Datblygu rhaglenni gofal newydd ar gyfer dioddefwyr a throseddwyr

Rhyngddynt, mae aelodau'r Grŵp wedi cyhoeddi darganfyddiadau mewn mwy na 420 o bapurau mewn cylchgronau blaenllaw. Maen nhw'n arwain rhwydweithiau ymchwilio cenedlaethol a rhyngwladol ac wedi cyflwyno atal trais mewn cyrsiau deintyddol i israddedigion.

Mae eu harloesedd a'u harbenigedd academaidd wedi'u cydnabod gyda dyfarniadau sy'n cynnwys:

  • Gwobr Stockholm ar gyfer Troseddeg 2008
  • Gwobr Sellin-Glueck gan Gymdeithas Droseddeg America 2003.