Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

s working at phantom heads

Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi israddedig i fyfyrwyr sy'n astudio deintyddiaeth, hylendid deintyddol a therapi deintyddol. Mae'n brofiad dysgu sydd wedi ei ddylunio i'ch paratoi chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Rydym yn cynnig y cyrsiau canlynol:

Sut i wneud cais

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais. Mae ein polisïau derbyn myfyrwyr yn amlinellu popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais

Mae'n ofynnol bod pob ymgeisydd ar gyfer Llawdriniaeth Ddeintyddol (A200/A204) wedi pasio Prawf Tueddfryd Clinigol y DU (UKCAT) cyn y dyddiad cau sef 15 Hydref. Mewn achosion arbennig, gall ymgeiswyr gael eu heithrio o'r prawf am resymau daearyddol os maen nhw'n byw neu'n cael eu haddysgu mewn gwlad nad yw'n cynnig y prawf. Ewch i wefan UKCAT am fwy o wybodaeth.

Dyddiadau cyfres o gyfweliadau bychan (MMI) 2024

Bydd dyddiadau cyfres 2024 o gyfweliadau byr:

CymhwysterCôd UCASDyddiadau cyfweld
Dental Surgery (BDS)A20015 - 24 Ionawr 2024
Dental Therapy and Hygiene (BSc)B75211 - 15 Mawrth 2024
Dental Hygiene (Diploma)B75011 - 15 Mawrth 2024

Ymweld â ni

Diwrnodau Agored Israddedig

Dewch i grwydro o gwmpas ein campws, cwrdd â’r staff a myfyrwyr, a chael blas go iawn ar sut beth yw astudio a byw yng Nghaerdydd.

Profiad gwaith ar gyfer Therapi Deintyddol a Hylendid a Hylendid Deintyddol

Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau am brofiad gwaith ar hyn o bryd. Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

I wybod mwy, ebostiwch: dentalvisits@caerdydd.ac.uk

Profiad gwaith ar gyfer Llawdriniaeth Ddeintyddol

Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau am brofiad gwaith ar hyn o bryd. Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae lleoliadau profiad gwaith un dydd yn cael eu cynnal yn wythnosol ar ddydd Iau a dydd Gwener yn ystod y tymor. Rhaid i chi fod yn 16 neu'n hŷn i gymryd rhan.

Byddwch yn cael eich rhoi mewn un clinig yn y bore ac un arall yn y prynhawn. Mae gennym dri Chlinig Addysg Deintyddol a phedwar clinig arbenigol:

  • Llawdriniaeth y Genau - Clinig LA
  • Clinig Arholiadau ac Argyfwng
  • Clinig Iechyd Deintyddol Plant (ar gyfer deintyddiaeth bediatrig)
  • Clinig Orthodonteg.

I wybod mwy, ebostiwch: dentalvisits@caerdydd.ac.uk