Ysgol Haf

Cynhelir ein Hysgol Haf flynyddol gyntaf mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid eleni.
Cynhelir y cwrs tri diwrnod ar-lein, yng ngofal y tîm rhyngddisgyblaethol arbenigol yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.
Nod y rhaglen yw rhoi sylfaen i ddarpar ymchwilwyr o gefndiroedd clinigol ac anghlinigol mewn ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y gwaith eang a wnawn yng Nghanolfan Wolfson.
Bydd yr ysgol haf yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr o'r radd flaenaf sy’n rhan o’r ganolfan nodedig, a fydd yn arwain sgyrsiau a gweithdai yn eu meysydd arbenigedd, gan ganolbwyntio ar ddeall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a all lywio ffyrdd effeithiol newydd o gynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.
Mae'r ysgol haf yn cynnwys sgyrsiau ar amrywiaeth o bynciau ym maes dulliau a chanfyddiadau ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan ddefnyddio disgyblaethau epidemioleg, geneteg, niwrowyddoniaeth a datblygu ymyriadau, gan gynnwys:
- Heriau ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid a'r dirwedd bresennol
- Y dull datblygiadol o ymchwilio a dadansoddi data hydredol
- Atal iselder ymhlith pobl ifanc
- Iechyd meddwl mewn ysgolion a gwerthuso ymyriadau cymhleth
- Ymchwil geneteg seiciatrig ym maes iechyd meddwl ieuenctid
- Hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc
Mae'r ysgol haf hefyd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ar bynciau sy’n cynnwys cyngor ar yrfa ymchwil, pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, a sut gall ymchwilwyr helpu i sicrhau bod canfyddiadau'n cael eu trosi'n bolisi i'r llywodraeth.
Rhaglen
Rhaglen rithwir Ysgol Haf Wolfson ar gyfer 2022:
Dydd Llun 18 Gorffennaf
Amser | Gweithgaredd |
---|---|
10:00 | Croeso a chyflwyniad Yr Athro Stephan Collishaw a'r Yr Athro Frances Rice |
10:20 | Dull datblygiadol a dadansoddiad hydredol Dr Lucy Riglin |
11:30 | Tueddiadau seciwlar yn iechyd meddwl pobl ifanc Yr Athro Stephan Collishaw |
13:30 | Pwysigrwydd a chymhwyso niwrowyddoniaeth mewn seiciatreg Yr Athro Jeremy Hall |
14:30 | Gweithdai mewn ystafelloedd ymneilltuo
|
15:30 | Diwedd y diwrnod cyntaf |
19:00 | Sesiwn gymdeithasol rithwir i fynychwyr |
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf
Amser | Gweithgaredd |
---|---|
09:30 | Croeso a throsolwg Dr Chris Eaton |
09:40 | Heriau ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid a'r dirwedd bresennol Yr Athro Anita Thapar |
10:50 | Atal iselder Yr Athro Frances Rice |
12:50 | Sut mae iechyd meddwl rhieni yn effeithio ar iechyd meddwl plant? Yr Athro Frances Rice |
14:00 | Gweithdai mewn ystafelloedd ymneilltuo
|
15:00 | Diwedd yr ail ddiwrnod |
Dydd Mercher 20 Gorffennaf
Amser | Gweithgaredd |
---|---|
9:30 | Coffi rhithwir a dal i fyny Croeso i’r holl fynychwyr a siaradwyr |
10:00 | Croeso a throsolwg Dr Chris Eaton |
10:10 | Iechyd meddwl mewn ysgolion a gwerthuso ymyriadau cymhleth Yr Athro Graham Moore |
11:20 | Geneteg Dr Joanna Martin |
13:20 | Hunanladdiad a hunan-niweidio Yr Athro Ann John |
14:30 | Gweithdai mewn ystafelloedd ymneilltuo
|
15:30 | Cloi a ffarwelio |
Sylwch y bydd yr holl sgyrsiau a gweithdai yn cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Siaradwyr
Cyflwynir y rhaglen gan arbenigwyr yn eu priod feysydd.
- Yr Athro Stephan Collishaw
- Yr Athro Jeremy Hall
- Yr Athro Ann John
- Yr Athro Graham Moore
- Yr Athro Simon Murphy
- Yr Athro Frances Rice
- Yr Athro Anita Thapar
- Dr Rhys Bevan Jones
- Dr Chris Eaton
- Dr Olga Eyre
- Dr Will Davies
- Dr Joanna Martin
- Dr Victoria Powell
- Dr Lucy Riglin
- Dr Yulia Shenderovich
- Dr Foteini Tseliou
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Mae'r ysgol haf wedi'i hanelu at wyddonwyr ymchwil (MSc, PhD, Ôl-ddoethurol neu wedi cwblhau BSc) a hyfforddeion clinigol (Hyfforddiant Sylfaen/Craidd/Arbenigedd) sydd â diddordeb mewn symud i ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, neu'r rhai sydd am gael cyflwyniad i'r maes.
Cewch fynychu ein hysgol haf yn rhad ac am ddim.
Sut mae gwneud cais
Rydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer Ysgol Haf Wolfson mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid tan 27 Mehefin 2022.
I gyflwyno cais, llenwch ein ffurflen gais ar-lein.
Yn eich ffurflen gais, nodwch pa sesiwn gweithdy yr hoffech ei mynychu bob dydd. Mae hyn er mwyn caniatáu i ni amcangyfrif niferoedd ar gyfer pob gweithdy.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y canfyddiadau diweddaraf ym maes iechyd meddwl ieuenctid gyda'n bwletin e-newyddion misol a'n sesiynau briffio ymchwil bob dwy flwyddyn.