Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyrwyr

Mae nifer o'n graddedigion yn cadw mewn cysylltiad ac wedi ymuno â'n rhwydwaith cynfyfyrwyr.

Graduates on steps of Bute Building

Fel cynfyfyriwr, mae cymaint o ffyrdd i barhau i fod yn rhan o'r Brifysgol. As an alumni there are many ways you can stay involved with us. Gwnewch y mwyaf o'r cyfleoedd yma:

  • Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am feich amser fel myfyriwr, am y wefan, am yr Ysgol gyfan, neu unrhyw agwedd hoffech chi leisio'ch barn amdano.
  • Gwirfoddolwch i fod ar ein bas data o gysylltiadau, fel siaradwr gwadd mewn darlith neu ddigwyddiad, fel darparwr lleoliad gwaith neu feirniad dylunio.
  • Rhannwch eich stori gyda ni. Rydym yn gobeithio arddangos proffiliau cynfyfyrwyr ar y wefan yn fuan er mwyn ysbrydoli ymgeiswyr a myfyrwyr presennol

Mwy am fanteision cynfyfyrwyr.

Gwahoddiadau i ddigwyddiadau'r Ysgol

Fel cynfyfyriwr hoffwn eich gwahodd i ddigwyddiadau arbennig ein Hysgol, gan gynnwys yr arddangosfa blynyddol o waith myfyrwyr yng Nghaerdydd.

Ymunwch â'n grŵp LinkedIn

Gwasanaethau llyfrgell

Fle cynfyfyriwr, mae gennych fynediad i lyfrgelloedd y Brifysgol a gallwch fenthyg i fyny at chwech eitem ar y tro (heb gynnwys eitemau benthyciad byr). Mae gennych fynediad hefyd at adnoddau electronig penodol drwy ddefnyddio'r mynediad galw heibio.

Cyfleusterau chwaraeon

Gall cynfyfyrwyr sy'n aros yng Nghaerdydd ddefnyddio'r ystod llawn o gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff gyda chyfradd gostyngedig ar aelodaeth.

Cysylltu

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

  • Telephone+44 (0)29 2087 4430