Ffeithiau a ffigurau
Cafodd Prifysgol Caerdydd ei rhestru yn 5ed ymhlith Prifysgolion y DU yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 wedi’i selio ar ansawdd, ac mae'n aelod o'r Grŵp Russell, sy’n grŵp o 24 o brifysgolion ymchwil y DU.
Ni yw'r nawfed prifysgol fwyaf yn y DU o ran niferoedd myfyrwyr gyda chyfanswm incwm a amcangyfrifir yn 2017/18 yn £518m.
- 33,260 o fyfyrwyr
- £150M mewn contractau ymchwil
- 81% boddhad myfyrwyr
Ein myfyrwyr
Mae gennym ni 33,260 o fyfyrwyr cofrestredig, o dros 130 o wledydd.
- 23,755 o israddedigion
- 9,505 o ôl-raddedigion
- 8,475 o fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys myfyrwyr dramor yr UE)
- 81% boddhad cyffredinol yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2020
- 1,000 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli yn y gymuned bob blwyddyn
Niferoedd myfyrwyr wedi'u cadarnhau gan HESA ar gyfer 2019/20.
Ein graddedigion
Caiff ein graddedigion eu dewis gan gyflogwyr – yn fwy felly na'r mwyafrif o brif brifysgolion eraill y DU.
- Roedd 97% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio (Arolwg Hynt Graddedigion 2017/18).
- 160,000 o gyn-fyfyrwyr ar draws y byd mewn dros 180 o wledydd
Ein hymchwil
Mae gennym gymuned ymchwil o safon fyd-eang sydd â sail ymchwil gref ac eang:
- Prifysgol sydd yn y 5 uchaf yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) am ansawdd.
- Prifysgol sydd yn ail yn genedlaethol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) am effaith.
- Cyfanswm gwerth ein dyfarniadau contract ymchwil yw £150m.
- Rydym ni wedi ennill saith Gwobr Pen-blwydd y Frenhines.
- Mae arolwg annibynnol wedi ein rhestru fel 3ydd yn y DU am lwyddiant ysgubol am ddwy flynedd yn olynol, gan fesur y gallu i drosi ymchwil yn gwmnïau gwerth uchel (Octopus Ventures, 2019, 2020).
- Rydym yn 4ydd yn y DU ar gyfer cyfanswm nifer y trwyddedau eiddo deallusol ar gyfer busnesau bach a chanolig yn 2018/19*.
- Rydym yn 11eg yn y DU ar gyfer cyfanswm nifer y ceisiadau patentau newydd a gafodd eu ffeilio yn 2018/19*.
- Rydym yn 13eg yn y DU am gyfanswm incwm eiddo deallusol yn 2018/19*.
- Rydym yn 17eg yn y DU am drosiant amcangyfrifedig (£21.3m) o'r holl fusnesau newydd i raddedigion gweithredol yn 2018/19*.
- Dau enillydd Gwobrau Nobel ymysg ein hymchwilwyr – yr Athro Martin Evans a'r Athro Robert Huber
*Addysg Uwch - Ymadwaith Cydweithredu Busnes (HE-BCI)
Hynt Graddedigion
- Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, Yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020
- Hawlfraint: Yn cynnwys Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data.