Ewch i’r prif gynnwys

Baledi Cymraeg

Dros y canrifoedd mae baledi wedi chwarae rôl bwysig a dylanwadol mewn bywyd cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru. Roedd cynyrchiadau pamffledi baled yn eu hanterth yng Nghymru yn y 18fed-19eg ganrif. Er nad oedd safon y farddoniaeth o'r radd flaenaf fel arfer, mae penillion o'r fath yn fodd amhrisiadwy o astudio iaith, llenyddiaeth, hanes, crefydd a cherddoriaeth y Gymru gyfoes. Mae'r cerddi hyn hefyd yn ffynonellau anhepgor ar gyfer astudio bywyd bob dydd a byd-olwg pobl gyffredin Cymru yn y cyfnod modern.

Cynnwys digidol

Gellir gweld tua 4,000 o faledi drwy Baledi Cymru Ar-lein, rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o'r deunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Cafodd y baledi eu digido fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, Abertawe a Phrifysgol Cymru yn Llanbedr Pont Steffan. Ariennir y prosiect gan JISC fel rhan o'r rhaglen Cyfoethogi Adnoddau Digidol.

Erthyglau ysgolheigaidd

Erthyglau gan yr Athro E. Wyn James, yn trafod agweddau amrywiol ar faledi yng Nghymru, ynghyd â meysydd cysylltiedig ym maes canu gwerin Cymru. Mae'r nifer o'r erthyglau'n seiliedig ar bapurau a draddodir mewn cynadleddau. Nodir manylion o'r fath, ynghyd â manylion y fersiwn gwreiddiol a gyhoeddwyd, ar ddechrau pob erthygl. Mae'r Athro E. Wyn James yn berchen ar hawlfraint yr holl eitemau ar y wefan hon sydd o dan ei enw ef. Gosododd ei hawl i gael ei enwi fel awdur yr eitemau hynny yn unol ag Adrannau 77 a 79 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

Rydym wrthi'n ychwanegu copïau digidol o'n holl faledi wedi'u argraffu i'n Casgliadau ac Archifau Arbennig, gan gynnwys deg recordiad wedi'u canu gan Dafydd Idris Edwards.

Llyfryddiaethau a dolenni defnyddiol

Llyfryddiaeth Baledi'r Cymry
Llyfryddiaeth o gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg sy'n ymwneud â Baledi Cymru (ar waith).

Maldwyn: Mynegai i farddoniaeth Gymraeg mewn Llawysgrifau
Mae cronfa ddata Maldwyn yn fynegai i farddoniaeth Gymraeg mewn llawysgrif ac sy'n dyddio cyn 1830. Ymhlith y dewisiadau chwilio sydd ar gael, mae'r llinell gyntaf, y llinell ddiwethaf, enw'r bardd, metr, math a phwnc. Mae'r gronfa ddata'n cynnwys manylion llawysgrif sawl baled, a llawysgrifau o'r cerddi a argraffwyd ar bamffledi. Dim ond yn Gymraeg y mae'r rhyngwyneb chwilio ar gael.

Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein (EEBO)
Llyfrgell electronig o dros 125,000 o gyhoeddiadau, gan gynnwys rhai baledi, o'r cyfnod 1473-1700. Mae'n bosibl chwilio yn ôl allweddair. Er gwaethaf ei enw, mae'n cynnwys nifer o gyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg.

Corpws hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850
Casgliad electronig o destunau Cymraeg o'r cyfnod 1500-1850 y gellir eu chwilio, wedi'i greu gan Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Caergrawnt. Ymhlith y gweithiau mae nifer o anterliwtiau (dramâu gwerin sy'n cynnwys caneuon ar ffurf baled) a rhai cerddi yn y wers rydd, gan gynnwys baledi gan Huw Jones, Llangwm ac Ellis Roberts ('Elis y Cowper').

Dolenni defnyddiol