Ewch i’r prif gynnwys

Gofod Arloesi Dŵr

Mae’r Gofod Arloesi Dŵr yn rhoi lle i randdeiliaid ac academyddion i gyd-ddylunio ymchwil ac atebion.

Mae'r Gofod Arloesi Dŵr yn galluogi academyddion a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â'r Sefydliad i gwrdd a chydweithio i gyd-ddylunio ymchwil gydag effaith.

Mae'r gofod yn cynnwys ystafell gyfarfod fawr a all gynnwys hyd at 40 o bobl ac ystafell fideo-gynadledda lai â chyfarpar llawn.

Gellir archebu ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a gweithdai gyda rhanddeiliaid ac academyddion allanol drwy gysylltu â ni:

Sefydliad Ymchwil Dŵr

Cydweithio

Mae croeso i academyddion a rhanddeiliaid ddod i'r ddesg boeth unrhyw bryd. Trwy ddarparu gofod pwrpasol i ymchwilwyr gydweithio, mae'r Gofod Arloesi Dŵr hefyd yn helpu i feithrin ymagweddau rhyngddisgyblaethol at heriau dŵr.

Mae ein tîm wedi'i leoli yn swyddfeydd cefn y Gofod Arloesi Dŵr a gallant ateb eich cwestiynau ynghylch yr ymchwil a'r prosiectau a gynhaliwyd gan ein hymchwilwyr cysylltiedig. Mae croeso i chi alw i mewn am goffi neu sgwrs.