Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu iaith am ddim

Gallwch agor byd o leoliadau newydd, diwylliannau ysbrydoledig a dewisiadau gyrfaol cyffrous trwy gofrestru am gwrs iaith yn rhad ac am ddim.

Mae siarad iaith yn eich galluogi i feddwl tu hwnt i'ch gorwelion. Cymerwch y cam cyntaf ar hyd y llwybr byd-eang drwy wneud cais ar gyfer cwrs Ieithoedd i Bawb, a ddarparir yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr ar raglenni gradd.

Astudiwch mewn ffordd sy'n addas i chi

Mae Ieithoedd i Bawb yn rhoi'r cyfle i chi ddysgu iaith o'r newydd neu i wella eich sgiliau mewn iaith rydych yn ei charu. Mae'r rhaglen yn cael ei gynnal ochr yn ochr â'ch prif astudiaethau ac yn cynnig dewisiadau astudio hyblyg. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau a addysgir wythnosol a chyrsiau dwys, yn ogystal ag astudiaeth annibynnol.

Dewiswch o blith amrywiaeth o ieithoedd a lefelau

Mae’r rhaglen Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ieithoedd a lefelau dysgu, o ddechreuwyr (lefel A1 CEFR) i hyfedredd (lefel C1 CEFR).

Ar hyn o bryd, mae’n cynnig modiwlau wythnosol a dwys mewn Arabeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg,  Japanaeg, Tsieinëeg Mandarin, Portiwgaleg, Rwsieg a Sbaeneg.

Gallwch gael ymarfer pellach yn yr ieithoedd hyn neu drio iaith newydd drwy ddefnyddio’r dewis annibynnol, sy’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau llyfrgell faterol ac ar-lein; a ‘Chanolfan Iaith', man pwrpasol wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr iaith.

Gwyliwch ein fideo am ddysgu iaith ym Mhrifysgol Caerdydd

Cyfleoedd i ymarfer tu allan i'r dosbarth

Mae Ieithoedd i Bawb hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i wella’ch sgiliau tu allan i’r dosbarth. Mae cyfleoedd yn cynnwys Cynllun Cyfnewid Iaith lle gallwch chwilio am bartner i ymarfer gyda nhw, a Chaffi Iaith lle gallwch siarad gyda siaradwyr brodorol mewn amgylchedd cymdeithasol, hamddenol.

Maen nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyfleoedd Byd-eang, fel eich bod yn gallu paratoi yn ieithyddol a diwylliannol ar gyfer eich gwaith, gwirfoddoli neu leoliad astudio dramor.

Gallwch hefyd ddysgu Cymraeg am ddim drwy ein rhaglen Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Cysylltwch â ni

Ieithoedd i Bawb