Canolfan Uwchefrydiau Cymry America
Sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yn 2001 er mwyn hybu astudio diwylliant, iaith, llên a hanes y Cymry ar gyfandiroedd America, ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia.
Sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yn 2001 er mwyn hybu astudio diwylliant, iaith, llên a hanes y Cymry ar gyfandiroedd America, ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia.
Lleolir y Ganolfan yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a'i Chyfarwyddwr presennol yw Dr Iwan Wyn Rees.
Amcanion
Trwy drefnu seminarau, darlithoedd a chynadleddau, trwy gyhoeddiadau, a thrwy hybu cydweithio a chyd-drafod ysgolheigaidd, ei nod yw bod yn ganolbwynt i rwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy'n ymddiddori mewn maes astudio sydd ar gynnydd cyflym.
Rhaglenni Ôl-raddedig a addysgir
Cynigir nifer o gyfleoedd ar gyfer astudio ôl-raddedig ym maes Cymry America. Mae modd astudio agweddau ar hanes y Cymry yng Ngogledd a De America yn rhan o raglen yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.
Ymchwil ôl-Raddedig
Gellir hefyd astudio agweddau ar hanes y Cymry yng Ngogledd a De America am raddau ymchwil (MPhil/PhD).
Myfyrwyr PhD dan ofal yr Ganolfan:
Sulien Morgan: ‘Ymateb Cymry America i Genedlaetholdeb Plaid Cymru, 1925-1979’
Walter Ariel Brooks: ‘Diwylliant Printiedig Cymraeg yn y Wladfa. Rôl Papurau Newydd Ethnig ym Mhatagonia’ - graddiodd yn haf 2013.
Lead researcher

Dr Iwan Wyn Rees
Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America
- Siarad Cymraeg
- reesiw2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4843
Staff academaidd

Yr Athro Colin H Williams
Athro er Anrhydedd
- Siarad Cymraeg
- williamsch@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0413
Darlithoedd cyhoeddus
Darlithoedd Eisteddfodol 2013 - presennol
Ers 2013, cynhelir darlith flynyddol gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Traddodwyd y ddarlithoedd gan Yr Athro E. Wyn James a'r Athro Bill Jones.
- 'Cambria, Knoxville - a Llanrwst!', 2019
- 'Morganiaid yn y Wladfa ac yn America - ac ar yr Ais', 2018
- 'Jonesiaid ym Môn, y Wladfa a Chile yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg', 2017
- 'Dau Evans, Blaenau Gwent a'r Byd Newydd', 2016
- 'Meifod a 'Merica: Cofio Cylchoedd Ann Griffiths a Sarah Maldwyn', 2015
- 'Tunplat Llanelli, "Lladron" America a'r "Mugwump" o Dregaron', 2014
- 'Gwilym Hiraethog, "Gohebydd" y Faner, a rhyddhau caethion America', 2013
Darlithoedd diweddar eraill
- '"Ffroes ffein gan Nain": Datblygiad geirfa Gymraeg yn y Wladfa', darlith flynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin, Eisteddfod Gendlaethol Llanrwst. Traddodwyd gan Dr Iwan Wyn Rees, Awst 2019
- 'The Welsh in diaspora: Patagonia', symposiwm ar 'Social Anthropologies of the Welsh: Past and Present' ym Mhrifysgol Caerdydd (trefnwyd gan WISERD, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion a'r Royal Anthropological Institute). Traddodwyd gan Dr Iwan Wyn Rees, Mai 2019
- 'Sbaeneiddio, lefelu a safoni: golwg ar amrywiadau Cymraeg Patagonia heddiw', cyfres Seminarau Ymchwil Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Traddodwyd gan Dr Iwan Wyn Rees, Ebrill 2019
- 'Golwg ar waith Irma Hughes de Jones', Cymdeithas Cymru-Ariannin. Traddodwyd gan Dr Rhiannon Marks, Mai 2017
- 'Contemprorary Varieties of Welsh in Chubut Province, Argentina: Some Preliminary Findings', colocwiwm ar 'Hispanization' ym Mhrifysgol Bremen, Yr Almaen. Traddodwyd gan Dr Iwan Wyn Rees, Mai 2017
- 'O Lysau Cochion Ardudwy i Garets y Wladfa: Ar Drywydd y Tafodieithoedd Cymraeg', Cymdeithas Cwm Nantcol. Traddodwyd gan Dr Iwan Wyn Rees, Ionawr 2017
- 'Ar drywydd barddoniaeth y Wladfa', Cylch Llenyddol Llŷn. Traddodwyd gan Dr Rhiannon Marks, Tachwedd 2015
- 'Golwg ar farddoniaeth y Wladfa', Pafiliwn Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Traddodwyd gan Dr Rhiannon Marks, Awst 2015
- 'Tafodieithoedd Cymraeg y Wladfa heddiw', Cymdeithas Cymru-Ariannin. Traddodwyd gan by Dr Iwan Rees, Mai 2015
- 'Blas ar amrywiadau Cymraeg y Wladfa', Cymrodorion Caerdydd. Traddodwyd gan Dr Iwan Wyn Rees, Chwefror 2015
- 'Irma Ariannin a'r "wlad lle cyferfydd cyfandiroedd"', Darlith yr Ŵyl yng Ngŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd 2014. Traddodwyd gan Dr Rhiannon Marks, Tachwedd 2014
Darlithoedd blynyddol 2003 - 2011
Rhwng 2003 a 2011 cynhaliwyd cyfres o 8 darlith flynyddol yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymry America.
- Yr Wythfed Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'The Office of the Language Commissioner: The Welsh Model from a Canadian Perspective'. Traddodwyd gan Yr Athro Colin H. Williams (Athro Ymchwil, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd), 31 Mawrth 2011
- Y Seithfed Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'The Sociology of Welsh in Chubut - Resilience, Integration, Rediscovery'. Traddodwyd gan Yr Athro Robert Owen Jones (Athro Emeritws, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd), 18 Chwefror 2010
- Y Chweched Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'Welsh Coal Miners in America'. Traddodwyd gan Yr Athro Ron Lewis (Yr Adran Hanes Prifysgol Gorllewin Virginia, UDA), 22 Mai 2008
- Y Bumed Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'Welsh Patagonians: The Australian Dimension'. Traddodwyd gan Yr Athro Michele Langfield (Prifysgol Deakin, Victoria, Awstralia), 20 Gorffennaf 2007
- Y Bedwaredd Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'Black Skins, Blue Books: Slavery, Translation and Victorian Wales. Traddodwyd gan Dr Daniel Williams (Yr Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe), 24 Tachwedd 2006.
- Y Drydedd Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'The Great and Good Work Committed to His Hands: Robert Everett and the Abolition of American Slavery'. Traddodwyd gan Dr Jerry Hunter (Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor), 6 Mai 2005
- Yr Ail Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol: 'Welsh Labor in American Iron'. Traddodwyd gan Dr Anne Knowles (Middlebury College, Vermont, UDA), 1 Mehefin 2004
- Y Ddarlith Gyhoeddus Flynyddol Gyntaf: '"Raising the Wind": Emigrating from Wales to the USA in the late nineteenth and early twentieth centuries'. Traddodwyd gan Dr Bill Jones (Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd), 20 Mai 2003
'Ailddehongli’r Wladfa Gymreig’, Medi 2021
Symposiwm amlddisgyblaethol tairieithog, wedi ei drefnu gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America mewn cydweithrediad ag Adran Ieithyddiaeth a Llenyddiaeth Prifysgol Bremen, oedd y digwyddiad hwn. Pwrpas y digwyddiad oedd dod ag academyddion o ddisgyblaethau ac o wledydd gwahanol (o Ewrop ac o Dde America) ynghyd i drafod deongliadau newydd o’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan gynnwys rhai pynciau llosg. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Zoom Webinar gyda thua 50 a fynychwyr o Gymru, Yr Ariannin, a’r Unol Daleithiau yn ymuno i wrando ar y panelwyr. Mae’r rhaglen lawn i’w gweld isod.
Amserlen Cymraeg
Prynhawn Llun 20 Medi
13.00 – Croeso gan Dylan Foster Evans (Pennaeth Ysgol y Gymraeg) ac Iwan Wyn Rees (Canolfan Uwchefrydiau Cymry America) | ||
Amser | Enw | Teitl |
13.15 | Geraldine Lublin (Abertawe; Theori Lenyddol) | Prif ddarlith: ‘Memoir and identity in Welsh Patagonia: voices from a settler community in Argentina’ |
13.55 | Toriad | |
14.00 | Sara Borda Green (Bangor; Llenyddiaeth ac Astudiaethau Ffilm) | ‘Defnyddio Patagonia yng Nghymru’ |
14.30 | Lucy Trotter (LSE ac Aberystwyth; Anthropoleg) | ‘“The community is a family and the choir is the glue”: power and belonging in Gaiman Music School, Patagonia’ |
15.00 | Toriad | |
15.10 | Ian Johnson (ysgolhaig annibynnol; Sosioieithyddiaeth) | 'Agweddau’r 21ain ganrif tuag at iaith, diwylliant a hunaniaeth Gymreig yn y Chubut' |
15.40 | Elan Grug Muse (Abertawe; Llenyddiaeth) | ‘“Plant natur”: darlunio’r bobloedd frodorol mewn llenyddiaeth daith am y Wladfa’ |
16.10 | Toriad | |
16.20 | Lucy Taylor (Aberystwyth; Gweldeidyddiaeth) | Prif ddarlith: ‘“Where the Welsh are”: the politics of indigenous experience and Welsh reminiscence’ |
19.30 | Swper |
Prynhawn Mawrth 21 Medi
Amser | Enw | Teitl |
13.00 | Marcelo Gavirati (ysgolhaig annibynnol; ante Centro Nacional Patagónico Conicet; Hanes) | Prif ddarlith: ‘Chupat-Camwy, Patagonia: historia de la coexistencia pacífica, entre galeses, pampas y tehuelches’ |
13.40 | Toriad | |
13.50 | Rhiannon Marks (Caerdydd; Theori Lenyddol) | ‘Irma Hughes de Jones: barddoniaeth “leol” mewn cyd-destun trawsgenedlaethol’ |
14.20 | Hywel Griffiths (Aberystwyth; Daearyddiaeth) | ‘Cofio llifogydd a sychder yn y Wladfa’ |
14.50 | Toriad | |
15.10 | E. Wyn James (Caerdydd; Llenyddiaeth) | ‘Creative tensions in the life and writings of Eluned Morgan (1870-1938)’ |
15:40 | Simon Brooks (Abertawe / Gwelidyddiaeth) | ‘The diaspora as scapegoat - the problem of civic nationalism and liberal universalism in Welsh leftist discourse around Patagonia’ |
16.10 | Walter Ariel Brooks (British Council Cymru; Newyddiaduraeth) | ‘Swyddogaeth y wasg ethnig Gymraeg yn y Wladfa (1868-1933)’ |
Prynhawn Mercher 22 Medi
Amser | Enw | Teitl |
13.00 | Fernando Williams (Universidad Nacional de La Plata / Centro Nacional Patagónico Conicet; Hanes) | Prif ddarlith: ‘Agua y poder en el valle del Chubut: desafíos y conflictos en torno al establecimiento y manejo de un sistema de riego’ |
13.40 | Toriad | |
13.50 | Deborah Arbes (Bremen; Ieithyddiaeth) | ‘Pluralization of loanwords in Patagonian Welsh’ |
14.20 | Iwan Wyn Rees (Caerdydd; Tafodieitheg) | ‘Y Wladfa: un o “fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol?’ |
14.50 | Toriad | |
15.00 | Guillermo Williams (Patagonia; Hanes) | Prif ddarlith: ‘Reading and writing Y Wladfa’s past: disputes over history and memory in Chubut’s Welsh Settlement’ |
15.40 | Sylwadau clo; y ffordd ymlaen a phosibiliadau ar gyfer y dyfodol |
Amserlen Sbaeneg
Tarde – lunes 20 de septiembre
13.00 – Palabras de bienvenida a cargo de Dylan Foster Evans (Director de la Facultad de Galés) y Iwan Wyn Rees (Centro de Estudios Galeses en América) | ||
Horario | Nombre | Título |
13.15 | Geraldine Lublin (Swansea; Teoría Literaria) | Conferencia magistral: ‘Memoir and identity in Welsh Patagonia: voices from a settler community in Argentina’ |
13.55 | Receso | |
14.00 | Sara Borda Green (Bangor; Estudios de Literatura y Cine) | ‘Defnyddio Patagonia yng Nghymru’ |
14.30 | Lucy Trotter (LSE & Aberystwyth; Antropología) | ‘“The community is a family and the choir is the glue”: power and belonging in Gaiman Music School, Patagonia’ |
15.00 | Receso | |
15.10 | Ian Johnson (investigador independiente; Sociolingüística) | 'Agweddau’r 21ain ganrif tuag at iaith, diwylliant a hunaniaeth Gymreig yn y Chubut' |
15.40 | Elan Grug Muse (Swansea; Literatura) | ‘“Plant natur”: darlunio’r bobloedd frodorol mewn llenyddiaeth daith am y Wladfa’ |
16.10 | Receso | |
16.20 | Lucy Taylor (Aberystwyth; Política) | Conferencia magistral: ‘“Where the Welsh are”: the politics of indigenous experience and Welsh reminiscence’ |
19.30 | Cena |
Tarde – martes 21 de septiembre
Horario | Nombre | Título |
13.00 | Marcelo Gavirati (investigador independiente; ante Centro Nacional Patagónico Conicet; Historia) | Conferencia magistral: ‘Chupat-Camwy, Patagonia: historia de la coexistencia pacífica, entre galeses, pampas y tehuelches’ |
13.40 | Receso | |
13.50 | Rhiannon Marks (Cardiff; Teoría Literaria) | ‘Irma Hughes de Jones: barddoniaeth “leol” mewn cyd-destun trawsgenedlaethol’ |
14.20 | Hywel Griffiths (Aberystwyth; Geografía) | ‘Cofio llifogydd a sychder yn y Wladfa’ |
14.50 | Receso | |
15.10 | E. Wyn James (Cardiff; Literatura) | ‘Creative tensions in the life and writings of Eluned Morgan (1870-1938)’ |
15:40 | Simon Brooks (Swansea; Política) | ‘The diaspora as scapegoat - the problem of civic nationalism and liberal universalism in Welsh leftist discourse around Patagonia’ |
16.10 | Walter Ariel Brooks (British Council Cymru; Periodismo) | ‘Swyddogaeth y wasg ethnig Gymraeg yn y Wladfa (1868-1933)’ |
Tarde – miércoles 22 de septiembre
Horario | Nombre | Título |
13.00 | Fernando Williams (Universidad Nacional de La Plata / Centro Nacional Patagónico Conicet; Historia) | Conferencia magistral: ‘Agua y poder en el valle del Chubut: desafíos y conflictos en torno al establecimiento y manejo de un sistema de riego’ |
13.40 | Receso | |
13.50 | Deborah Arbes (Bremen; Lingüística) | ‘Pluralization of loanwords in Patagonian Welsh’ |
14.20 | Iwan Wyn Rees (Cardiff; Dialectología) | ‘Y Wladfa: un o “fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol?’ |
14.50 | Receso | |
15.00 | Guillermo Williams (Patagonia; Historia) | Conferencia magistral: ‘Reading and writing Y Wladfa’s past: disputes over history and memory in Chubut’s Welsh Settlement’ |
15.40 | Palabras de cierre; perspectivas y posibilidades a futuro |
Mae manylion sylfaenol y symposiwm hwn i’w gweld yn dairieithog. Darllenwch am fanylion y symposiwm.
Mae eitem am y symposiwm hwn, ynghyd ag ymateb Dr Iwan Wyn Rees i’r digwyddiad. Darllenwch yr eitem newyddion am y digwyddiad.
Ceir hefyd ddetholiad o gyflwyniadau’r digwyddiad. Cewch wylio'r cyflwyniadau ar sianel YouTube y brifysgol.
'Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, 1865 - 2015', Gorffennaf 2015
Cynhadledd ryngwladol wedi ei threfnu gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru-Ariannin ynghyd ag Adran Diwylliant y 18ed a'r 19eg Ganrif ac Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru, oedd hon.
Rhagor o wybodaeth a manylion llawn y Gynhadledd.
Darllenwch eitem BBC Cymru Fyw am y Gynhadledd.
Gallwch wylio fideos o'r Gynhadledd ar sianel YouTube y Brifysgol.
Mae eitem am fideos y Gynhadledd sy'n rhestru'r siaradwyr a theitlau eu papurau, hefyd ar gael.
'The Welsh in Patagonia: A Symposium', Chwefror 2010
"Through the generosity of Banco Santander, a symoposium was organised to enable members of staff of the National University of Patagonia San Juan Bosco and the Cardiff Centre for Welsh American Studies to disseminate aspects of their research into the life, history and culture of the Welsh settlement which was established in Patagonia in 1865."
Cynadleddau 2001 - 2011
Rhwng 2001 a 2011 cynhaliwyd cyfres o ddeg cynhadledd flynyddol gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America. Ceir manylion amdanynt isod.
- Y Ddegfed Gynhadledd Flynyddol: 'Cymry ar Daith ar Gyfandiroedd America', 11 Tachwedd 2011
- Y Nawfed Gynadledd Flynyddol: 'Y Cymry a Rhyfeloedd America', 6 Chwefror 2010
- Yr Wythfed Gynhadledd Flynyddol: 'Y Cymry ac America Ladin', 29 Tachwedd 2008
- Y Seithfed Gynhadledd Flynyddol: 'Y Cymry a Brodorion America', 23 a 24 Tachwedd 2007
- Y Chweched Gynhadledd Flynyddol: 'Cymreigesau ar Gyfandiroedd America', 25 Tachwedd 2006
- Y Bumed Gynhadledd Flynyddol: 'Y Wladfa ym Mhatagonia: Ddoe, Heddiw ac Yfory', 24 Medi 2005
- Y Bedwaredd Gynhadledd Flynyddol: 'Cymru a'r Caribî', 27 Tachwedd 2004
- Y Drydedd Gynhadledd Flynyddol: 'Llythyr o America: Ymfudwyr o Gymru a'u gohebiaeth', 29 Tachwedd 2003
- Yr Ail Gynhadledd Flynyddol: 'Y Cymry a Chaethwasanaeth yn yr Unol Daleithiau', 30 Tachwedd 2002
- Lansiad Swyddogol a Chynhadledd Undydd Agoriadol, 19 a 20 Hydref 2001