Ewch i’r prif gynnwys

Canolfannau ac unedau

Mae gennym dair canolfan ymchwil nodedig sydd yn mynd i'r afael ag astudiaethau diwylliannol, ieithyddol a deddfwriaethol.

Canolfan Uwchefrydiau Cymry America

Sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yn 2001 er mwyn hybu astudio diwylliant, iaith, llên a hanes y Cymry ar gyfandiroedd America, ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia.

Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio

Sefydlwyd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio ar ddechrau 2005 i ffurfioli’r diddordeb ymchwil a oedd wedi hen ymsefydlu yn Ysgol y Gymraeg ym meysydd dadansoddi polisïau iaith, datblygu methodolegau newydd ac astudiaethau ymddygiadol.

Uned Ymchwil Llenyddiaeth, Theori a Chreadigrwydd

Mae’r Uned Ymchwil Llenyddiaeth, Theori a Chreadigrwydd yn archwilio llenyddiaeth Gymraeg a’r broses greadigol o’r cyfnod cynharaf hyd y presennol.