Ewch i’r prif gynnwys

Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio

Sefydlwyd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio ar ddechrau 2005 i ffurfioli’r diddordeb ymchwil a oedd wedi hen ymsefydlu yn Ysgol y Gymraeg ym meysydd dadansoddi polisïau iaith, datblygu methodolegau newydd ac astudiaethau ymddygiadol.

Cafodd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio ei chreu ar ddechrau 2005 i ffurfioli’r diddordeb ymchwil a oedd wedi hen ymsefydlu yn Ysgol y Gymraeg ym meysydd dadansoddi polisïau iaith, datblygu methodolegau newydd ac astudiaethau ymddygiadol.

Mae’r Uned yn anelu at fod ar flaen y gad mewn datblygiadau cynllunio iaith cenedlaethol a rhyngwladol. Rhoddir pwyslais arbennig ar ddeall goblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol iaith dros amser ac o le i le. Mae graddfa ddaearyddol gwaith yr Uned yn amrywio o raddfa leol i raddfa fyd-eang, tra defnyddir y sbectrwm cyfan o dechnegau ymchwil meintiol ac ansoddol.

Amcanion

Uned ryngddisgyblaethol yw’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, sy’n:

  • ymgymryd â gwaith ymchwil ar faterion polisi a chynllunio iaith
  • goruchwylio ac yn addysgu ar lefel MA, MPhil a PhD
  • meithrin rhwydweithiau ar draws y brifysgol a gwaith allgymorth yn y gymuned polisi rhyngwladol

Mae ein gwaith ymchwil wedi’i drefnu o amgylch chwe thema:

  • y Gymraeg
  • gwleidyddiaeth, mudiadau cymdeithasol a gwrthdaro ieithyddol
  • hawliau a statws o ran iaith
  • polisi iaith, llywodraethu a’r Wladwriaeth
  • amrywiaeth ieithyddol ac amlddiwylliannedd
  • newid ymddygiad

Ymchwil

Ymchwil gan staff (uchafbwyntiau)

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Monograff ymchwil o’r enw The Welsh Language Commissioner in Context: Roles, Methods and Relationships, sy’n deillio o brosiect diweddar yr uned, a noddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ynghylch y comisiynydd iaith.

Adolygiadau ynghylch monograff yr Athro Mac Giolla Chríost:

"A key question in language policy is the effectiveness of central management. In this book, a pioneering and highly documented account of the role of the Welsh Language Commissioner in attempting to regulate the statutory provisions of recent legislation concerning the language, the author has provided a balanced account of the complexities of the process and the many competing interests involved."

Yr Athro Emeritws Bernard Spolsky, Prifysgol Bar-Ilan.

This detailed, scholarly and robust examination of the role of the Welsh Language Commissioner is essential reading for anyone with an interest in language rights, democratic scrutiny and law-making in Wales. Drawing on comparative research, the author casts a sharp and critical eye on one of the principal achievements of the Welsh legislature since its inception, and confronts misconceptions and false precepts with ruthless precision. In particular, this book exposes the potentially conflicting demands made of the Welsh Language Commissioner in fulfilling a regulatory role within the constitutional and legislative terms of reference, and championing the demands and expectations of the Welsh-speaking community. A paragon of policy analysis, it provides anyone with an interest in the maturing of Welsh democracy with a valuable but cautionary tale.

Yr Athro R. Gwynedd Parry, Prifysgol Abertawe.

In this extremely timely volume Diarmait Mac Giolla Chriost provides a detailed and systematic analysis of the Office of the Welsh Language Commissioner, as well other key aspects of the 2011 Welsh Language Measure. It includes numerous insights that should be of interest to academic researchers working in the fields of language planning and language law, as well as broader as fields such as public administration and public policy analysis. Moreover, it highlights a series of important recommendations that demand careful consideration by those responsible for policy and legislation relating to the Welsh language.

Dr Huw Lewis, Prifysgol Aberystwyth

Ymchwil ôl-raddedig

Dyma myfyrwyr ymchwil cyfredol sydd dan oruchwyliaeth staff yr Uned:

Detholiad o PhDs diweddar

Prosiectau

Prosiectau Ymchwil cyfredol

Ymysg prosiectau ymchwil cyfredol a diweddar yr Uned mae prosiect mawr dan nawdd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ynghylch Swyddfa’r Comisiynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada (2012-15).

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar gael hefyd drwy gatalog ymchwil ESRC a phorth ymchwil Research Councils UK.

Cwblhaodd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio hefyd adolygiad a noddwyd gan Lywodraeth Cymru o weithgareddau a pholisïau cynllunio ieithyddol ar lefel feicro yng Nghymru (2013-14). Mae copi o’r adroddiad terfynol ar gael i’w ddarllen fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i fynediad agored.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru ac mae ymateb Llywodraeth Cymru ar gael i’w weld drwy BBC Cymru Fyw (yn y Gymraeg yn unig).

Effaith

Mae gwaith ymchwil yr Uned wedi cael effaith sylweddol ar fywyd cyhoeddus, a hynny’n fwyaf amlwg ym maes cyfraith ieithyddol. Gallwch ddarllen am ein heffaith yn y maes hwn drwy’r astudiaeth achos o effaith Ail-lunio Cyfraith Iaith yng Nghymru. Mae’r astudiaeth achos hon ar gael hefyd drwy wefan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Cwrdd â'r tîm

Cyd-Gyfarwyddwr

Staff academaidd

Yr Athro Colin H Williams

Yr Athro Colin H Williams

Siarad Cymraeg
williamsch@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 0413
Dr Iwan Wyn Rees

Dr Iwan Wyn Rees

Siarad Cymraeg
reesiw2@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 2087 4843
Dr Jonathan Morris

Dr Jonathan Morris

Siarad Cymraeg
morrisj17@caerdydd.ac.uk
+44(0) 29 2087 7266

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Digwyddiadau

Dyma detholiad o ddigwyddiadau diweddar lle mae ymchwilwyr yr Uned wedi gwneud cyfraniad.

2016

2015

2014

Camau nesaf