Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn arweinydd cydnabyddedig mewn ysgolheictod cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig, ac mae ei faint yn ei alluogi i gynnal diwylliant ymchwil bywiog.

Rydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer ysgoloriaeth Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i Raddedigion Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS). Y dyddiad cau yw 1pm ar 12 Ionawr 2024. Ewch i'n hadran ynghylch ysgoloriaeth a phrosiectau PhD diweddaraf i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ddiwylliant ymchwil ôl-raddedig sy’n ffynnu. Yr ydym yn awyddus i ddenu ac ymgysylltu gyda'r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion cyfreithiol ac i annog ymchwil arloesol mewn amrywiaeth eang o feysydd.

Rydym yn awyddus i ddenu’r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion cyfreithiol ac annog ymchwil arloesol ar draws amrywiaeth o feysydd y Gyfraith gan gynnwys cyfraith fasnachol, gwahaniaethu, meddygol, teulu a chyfiawnder sifil.

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i astudio’n amser llawn neu’n rhan amser gan arwain at raddau MPhil a PhD.

Nodweddion unigryw

  • Dyrennir gofod swyddfa i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig llawn amser yng Nghanolfan Graddedigion yr Ysgol ei hun.
  • Mae gan fyfyrwyr ymchwil hawl i gymorth ariannol ar gyfer teithio neu ymchwil sy’n gysylltiedig â pwnc cymorth (e.e. mynychu cynhadledd neu ymweld â llyfrgell arbenigol) ar gyfer pob blwyddyn o’u goruchwyliaeth.
  • Efallai y bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymgymryd ag addysgu rhan-amser ar y rhaglenni israddedig.
  • Mae'r Ysgol yn annog amrywiaeth unigol ac yn hybu arloesedd mewn ymchwil.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd, MPhil 2 flynedd
Hyd rhan-amser PhD 5-7 mlynedd, MPhil 2-3 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Gallwn gynnig goruchwyliaeth mewn amrywiaeth eang o bynciau cyfreithiol, gan gynnwys:

  • Cyfraith Islamaidd
  • Cyfiawnder Sifil
  • Cyfraith Masnach
  • Cyfraith Cwmnïau
  • Cyfraith Gymharol
  • Cyfraith Contractau
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Llywodraethu Corfforaethol
  • Cyfraith a Chyfiawnder Troseddol
  • Cyfraith Gwahaniaethu
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Cyfraith Amgylcheddol ac Ynni
  • Cyfraith a Llywodraethiant Ewropeaidd
  • Cyfraith Teulu
  • Theori Gyfreithiol Ffeministaidd
  • Rhyw a'r Gyfraith
  • Llywodraethiant a Datganoli
  • Cyfraith Hawliau Dynol (LLM)
  • Cyfraith Masnach Gydwladol
  • Cyfraith Droseddol Ryngwladol
  • Eiddo Deallusol
  • Cyfraith Ddyngarol Ryngwladol
  • Cyfraith Ryngwladol Ffoaduriaid a Lloches
  • Astudiaethau Barnwrol a Phenderfyniadau Chyfreithiol
  • Polisi Tir a Diwygio Tir
  • Y Gyfraith a Datblygu
  • Y Gyfraith a Llenyddiaeth
  • Theori Cyfreithiol a Chymdeithasol
  • Arbenigedd Cyfreithiol
  • Cyfraith Meddygaeth
  • Cyfraith Iechyd Meddwl
  • Technolegau Newydd a Rheoli Risg
  • Cyfraith Ryngwladol Breifat
  • Cyfraith Eiddo
  • Cyfraith Gydwladol Gyhoeddus
  • Cyfraith, Theori a Pholisi Cyhoeddus
  • Cyfraith Grefyddol
  • Cyfraith Gofal Cymdeithasol
  • Cyfraith Chwaraeon
  • Cyfraith Camwedd
  • Datrys Anghydfodau Rhyngwladol
  • Ymddiriedolaethau.

Os nad ydym yn crybwyll y maes y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael sgwrs anffurfiol.

Mae gan yr Ysgol bedwar prif grwp clwstwr ymchwil sy’n gysylltiedig â’r Gyfraith:

  • Meddygaeth, Gofal Iechyd a Chymdeithas
  • Llywodraethiant a Chyfansoddiaeth
  • Cyfiawnder Gweithdrefnol
  • Rheoleiddio Gweithgarwch Masnachol.

Mae'r grwpiau hyn yn adlewyrchu ein cryfderau allweddol ac yn darparu cymuned gefnogol ar gyfer meithrin ymdrech deallusol ac ysgolheigaidd ymhlith staff a myfyrwyr ymchwil.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae ein rhaglen PhD Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith wedi cael ysgoloriaeth PhD a ariennir gan ESRC ar gyfer myfyrwyr o’r DU a’r UE yn ddiweddar.

Mae arian hefyd ar gael gan y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr AHRC.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Dylai ymgeiswyr fod â gradd Anrhydedd dda yn y Gyfraith (2:1 neu gyfwerth) neu gymhwyster tramor cyfwerth mewn pwnc perthnasol;

Fodd bynnag, rydym yn ystyried pob ymgeisydd unigol yn ôl ei rinweddau penodol. Os nad oes gennych y cymwysterau safonol ar gyfer y cwrs, gallwch wneud cais o hyd. Bydd eich cais yn cael ei ystyried os oes gennych y canlynol;

  • Gradd meistr yn y Gyfraith (neu gyfwerth) gyda marc cyfartalog o 65% o leiaf.
  • Ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol priodol.

Gellir cynnal cyfweliadau (trwy Skype / Ffôn neu'n bersonol) i nodi ac asesu teilyngdod academaidd darpar fyfyrwyr.

Gofynion Iaith Saesneg

Rhaid i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf gael sgôr o 7.0 o leiaf yn IELTS (gyda dim llai na 6.5 yn yr elfen Ysgrifennu a dim llai na 5.5 mewn Gwrando, Siarad a Darllen).

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Cyn gwneud cais

  • Darllenwch yn ofalus am strwythur ein rhaglen, meini prawf mynediad, cyfleoedd ariannu.
  • Archwiliwch ein hymchwil a'n cyfadran, a nodwch oruchwylwyr posib i'w cynnwys yn eich cais.
  • Sicrhewch fod yr holl ddogfennau sy'n ofynnol fel rhan o'ch cais wedi'u cynnwys.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon dewiswch:

  • Cymhwyster: Doethur mewn Athroniaeth neu Feistr mewn Athroniaeth
  • Modd astudio: Amser llawn neu ran-amser
  • Dyddiad dechrau: Fel y bo'n berthnasol

Cliciwch ar wneud cais nawr a chwblhau'r weithdrefn ymgeisio ar-lein.

Rhestr wirio cais

Dylech gynnwys y canlynol:

  • cynnig ymchwil manwl o tua 5,000 o eiriau. Darllenwch ein canllaw ar sut i ysgrifennu cynnig ymchwil.
  • teitl
  • cyflwyniad
  • datganiad clir o broblem ymchwil a chwestiynau ymchwil
  • adolygiad o lenyddiaeth allweddol
  • methodoleg arfaethedig
  • cyfraniad arfaethedig (pam mae eich ymchwil yn werthfawr ac i bwy)

Dogfennau eraill

  • Rhaid i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf gael sgôr o 7.0 o leiaf yn IELTS (gyda dim llai na 6.5 yn yr elfen Ysgrifennu a dim llai na 5.5 mewn Gwrando, Siarad a Darllen). Darllenwch ein gofynion Saesneg am ragor o fanylion.
  • Copïau o dystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd Baglor a Meistr (os yw'n berthnasol)
  • Dau Eirda Academaidd

Mae'n bwysig iawn eich bod yn darparu'r holl wybodaeth berthnasol pan fyddwch yn gwneud cais gan na fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Dechreuwch eich cais

Bydd ceisiadau'n cael eu fetio gan y Swyddfa Ôl-raddedig a'u hadolygu gan y Tiwtor Derbyn. Gwrthodir ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion mynediad angenrheidiol yn llwyr ac ni allant ail-ymgeisio am yr un dyddiad cychwyn.

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r gofynion mynediad yn cael eu rhannu â darpar oruchwylwyr. Unwaith y bydd goruchwylwyr yn mynegi diddordeb tuag at ymgeisydd, ffurfir panel goruchwylio. Yna gellir gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad (trwy Skype / Ffôn neu'n bersonol) i drafod eu prosiect Ymchwil. Os bydd y cyfweliad yn llwyddiannus, bydd cynnig yn cael ei wneud.

Dyddiad cau

Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddyddiadau cau swyddogol gan fod y broses ymgeisio yn cymryd tua 2-3 mis, gofynnwn i geisiadau wedi'u cwblhau gael eu cyflwyno i'w hystyried o leiaf 3 mis cyn y dyddiad cychwyn y gofynnwyd amdano.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

MPhil/PhD Enquiries, Cardiff Law School

Administrative contact

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig