Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol

Mae Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol y Brifysgol yn arloesi ym maes peirianneg eoamgylcheddol. Dyfarnwyd Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach Pen-blwydd y Frenhines i'r Ganolfan yn 2013.

Dan arweiniad yr Athro Hywel Thomas, sefydlwyd y Ganolfan ym 1996, a'i nod yw ymateb i faterion gwirioneddol sy'n yn effeithio ar bobl ledled y byd. Mae'n canolbwyntio ar broblemau amgylcheddol ar y tir fel llygredd a halogi dŵr daear.

Unodd ddisgyblaethau traddodiadol peirianneg amgylcheddol a geotechnegol gan fabwysiadu dull oedd yn unigryw ar y pryd. Roedd yn cynnwys rhanddeiliaid o lawer o ddisgyblaethau, oedd yn datblygu datrysiadau holistig i'r problemau byd-eang mawr hyn.

Dros y 17 flynedd ddiwethaf, mae staff y Ganolfan wedi gweithio yn rhai o'r amgylcheddau mwyaf peryglus yn y byd ac ar rai o'r materion mwyaf dadleuol. Yn Affrica, helpodd staff i ddynodi a rheoli tir oedd wedi'i halogi gan lygryddion organig parhaus. Ym Mae Bengal, helpodd ymchwil y Ganolfan i ganfod datrysiadau i'r achos gwaethaf o wenwyn torfol yn y byd.

Ymrwymiad i ddiwydiant

Yma yng Nghymru, mae llwyddiannau'r Ganolfan yn cynnwys helpu i ddatblygu cynnyrch taenu hadau gwair ffibr newydd ac arloesol; dangos sut y gellid ailddefnyddio gwastraff sorod o waith adeiladu a ffwrnais chwyth i adeiladu gwrthgloddiau; a datblygu techneg newydd i drosi gwastraff diwydiannol yn amnewidion sment.

Yn Ewrop mae'r Ganolfan wedi arloesi gyda 'llawlyfr ymarfer gorau' ar gyfer datblygu cynaliadwy ar dir a ddefnyddid yn flaenorol at ddibenion masnachol neu ddiwydiannol. Mae'r llawlyfr a'r fethodoleg wedi'u defnyddio i ailddatblygu hen bwll glo Sosnowiec yng Ngwlad Pwyl. Mae Parc Diwydiannol a Thechnolegol wedi'i lansio ar y safle hwn. Yn Stuttgart dynodwyd a thrafodwyd amcanion cynaliadwy wrth ddatblygu'r safle o amgylch gorsaf nwyddau Bad Cannstatt.

Aelodau'r Tîm

Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan yn cynnwys: 

  • dau uwch-ddarlithydd
  • dau ddarlithydd
  • dau gymrawd ymchwil
  • un rheolwr prosiect
  • chwe chydymaith ymchwil
  • wyth cynorthwyydd ymchwil
  • 19 o fyfyrwyr PhD.

Y Cyfarwyddwr yw'r Athro Hywel Thomas, FREng FRS FLSW MAE, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Rhyngwladol ac Ymgysylltu. Ef sefydlodd y Ganolfan ym 1996 ac sydd wedi'i harwain byth ers hynny.

Gwobrau a Chydnabyddiaeth

I gydnabod ei datblygiadau ymchwil pwysig, mae gwaith y Ganolfan wedi'i gadarnhau'n rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys:

  • cael ei henwi'n Ganolfan Rhagoriaeth/Arbenigedd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA) – yr unig Ganolfan yn y DU i ennill y statws hwn
  • cael Cadair mewn Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy gan Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO)
  • derbyn cydnabyddiaeth gan Sefydliad Datblygu Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig (UNIDO) fel partner ymchwil swyddogol, mewn perthynas â'i gwaith ar lygryddion organig parhaus.