Sicrwydd, risg a lleoedd gwydn

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'r ddynoliaeth yn wynebu heriau amgylcheddol aruthrol yn yr 21ain ganrif, gan gynnwys newid hinsawdd, twf y boblogaeth a phrinder adnoddau.

Mae'r risgiau sy'n codi yn sgil y rhain yn gofyn am ymatebion polisi, technolegau, seilwaith ffisegol a threfniadau llywodraethiant sy'n gynaliadwy, yn gadarn o safbwynt gwyddoniaeth, ac yn ddemocrataidd. Mae'r rhaglen hon yn defnyddio dulliau amryw o ddisgyblaethau i drafod y problemau cyffredin hyn, gan ganolbwyntio ar dair thema allweddol:

Deall a gwella dibenion gwyddoniaeth wrth wneud polisïau

Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar graffu ar sut mae defnyddio modelau a ffynonellau eraill gwybodaeth wyddonol wrth lywodraethu bygythiadau i iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. 

Un ffocws yw datblygu a chymhwyso ymagwedd gysyniadol newydd i graffu ar gryfderau, cyfyngiadau a swyddogaethau asesiadau risg ffurfiol – ac un sy'n cynnig ffyrdd ymarferol i'w gwella. Mae un arall yn edrych ar sut mae gwahanol athroniaethau ynglŷn â llywodraethiant yn siapio syniadau am beth yw penderfyniadau da, data cadarn, a defnydd priodol ar dystiolaeth. 

Y prif gyfraniad sydd wedi dod i'r golwg yw datblygu teipoleg newydd o gyfundrefnau llywodraethu, a dangos sut mae pob math o gyfundrefn yn elwa ar fathau penodol o wybodaeth wyddonol, ac yn ei dro yn helpu i gyfiawnhau'r mathau penodol hynny. Mae hyn yn creu goblygiadau ar gyfer y modd yr ydyn ni'n adeiladu modelau, sut rydyn ni'n craffu arnyn nhw, a sut y gall ac y dylai gwneuthurwyr polisi eu defnyddio.

Dealltwriaeth y cyhoedd o faterion cynaliadwyedd a'u hymgysylltiad â nhw

Mae'r gwaith hwn yn hoelio sylw ar ddealltwriaeth a chredoau unigolion o ran materion cynaliadwyedd a risg. Mae llawer ohono'n ymdrin ag effeithiau risg amgylcheddol a thechnolegol bywyd bob dydd ar unigolion a chymunedau, a pha mor dderbyniol yw'r risgiau hyn i bobl. 

Mae llinyn perthynol yn ystyried argraffiadau pobl ynghylch asiantaeth a chyfrifoldeb mewn perthynas ag argyfyngau yn yr amgylchedd, sut mae'r argraffiadau hyn yn perthyn i'r prif fframiau a disgyrsiau, a beth yw'r goblygiadau ar gyfer ymdrechion i hybu ymddygiad mwy cynaliadwy. 

Un syniad allweddol yw bod y prif ddisgyrsiau, technegau a threfniadau llywodraethu ynglŷn â newid hinsawdd wedi creu argraff eang mai systemau byd-eang haniaethol sy'n gyfrifol am y broblem, a bod hyn yn y bôn yn dileu pwerau pobl ac yn rhannol gyfrifol am y bwlch rhwng gwerthoedd a gweithredoedd. 

Un ffordd bosibl o leihau'r bwlch yma yw defnyddio lle fel cysyniad trefniadol yn y modd yr ydyn ni'n meddwl am newid yn yr hinsawdd ac yn ei lywodraethu, er bod hyn yn wynebu rhwystrau ymarferol a gwleidyddol difrifol.

Dylunio a rheoli systemau peiriannu

Mae'r gwaith hwn yn hoelio sylw ar ddylunio a rheoli systemau seilwaith ac adeiladau cyhoeddus mewn modd cynaliadwy, gan arddel ymagwedd sosio-dechnegol. Y syniad yw bod y modd y mae systemau'n gweithio – neu'n methu gweithio – yn cael ei lunio gan gymysgedd o ffactorau technegol, ffisegol, ffactorau llywodraethiant, ffactorau trefniadol a ffactorau ymddygiad. 

Mae'r ymchwil yn amrywio o adeiladu modelau i helpu i wneud penderfyniadau mewn amser real i astudiaethau seicolegol ar reoli argyfyngau mewn systemau cyflenwi dŵr.

Mae'r rhaglen hon yn cysylltu arbenigeddau rhyngwladol presennol Caerdydd sy'n gweithio ar faterion ynglŷn â risgiau mewn natur ac ymhlith pobl, gwydnwch a chynaliadwyedd, a hynny yn yr ysgolion Peirianneg, Seicoleg, Meddygaeth, a Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr yn bennaf.

Y prif gysylltiadau