Israddedig
Rydym yn cynnig tair rhaglen radd israddedig i’ch paratoi’n llawn ar gyfer eich gyrfa fel gweithiwr deintyddol proffesiynol.
Byddwch yn ymarfer eich sgiliau clinigol yn ddiogel yn ein hystafell efelychu deintyddol, ar ddymis sy’n cael eu galw’n ‘bennau rhithiol’, cyn mynd ati mewn sefyllfaoedd clinigol go iawn gydag ystod o gleifion oherwydd ein cysylltiadau cryf â’r GIG.
Byddwch hefyd yn cychwyn ar leoliadau clinigol yng Nghymru, lle byddwch yn cael eich amgylchynu gan dîm profiadol o glinigwyr, yn eich cefnogi i fod y gweithiwr deintyddol proffesiynol gorau y gallwch fod.
Rydym yn cynnig y cyrsiau canlynol:
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Hylendid Deintyddol (DipHE) | B750 |
Llawfeddygaeth ddeintyddol (BDS) | A200 |
Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (BSc) | B752 |
Sut i wneud cais
Archwiliwch ein polisïau derbyn a'n Cwestiynau Cyffredin sy'n amlinellu popeth sydd angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Dyddiadau cyfres o gyfweliadau bychan (MMI) 2025
Bydd dyddiadau cyfres 2025 o gyfweliadau byr:
Cymhwyster | Côd UCAS | Dyddiadau cyfweld |
---|---|---|
Dental Surgery (BDS) | A200 | 13 - 22 Ionawr 2025 |
Dental Therapy and Hygiene (BSc) | B752 | 10 - 15 Mawrth 2025 |
Dental Hygiene (Diploma) | B750 | 10 - 15 Mawrth 2025 |
Profiad gwaith yn ein Hysgol Deintyddiaeth
Mae profiad gwaith yn ffordd wych o ddysgu mwy am y proffesiwn y mae gennych ddiddordeb ynddo, a chael blas go iawn ar fywyd fel gweithiwr deintyddol proffesiynol.
I wneud cais am brofiad gwaith gyda ni, mae'n rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn, ac mae lleoliadau fel arfer yn cael eu cynnal ar ddydd Iau a dydd Gwener yn ystod y tymor.
Byddwch yn cael un clinig yn y bore ac un arall yn y prynhawn. Mae ein tri chlinig Addysg Ddeintyddol a phedwar clinig arbenigol yn cynnwys:
- Llawfeddygaeth y Geg
- Clinig Arholiad ac Argyfwng
- Clinig Pediatrig
- Clinig orthodontig
- Ymarfer Clinigol Oedolion
I ddarganfod mwy, anfonwch e-bost dentalvisits@cardiff.ac.uk.
Ymweld â ni
Os ydych chi'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, dewch draw i un o'n diwrnodau agored a darganfod bywyd myfyrwyr drosoch eich hun.
Mynnwch fewnwelediadau gan fyfyrwyr presennol, dysgu mwy am ein cyrsiau, a hyd yn oed rhoi eich sgiliau deheurwydd ar brawf ar ein 'pennau rhithiol'!
Gwylio ffilm hon i weld beth yw astudio gyda ni.