Ewch i’r prif gynnwys

Iaith a Chyfathrebu

Mae'r PhD mewn Iaith a Chyfathrebu yn gwahodd ymgeiswyr i ymgymryd ag ymchwil sylweddol, manwl a phenodol.

Mae diddordebau ein myfyrwyr yn eang eu cwmpas ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr galluog sydd am ymchwilio i bynciau ar draws iaith a chyfathrebu. Mae'r rhaglen PhD yn grymuso ymgeiswyr i gynhyrchu ymchwil arloesol ac i ddatblygu eu hunain fel ysgolheigion annibynnol a deallusol greadigol.

Mae'r PhD mewn Iaith a Chyfathrebu yn radd tair blynedd (llawn amser), neu 5 mlynedd (rhan amser) sy'n cynnig cyfle i ymgeiswyr ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb iddynt ac sy'n dod o fewn arbenigedd staff yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu.

Nodau'r rhaglen

  • Mae’r rhaglen ymchwil yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd i’ch arwain at rôl mewn addysg uwch, neu gyflogaeth sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch mewn ymchwil neu wybodaeth pwnc datblygedig.
  • Mae'r rhaglen yn recriwtio ystod amrywiol o fyfyrwyr Cartref/UE a rhyngwladol sydd am gymryd rhan mewn amgylchedd ymchwil a nodweddir gan arbenigedd ymchwil sy'n arwain y byd mewn meysydd cymdeithasol, cymhwysol a rhyngweithio o gyfathrebu dynol, iaith ac ieithyddiaeth.

Nodweddion unigryw

  • Rydym yn cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau ymchwil staff.
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd addysgu ar y rhaglen israddedig, a gall myfyrwyr PhD ymgymryd â rhaglen unigryw “Dysgu i Addysgu” yr Ysgol, sydd wedi’i achredu gan yr Academi Addysg Uwch.
  • Rydym yn cynnal seminarau ymchwil rheolaidd sy'n cynnwys staff a siaradwyr gwadd, ynghyd â chyfres o seminarau ymchwil ôl-raddedig wythnosol ac mae'r sesiwn academaidd yn dod i ben gyda chynhadledd ymchwil ôl-raddedig flynyddol.
  • Dyrennir man astudio i fyfyrwyr PhD llawn amser gyda chyfleusterau cyfrifiadura, gwybodaeth rhwydweithiol a mynediad at e-bost a’r rhyngrwyd
  • Mae cyllid ar gael ar draws ymgeisyddiaeth PhD i fyfyrwyr fynychu cynadleddau a gweithdai, neu i gynnal ymweliadau llyfrgell/archi sy’n ymwneud â’u hastudiaethau PhD.

I find the vibrant research community in ENCAP really motivating because it makes you feel that you are part of something exciting and gives you the opportunity to share ideas and seek advice from other researchers (both staff and students). There is a very supportive atmosphere in which you feel safe to try out ideas and seek feedback on your progress.

Emily Powell, PhD in Language and Communication

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Hydref

Mae'r PhD yn rhaglen amser llawn tair blynedd neu'n rhedeg dros bum mlynedd, yn rhan-amser.

Asesiad

Asesir y PhD drwy gyflwyno traethawd ymchwil o hyd at 80,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

Asesir yr MPhil drwy gyflwyno traethawd ymchwil o hyd at 50,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF2014), daeth yr Ysgol yn 10fed am Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Mae ansawdd uchel iawn yr amgylchedd a’n hyfforddiant ymchwil yn golygu ein bod yn ffurfio rhan o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTC) y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd (ESRC). Wrth ddilyn eich ymchwil ôl-raddedig yn y Ganolfan byddwch yn dod yn rhan o ddiwylliant ymchwil ffyniannus, wedi'i nodi am ragoriaeth ei safonau academaidd.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu yn un o’r canolfannau rhyngwladol mwyaf blaenllaw ar gyfer ymchwil, hyfforddi ac addysgu ymchwil mewn meysydd cymdeithasol, cymhwysol a rhyngweithiol cyfathrebu dynol, y cyfryngau torfol, iaith ac ieithyddiaeth. Rydym yn defnyddio theori ieithyddol ac ystod eang o ddulliau i archwilio sut mae iaith yn gweithio fel system, a sut mae’n cael ei defnyddio i ddiffinio hunaniaeth ac adlewyrchu a mowldio agweddau. Rydym yn cymhwyso ein hymchwil i heriau cymdeithasol pwysig, i gynhyrchu gwelliannau mewn meysydd amrywiol gan gynnwys dysgu iaith, gofal Alzheimer, rhyngweithio amlddiwylliannol, rhyngweithio rhwng y byd cyfreithiol a lleygwyr, a chynhwysiant cymdeithasol.

Amgylchedd ymchwil

Mae’r Ysgol yn cymryd hyfforddiant myfyrwyr ymchwil o ddifrif calon a chynigir cyfleusterau ac arweiniad goruchwylio a fydd yn eu helpu i ffynnu’n ddeallusol ac i weithio’n gynhyrchiol. Mae gan yr Ysgol gyfres bwrpasol o ystafelloedd ymchwil PhD gyda chyfleusterau rhwydweithio TG rhagorol. Mae gan bob myfyriwr gyllideb ar gyfer cynadleddau a rhoddir cyfraniad at gostau llungopïo, yn ogystal â chyfleusterau argraffu rhad ac am ddim.

Rydym yn gwirio gyda’n myfyrwyr yn rheolaidd pa hyfforddiant maen nhw ei angen, ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu. Gall ein myfyrwyr PhD wneud cais i gael profiad addysgu gyda ni, ac mae ein rhaglen “Dysgu Addysgu” wedi’i achredu gan yr Academi Addysg Uwch. Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn llawn llyfrau a chyfnodolion academaidd yn ein holl feysydd pwnc,yn ogystal â meddu ar adnoddau electronig sylweddol, a chasgliadau arbenigol fel Llyfrau Prin Caerdydd, archif gyfoethog o dros 14,000 o eitemau sy’n amrywio o incwnabwla o’r bymthegfed ganrif i lyfrau cain yr ugeinfed ganrif.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol, anogir a chefnogir ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau fydd yn eu gwneud yn gyflogadwy, beth bynnag fo cyfeiriad eu gyrfa. Rydym yn gwerthfawrogi profiad cyfoethog ein nifer o fyfyrwyr tramor, ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion penodol o ran cyd-destun diwylliannol eu hastudio a gofynion ysgrifennu’n gain mewn ail iaith.

Mae Seminar Ymchwil Ôl-raddedig wythnosol drwy gydol pob semester.

Mae nifer o grwpiau darllen ac ymchwil cynhyrchiol yn CLCR ac mae grwpiau ychwanegol yn aml yn dod i'r amlwg yn unol â buddiannau cydweithwyr ac ymgeiswyr doethurol. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y rhain ar dudalen Cydweithredu'r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu.

Mae myfyrwyr PhD yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu hefyd yn cymryd rhan mewn cynhadledd flynyddol, gan rannu eu hymchwil gyda chyfoedion sy’n fyfyrwyr, staff academaidd ac ysgolheigion gwadd, a rhanddeiliaid eraill.

Rydym hefyd yn cynnal prosiect cydweithredol dan arweiniad yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes) yn ddull rhyngddisgyblaethol, sy’n cael ei hyrwyddo gan y gymuned, o adeiladu corpws ieithyddol.

Mae astudiaeth Ôl-raddedig yn yr Ysgol yn borth i lawer o yrfaoedd yn y byd academaidd a thu hwnt.

Mae cyflogwyr enghreifftiol yn y DU yn cynnwys: Prifysgol Caerdydd, CThEM, Mencap, Poetry Wales Magazine, Teach First a Llywodraeth Cymru, gyda swyddi sy'n cynnwys Darlithydd, Dadansoddwr Gwybodaeth am Droseddau, Llyfrgellydd, Ymgynghorydd Recriwtio, Athro, Ysgrifennwr.

Mae nifer o ôl-raddedigion tramor yn dychwelyd i ddarlithio gyda rhagolygon gyrfa llawer gwell.

Doing a PhD in Language and Communication at Cardiff University provided me with the range of resources and infrastructures needed to follow and develop my research interests. The programme pushed me to achieve a high critical and intellectual level and prepared me to become a professional academic, while my colleagues, supervisors and other members of staff were supportive throughout and made my life as a PhD student both rich and enjoyable.

Jaspal Singh PhD in Language and Communication, 2017

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Fel arfer mae angen gradd anrhydedd dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch yn y DU, neu gyfwerth, mewn maes addas (megis Ieithyddiaeth, Cyfathrebu, Astudiaethau'r Cyfryngau, Ieithoedd, rhai Gwyddorau Cymdeithasol, Llenyddiaeth Saesneg a’r Dyniaethau).

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus i’r rhaglen hefyd wedi dangos bod perfformiad cryf ar lefel gradd Meistr mewn pwnc cysylltiedig i ieithyddiaeth, bydd wedi cwblhau cwrs mewn dulliau ymchwil, a bydd ganddo/ganddi rywfaint o brofiad o gynnal ymchwil empirig (o bosibl fel rhan o'r radd meistr).

Mae gofyn i bob ymgeisydd PhD feddu ar hyfforddiant ymchwil digonol.  Os nad ydynt yn meddu ar hyfforddiant o’r fath, cânt eu hystyried ar gyfer y cwrs MA mewn Ymchwil Iaith a Chyfathrebu gyda dilyniant i’r rhaglen PhD 3 blynedd. Yn ystod y flwyddyn MA, er mwyn symud ymlaen i'r rhaglen PHD, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gael isafswm marc cyffredinol o 60 neu uwch ar gyfer cam yr MA a addysgir. Os ydych yn ansicr p’un a fyddech chi’n gymwys i gael eich ystyried ar gyfer mynediad uniongyrchol i'r rhaglen PhD, gweler y siart llif.

Gofynion Iaith Saesneg

Yn achos y rhai nad yw Saesneg yn famiaith iddynt, mae sgôr gyffredinol IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr yn hanfodol.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

I gael gwybod sut i wneud cais, edrychwch ar ein canllaw i'r broses ymgeisio ôl-raddedig.

Y broses dderbyn

Mae Cyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig CLCR yn asesu pob cais, gan ystyried ansawdd a hyfywedd y prosiect ymchwil, yn ogystal â gallu'r staff i'w oruchwylio. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori â goruchwylwyr posibl. Yna, gwahoddir ymgeiswyr sy'n pasio'r cam asesu cychwynnol am gyfweliad.

Mae rhestr o oruchwylwyr posibl a’u proffiliau ymchwil ar gael ar wefan yr Ysgol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

ENCAP Postgraduate Admissions

Administrative contact

Rhian Rattray

Rhian Rattray

Postgraduate Manager

Email
rattrayr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0322

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig