Ewch i’r prif gynnwys

Pontio o astudiaethau israddedig i ôl-raddedig

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Gall y cyfnod pontio rhwng astudio gradd israddedig ac ôl-raddedig ymddangos yn frawychus i ddechrau. Ond bydd paratoi, ac yna gwybod beth i'w ddisgwyl yn eich gosod ar y llwybr i lwyddo.

Beth i’w ddisgwyl

Traethodau ac aseiniadau hirach

Mae'n debygol y bydd eich traethodau a'ch aseiniadau yn hirach ac yn gofyn am fwy o ymchwil. Mae hyn yn gwneud astudio ôl-raddedig yn ddelfrydol ar gyfer datblygu eich sgiliau meddwl annibynnol a beirniadol.

Cymryd Nodiadau

Byddwch yn gwneud llawer o ddarllen ac ymchwil, felly mae’n bwysig iawn eich bod yn cymryd nodiadau da ac yn eu cadw'n drefnus er mwyn gweithio'n effeithiol. Ymchwiliwch i wahanol fathau o ffyrdd i gymryd nodiadau a thempledi i arfogi eich hun â'r offer cywir ar gyfer y swydd.

"Mae astudiaethau ôl-raddedig yn wahanol i astudiaethau israddedig oherwydd y pwyslais ar ddatblygiad unigol. Bellach, gan fod rhaid imi gynnal fy ymchwil annibynnol fy hun, caiff mwy ei ddisgwyl ohona’ i. Ond, mae hyn yn beth da gan ei fod yn rhoi mwy o ryddid i mi ddatblygu fy nealltwriaeth o feysydd y gwaith sy’n fy ymddiddori."

Isaac Saunders, MSc Rheoli Adnoddau Dynol

Rheoli eich amser

Bydd trefnu a rheoli amser yn sgiliau allweddol yn ystod eich astudiaeth ôl-raddedig. Efallai eich bod yn gweithio ar brosiectau gwahanol ar yr un pryd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn creu dyddiadur i gynllunio eich prosiectau.

Gwaith a chyflwyniadau grŵp

Mae gweithio ar brosiectau grŵp a chyflwyno eich gwaith yn aml yn nodwedd o astudiaeth ôl-raddedig. Bydd meddu ar ddealltwriaeth dda o sut i weithio'n effeithiol mewn grŵp, megis diffinio a dyrannu tasgau penodol, yn eich helpu i gadw ar y trywydd iawn.

“Y prif beth i ddod i arfer ag e o ran astudiaethau ôl-raddedig yw bod eich gwaith yn llawer mwy annibynnol a bod disgwyl i chi wybod sut i wneud llawer o bethau eisoes, neu ddysgu am y rheini drosoch chi eich hun. Does neb yn dweud wrthoch chi sut i fynd i’r afael â math penodol o asesiad, neu sut i fynd ati i’w ysgrifennu. Mae'r aseiniadau'n heriol ond rydw i wedi cael graddau sy’n sylweddol well hyd yma o’u cymharu â fy ngraddau israddedig – os derbyniwch chi’r her a rhoi cynnig arni, bydd hynny’n talu ar ei ganfed.” “Mae nifer y bobl sydd yn y dosbarthiadau yn llawer is nag ar astudiaethau israddedig. Dim ond tua wyth o bobl sydd yn rhai o fy narlithoedd, sy'n braf o ran yr ymgysylltu sy’n dod yn sgîl hynny. O fy mhrofiad i mae’r rhan fwyaf o diwtoriaid yn ymateb yn gyflym i ebyst ac yn awyddus i helpu myfyrwyr lle mae nhw’n gallu, sydd wedi bod yn help mawr.”

Naomi Green, Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisïau Amgylcheddol (MSc)

Cymorth o ran sgiliau astudio

Y peth pwysicaf i'w gofio yw bod digon o gymorth ar gael, o hyfforddiant sgiliau ar-alw ar-lein i weithdai ymarferol.

Mae gan ein tîm Sgiliau Astudio gyfres o sesiynau tiwtorial yn benodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, gyda chyngor ymarferol ar ddatblygu dadleuon beirniadol, ysgrifennu ar lefel ôl-raddedig, a chanfod ffynonellau priodol.

Mae’r tîm hefyd yn cynnig tiwtorialau a gweithdai am ddim drwy gydol y flwyddyn, ar bynciau gan gynnwys trefniadaeth a rheoli amser, cymryd nodiadau effeithiol, gweithio mewn grwpiau, a rhoi cyflwyniadau gwych.

Fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd, bydd gennych hefyd fynediad at LinkedIn Learning, cyfres o fwy na 5,000 o gyrsiau i'ch helpu i ddod yn ddysgwr gwell.