Ewch i’r prif gynnwys

Themâu

Mae arbenigedd ein staff yn cwmpasu amrywiaeth eang o themâu a phynciau ac yn rhychwantu llenyddiaeth, o’r Oesoedd Canol i’r cyfnod modern, ynghyd ag iaith, gan gynnwys sosioieithyddiaeth a pholisi a chynllunio iaith.

Meysydd ymchwil

  • sosioieithyddiaeth y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill
  • llenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd
  • ysgrifennu creadigol a beirniadol
  • astudiaethau cyfieithu a thechnoleg iaith
  • cynllunio ieithyddol a pholisi iaith
  • caffael a dysgu iaith
  • hunaniaeth, ethnigrwydd ac amlddiwylliannedd
  • y Gymraeg yng Nghaerdydd a’r cyffiniau
  • Cymry America
  • astudiaethau gwerin
  • llenyddiaeth plant
  • astudiaethau gwerin
  • hanes a datblygiad y Gymraeg (gan gynnwys tafodieithoedd)

Llenyddol

Ar yr ochr lenyddol, mae'r diddordebau ymchwil yn cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth yr Oesoedd Canol, crefft y cyfarwydd, llên a chwedlau gwerin, hanesyddiaeth a llenyddiaeth, yr emyn a'r faled, astudiaethau merched, theori a beirniadaeth lenyddol, llenyddiaeth plant, ac amryw agweddau ar lenyddiaeth gyfoes.

Ieithyddol

Ar yr ochr ieithyddol, mae'r diddordebau ymchwil yn cwmpasu datblygiad y Gymraeg, ei thafodieithoedd, dulliau dysgu a chaffael iaith mewn cyd-destun cymharol, sosioieithyddiaeth y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt (e.e. yn y Wladfa ac UDA), astudiaethau cymharol ar y Wyddeleg a'r Gymraeg, a chymdeithaseg iaith. Mae'r gwaith arloesol ym maes cynllunio ieithyddol yn dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn pontio rhwng iaith a llenyddiaeth mae diddordebau eraill yn cynnwys theori a methodoleg trosi, cyfieithu a golygu, hunaniaeth ac amlddiwylliannedd, theori perfformio, ac astudiaethau ar grefydd y Cymry.

Rydym yn croesawu ysgolheigion ar ymweliad. Cysylltwch â Dr Jonathan Morris i drafod ein hymchwil a'ch diddordebau chi.