Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant

Dewiswch astudio yma i fod yn rhan o gymuned ymchwil sy’n ffynnu.

Mae ein myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, byrddau iechyd prifysgol ac ysgolion ledled Cymru.

Bydd ein hymchwilwyr o’r radd flaenaf, gan gynnwys sawl un sy’n arwain eu maes yn rhyngwladol, yn cefnogi eich dyheadau.

A busy talk in the Hadyn Ellis lecture theatre

Bydd cyfleusterau rhagorol ar gael ar eich cyfer hefyd gan gynnwys isadeiledd data unigryw am iechyd meddwl pobl ifanc a man profi digidol.

Bydd adnoddau cwbl fodern gerllaw hefyd yn y Campws Arloesedd £300m ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARC). Mae SPARC yn cynnig cymorth i bobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi cenhadaeth y Ganolfan.

Mae’r Campws Arloesedd yn gartref hefyd i Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn ogystal â Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).