Ymchwil
Rydym yn gweithio ar draws seiciatreg ddatblygiadol a chlinigol, geneteg, gwyddorau cymdeithasol a niwrowyddorau, i ddeall iselder a gorbryder yn well ymysg pobl ifanc.
Nod ein gwaith yw cyflawni newid trawsffurfiannol yn y ffordd rydym yn deall heriau iechyd meddwl y glasoed a'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â hyn drwy ymyriadau sy'n cynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.
Ein nod yw cynnwys pobl ifanc, ysgolion, y rhai hynny sydd â risg teuluol uchel a chleifion, ym mhob cam o'n hymchwil. Ymgysylltu â phobl ifanc a rhanddeiliaid wrth lywio nodau ein hymchwil a'n hymarfer, ac wrth lunio a chynnal ymyriadau newydd i wella iechyd meddwl y glasoed mewn cyd-destunau iechyd ac ysgolion.
Ein nod yw i'n canfyddiadau gwyddonol lywio polisïau ac arferion yn gyflym, a gweithredu fel catalydd ym maes gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
Themâu
Iechyd meddwl poblogaethol
Byddwn yn edrych ar ddata arhydol sy'n olrhain plant dros amser er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu.
Arweinydd Thema

Yr Athro Stephan Collishaw
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- collishaws@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8436
Geneteg
Mae ymchwilio i rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yn hanfodol i ddeall y cyflyrau hyn.
Arweinydd Thema

Yr Athro Anita Thapar
Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- thapar@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8478
Ymyriadau i bobl ifanc sydd â risg teuluol uchel
Rydym yn datblygu ymyriadau newydd er mwyn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd os oes rhiant yn dioddef o iselder.
Arweinydd Thema

Yr Athro Frances Rice
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- ricef2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8384
Ymyriadau iechyd meddwl mewn ysgolion
Rydym yn edrych ar rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.
Arweinwyr themâu

Yr Athro Simon Murphy
Athro Gwella Iechyd Cyhoeddus, Prif Archwiliwr (PI) ar gyfer PHIRN a Chyd-Gyfarwyddwr Caerdydd ar gyfer DECIPHer
- murphys7@caerdydd.ac.uk
- +44 29208 79144
Carfan e-ddata poblogaeth a chleifion
Mae ein hymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar y cyd ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy'n cael profiad o orbryder ac iselder.
Arweinydd Thema
Dulliau meintiol a gwyddoniaeth agored
Thema ledled y Ganolfan drosfwaol sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod ein timau wedi'u hyfforddi'n dda mewn dulliau ymchwil ac arferion gwyddoniaeth agored.
Arweinwyr themâu

Dr Lucy Riglin
Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- riglinl@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8419