Mae rhyddiaith y cyfnod canol wedi goroesi mewn dros bedwar ugain o lawysgrifau a luniwyd rhwng tua 1250 a 1450. Mae’r corff hwn yn cynnwys y cyfreithiau, gweithiau hanesyddol, crefyddol, meddygol, a gramadegol, chwedlau wedi eu cyfieithu o’r Lladin a’r Ffrangeg, ac, wrth gwrs, chwedlau’r Mabinogion.