Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn dod ag ymchwilwyr o’r radd flaenaf ynghyd i ganolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.

Wedi'i sefydlu yn 2020, mae Canolfan Wolfson yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn seiciatreg ddatblygiadol a chlinigol, geneteg, gwyddorau cymdeithasol a niwrowyddoniaeth, i ddeall heriau iechyd meddwl glasoed yn well.

hadyn ellis in sunshine

Many of our staff work across two neighboring buildings in Cardiff: the Hadyn Ellis Building, which brings together experts in mental health research, and the new sbarc|spark building, which connects entrepreneurs and public sector leaders with world-class researchers and professional advisers, developing innovative solutions to societal problems through collaborative research activity.

Ein gweledigaeth yw gwneud newid sylweddol mewn darganfyddiad gwyddonol sydd â manteision cyflym i iechyd meddwl pobl ifanc trwy weithredu ymyriadau a pholisïau effeithiol.

Mae ein holl ganfyddiadau gwyddonol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc, ymarferwyr a llunwyr polisïau a chaiff y wybodaeth a gynhyrchir ei defnyddio i lywio iechyd cyhoeddus a pholisïau ysgolion er mwyn ceisio hyrwyddo iechyd meddwl gwell ymhlith pobl ifanc.

Bydd ein harbenigwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru, y GIG, ac ysgolion ledled Cymru.

Arweinir y ganolfan ar y cyd gan yr  a'r Yr Athro Frances Rice a Yr Athro Stephan Collishaw.