Ewch i’r prif gynnwys

Is-strategaethau

Mae’r Ffordd Ymlaen 2018-23 yn y broses o gael ei adolygu’n strategol ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru’r tudalennau hyn yn ystod yr hydref.

Ein nod yw cyrraedd y 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn The Times and Sunday Times Good University Guide.

Ein nod yw parhau i fod ymhlith 200 uchaf y byd, fel y'u mesurir gan QS World University Rankings, the Times Higher Education World University Rankings, the Academic Ranking of World Universities and the Best Global Universities Ranking, a chyrraedd y 100 uchaf yn achos o leiaf un o’r rhain.

I gyflawni hyn, rydym yn canolbwyntio ar bum maes:

Addysg a myfyrwyr

Addysg a myfyrwyr

Bydd o leiaf 50% o'n myfyrwyr israddedig yn ymgymryd â lleoliad gwaith yn ystod eu hastudiaethau.

Cenhadaeth ddinesig

Cenhadaeth ddinesig

Y meysydd y byddwn yn eu blaenoriaethu bydd hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol, rhoi’r sgiliau cywir i gymunedau ac arwain adferiad gwyrdd wrth i'r genedl achub, adfywio ac adnewyddu ar ôl COVID-19.

Rhyngwladol

Rhyngwladol

Byddwn yn sefydlu pum partneriaeth strategol gyda sefydliadau academaidd rhyngwladol.

Ymchwil ac Arloesedd

Ymchwil ac Arloesedd

Bydd ein is-strategaeth ymchwil ac arloesedd newydd yn sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a'n bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at iechyd, cyfoeth, diogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, y DU a ledled y byd.