Ewch i’r prif gynnwys

Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down

Mae Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang o ran ymchwil a thrin problemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down.

Enillodd un o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch a Phellach yn 2017.

Mae plant sydd â syndrom Down yn fwy tebygol o ddioddef anhwylderau llygaid a golwg na phlant sy’n datblygu’n arferol, mae’n rhaid iddynt gael profion golwg rheolaidd, ac maent yn fwy tebygol o angen sbectol a chymhorthion yn y dosbarth ar gyfer diffygion golwg.

Cyn sefydlu'r Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down, roedd dealltwriaeth o’r problemau golwg penodol hyn yn isel, roeddent yn cael eu camddehongli ac nid oeddent yn cael eu canfod. O ganlyniad, sefydlwyd yr Uned, mewn ymateb uniongyrchol i'r diffyg ymchwil yn y maes. Mae bellach ar flaen y gad o ran ymchwil yn y maes.

Gyda chymorth grŵp mawr a brwdfrydig o deuluoedd, mae ein huned ymchwil wedi cael y cyfle i wella dealltwriaeth o ddatblygiad golwg plant sydd â syndrom Down, newid syniadau am y ffordd y caiff eu problemau golwg eu gweld a’u trin, a chwyldroi’r gofal llygaid sydd ar gael iddynt ar draws y Deyrnas Unedig (DU) a thramor.

Dr Margaret Woodhouse Senior Lecturer

Mae darganfyddiadau’r Uned, sy’n newid bywydau, megis y broses sy’n cywiro gwallau mewn methiannau babanod nodweddiadol yn y rheiny sydd â syndrom Down, a manteision sbectol ddeuffocal i’w cyflyrau, wedi ffurfio sail uniongyrchol i ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol ar ofalu am eu golwg. Mae’r ymchwil hefyd wedi llywio hyfforddiant ar gyfer optometryddion ac wedi newid y ffordd y mae’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â syndrom Down, ac sy’n eu haddysgu, yn sefydlu’r amgylchedd dysgu.

Dim ond ambell enghraifft o waith arloesol yr Uned yw'r newidiadau i'r profion golwg, y dulliau addysgu a’r adnoddau ar gyfer plant sydd â syndrom Down.

Ers 1992, mae'r uned wedi ffurfio unig garfan hydredol y byd o bobl ifanc sydd â syndrom Down. Ar hyn o bryd, mae dros 250 o blant ac oedolion ifanc o bob rhan o’r DU yn cymryd rhan yn ei hastudiaethau, yn amrywio o 1 i 25 mlwydd oed. Mae golwg a datblygiadau cyffredinol pob unigolyn wedi’i fonitro gan yr Uned dros amser, gan wneud y grŵp hwn a’i ddata yn unigryw; dyma’r gronfa ddata mwyaf o'i math yn y byd.

Hefyd, yr Uned yw’r unig ganolfan addysgu optometreg yn y DU sy'n cynnwys cwrs pwrpasol uniongyrchol mewn optometreg anghenion arbennig fel rhan o'r cwricwlwm israddedig.

Dros y blynyddoedd nesaf, mae aelodau o'r Uned yn bwriadu troi eu sylw at weithredu gwasanaeth gofal llygaid arbennig mewn ysgolion yng Nghymru, drwy ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr optometryddion  a fydd yn cymryd rhan. Maent hefyd, drwy gydweithio a phartneriaid, yn anelu at sefydlu gwasanaeth tebyg yn nhair gwlad arall y DU.

Ar hyn o bryd, mae’r Uned yn cynnwys naw aelod o staff ac un myfyriwr ymchwil ôl-raddedig. Mae ganddi 11 o gyn-aelodau a’r gallu i ddenu ymchwilwyr gwadd o ansawdd uchel i'r Brifysgol.

Gwobrau a chydnabyddiaeth

Mae effaith a datblygiadau ymdrechion yr Uned wedi’u cydnabod gyda gwobrau mawr, yn ogystal â gwobrau cymunedol llai, sy'n dyst i’r cysylltiadau gwirioneddol a pharhaol mae'r Uned hon wedi’u datblygu. Mae aelodau o'r uned hefyd wedi’u henwebu i safleoedd o bwys sy’n adlewyrchiad cadarnhaol o weithgarwch ymchwil y sefydliad

Dyma rai enghreifftiau:

  • Myfyrwyr yn Gwella Diogelwch Cleifion ac Ansawdd, Gwobrau GIG Cymru 2016.
  • Gwobr Cyflawniad Oes, Cymdeithas Ymarferwyr Optegol 2015.
  • OBE i Gyfarwyddwr yr Uned, am wasanaethau i Optometreg a phobl gydag anableddau yn 2014.
  • Clinig Asesu Arbennig – gwobr am Ragoriaeth Glinigol, Gwobrau Gweithwyr Awtistiaeth Proffesiynol 2013.
  • Crybwyllwyd fel enghraifft dda yn y categori Gwobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Deall Anabledd 2012.
  • Aelod a chynghorydd i’r Grŵp Diddordeb Meddygol Syndrom Down – y sefydliad anfeddygol cyntaf i gael gwahoddiad i ymuno.