Ewch i’r prif gynnwys

Proffeswriaeth Frenhinol

Mae teitl Proffeswriaeth Frenhinol yn ddyfarniad prin a mawreddog gan y Frenhines i gydnabod ymchwil o safon eithriadol o uchel mewn sefydliad.

Tan yn ddiweddar, braint prin iawn ar gyfer prifysgolion hynafol y DU oedd Proffeswriaeth Frenhinol. Brenin James IV ddyfarnodd y Broffeswriaeth Frenhinol gyntaf ym 1497.

Yr Ysgol Cemeg

I ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn 90 oed, dyfarnwyd Proffeswriaeth Frenhinol i’r Ysgol Cemeg ym mis Mehefin 2016. Cyflwynwyd yr anrhydedd i gydnabod ymchwil ac addysgu eithriadol yr Ysgol Cemeg dros flynyddoedd lawer, yn ogystal â'i rôl wrth sbarduno twf a gwella cynhyrchiant yn y DU.

Mae’r teitl Proffeswriaeth Frenhinol wedi’i roi i'r Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn yr Ysgol Cemeg.

Professor Graham Hutchings in CCI lab
Yr Athro Graham Hutchings

Mae'r Athro Hutchings, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, yn un o arbenigwyr mwyaf rhagorol y byd ym maes catalysis – y broses o gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy.

Darganfyddiad nodedig yr Athro Hutchings yn ystod ei amser yn CCI yw bod aur yn gatalydd nodedig ar gyfer rhai adweithiau, yn enwedig wrth gynhyrchu finyl clorid, prif gynhwysyn PVC. O ganlyniad uniongyrchol i'w waith ymchwil arloesol, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu gan gwmni cemegau Johnson Matthey o'r DU mewn cyfleuster pwrpasol yn Tsieina.