Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau a gwobrau

Mae ein hacademyddion a'n hymchwilwyr wedi ennill llawer o anrhydeddau a gwobrau sy'n cydnabod eu harloesedd a'u darganfyddiadau.

Mae'r datblygiadau maen nhw gyfrifol amdanynt wedi arwain at newidiadau yn eu dewis feysydd ac wedi helpu i'n gwneud ni'n sefydliad sy'n arwain y byd.

Rydym ni hefyd yn dyfarnu teitl Cymrawd Er Anrhydedd bob blwyddyn i'r bobl hynny rydym ni'n teimlo sydd wedi cyflawni statws rhyngwladol nodedig yn eu maes - neu sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol sy'n symud addysg yn ei blaen.

Enillwyr Gwobrau Nobel

Gwobr ryngwladol yw Gwobr Nobel sy’n cael ei gweinyddu gan Sefydliad Nobel yn Stokholm, Sweden

Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines

Dyfarnwyd saith o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines i’n timau ymchwil ac aelodau o'r staff.

Proffeswriaeth Frenhinol

Mae teitl Proffeswriaeth Frenhinol yn ddyfarniad prin a mawreddog gan y Frenhines i gydnabod ymchwil o safon eithriadol o uchel mewn sefydliad.

Y Gymdeithas Frenhinol

Cymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol yw’r anrhydedd uchaf y gall gwyddonydd ei derbyn, ar wahân i Wobr Nobel.

Yr Academi Frenhinol Peirianneg

Daw’r Academi â’r peiriannwyr amlycaf o bob disgyblaeth at ei gilydd

Yr Academi Brydeinig

Dyma aelodau o’n staff sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ac sydd wedi dod yn Gymrodyr yr Academi Brydeinig.

Academi'r Gwyddorau Meddygol

Mae Cymrodoriaeth yr Academi’n seiliedig ar gyfraniadau eithriadol i’r gwyddorau meddygol.

Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

Academyddion Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yw'r ysgolheigion a'r ymarferwyr mwyaf nodedig o feysydd academia a'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Ystyrir y rhai hynny sydd wedi dangos rhagoriaeth ac sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r byd dysgu.

Academia Europaea

Mae aelodau Academia Europaea yn wyddonwyr ac yn ysgolheigion o ledled Ewrop sy'n flaenllaw yn eu meysydd arbenigol.

Academi Genedlaethol y Gwyddorau

Caiff aelodau eu hethol i Academi Genedlaethol y Gwyddorau America i gydnabod llwyddiannau nodedig a pharhaus mewn ymchwil wreiddiol.