Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Canser

Rydym yn arloesi dull integredig o ymchwilio i ganser gyda'r elusen ganser Cancer Research UK drwy sefydlu Canolfan Ymchwil Canser drawsddisgyblaethol.

Mae sefydlu Canolfan Ymchwil Canser y DU Caerdydd yn 2009 yn adlewyrchu safon uchel gwyddoniaeth sylfaenol a chlinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a'i nod yw darparu'r wybodaeth a gafwyd er budd cleifion. Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes gwych o hyfforddi myfyrwyr graddedig sy'n sefydlu gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd a diwydiant ledled y byd.

Nodau'r rhaglen

Nod y rhaglen hyfforddi PhD hon yw cynhyrchu arweinwyr ymchwil canser yn y dyfodol ac mae'n nodwedd ganolog o'r Ganolfan newydd.

Mae ymchwil feddygol yn dechrau ar gyfnod datblygu newydd sy'n cynnig cyfleoedd ymchwil digyffelyb ar gyfer gwyddoniaeth sylfaenol a'i defnyddio er budd iechyd.

Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, mae'n amlwg bod angen i ymchwilwyr werthfawrogi agweddau sylfaenol, trosiadol a chlinigol y pwnc. Bydd sylfaen eang ac ymwybyddiaeth o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, o sgiliau da mewn gwybodeg a dealltwriaeth o'r heriau yn y clinig yn allweddol bwysig.

Mae Prifysgol Caerdydd, gyda'i chryfderau sylweddol ar draws y disgyblaethau hyn, mewn sefyllfa dda i gynllunio a gweinyddu rhaglen hyfforddiant ymchwil a datblygu ymchwilwyr canser, a fydd yn y pen draw yn arbenigo mewn pynciau penodol mewn ymchwil sylfaenol, trosiadol neu glinigol, ac eto byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth heb ei hail o safbwynt ehangach ymchwil canser.

Nodweddion unigryw

Mae PhD Caerdydd yn dwyn ynghyd grwpiau ymchwil sy'n rhychwantu gwahanol ddisgyblaethau mewn ymchwil canser i hyfforddi a goruchwylio ymchwilwyr a chlinigwyr ôl-raddedig mewn meysydd sy'n sail i nodau strategol Canolfan Cancer Research UK Caerdydd.

Bydd pob goruchwyliwr ysgoloriaeth canser yn cael cymorth ariannol sylweddol a enillwyd mewn cystadlaethau a adolygwyd gan gymheiriaid. Felly, mae gan fyfyrwyr gyfle gwych i gymryd rhan mewn ymchwil canser sydd o'r safon ryngwladol uchaf, sy'n debygol o arwain at gyhoeddi mewn cylchgronau gwyddonol o’r safon uchaf.

Bydd ymgeiswyr a wahoddir i gael cyfweliad yn cael cyfle i gwrdd â nifer o ddarpar oruchwylwyr ac i ddewis y prosiect sy'n gweddu fwyaf i'w diddordeb o gyfres o gwestiynau gwyddonol o ansawdd uchel. Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu technegau a sgiliau ymchwil a byddwch yn cael cyfle i fynychu cyrsiau hyfforddi mewn technegau moleciwlaidd/biocemegol; gwybodeg a gwyddorau fferyllol.

Bydd tiwtorialau yn cyd-fynd â hyn, a bydd y rhain yn mynd i'r afael â meysydd penodol o ganser ac yn canolbwyntio ar gwestiynau cysyniadol newydd, cynnydd diweddar neu heriau technegol/clinigol. Y nod yw gwneud pob ymchwilydd ôl-raddedig yn ymwybodol o'r sefyllfa bresennol o ran gwybodaeth, cyfyngiadau technegol a materion sy'n dod i'r amlwg ac sydd i'w datblygu yn y dyfodol. Mae'r rhaglen wedi cael ei chynllunio i sicrhau profiad PhD rhagorol ac i'ch paratoi ar gyfer dyfodol rhagorol.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn
Cymhwyster PhD
Dyddiad(au) cau ceisiadau I'w gadarnhau ond fel arfer ym mis Chwefror

Mae ein rhaglen 4 blynedd yn darparu sylfaen ymarferol a damcaniaethol ehangach a mwy manwl mewn Bioleg Canser na rhaglenni 3 blynedd confensiynol. Yn ystod semester cyntaf Blwyddyn 1 byddwch yn derbyn darlithoedd ffurfiol mewn technegau a sgiliau ymchwil cyfredol, gan gynnwys technegau moleciwlaidd/biocemegol; gwybodeg, gwyddor fferyllol, dadansoddi tystiolaeth ac agweddau clinigol ar ganser. Bydd tiwtorialau yn cyd-fynd â hyn, a bydd y rhain yn mynd i'r afael â meysydd penodol o ganser ac yn canolbwyntio ar gwestiynau cysyniadol newydd, cynnydd diweddar neu heriau technegol/clinigol. Y nod yw gwneud pob ymchwilydd ôl-raddedig yn ymwybodol o'r sefyllfa bresennol o ran gwybodaeth, cyfyngiadau technegol a materion clinigol lle gellir gwneud cynnydd yn y dyfodol.

Yn ail ran Blwyddyn 1, byddwch yn cymryd dau brosiect cylchdro tri mis mewn labordai o fri rhyngwladol o'ch dewis. Yn ystod y cylchdroadau labordy, byddwch yn cynnal ymchwil, yn meithrin gwybodaeth am y cwestiynau y mae’r labordy’n rhoi sylw iddyn nhw, ac yn meithrin profiad uniongyrchol o’r technegau perthnasol. Bydd cylchdro'r labordy yn eich helpu i gyrraedd dewis gwybodus o'r maes bioleg canser a'r goruchwyliwr y byddwch yn ei ddewis ar gyfer eich prosiect PhD llawn yn ystod Blynyddoedd 2 i 4. Drwy gydol y blynyddoedd byddwch chi a’ch cydweithwyr yn cymryd rhan mewn seminarau wythnosol a chyflwyniadau mewn clybiau cyfnodolyn. Mae'r rhaglen wedi cael ei chynllunio i sicrhau profiad PhD rhagorol ac i'ch paratoi ar gyfer dyfodol rhagorol.

Modiwlau blwyddyn un

Bydd y modiwlau darlithio yn yr 16 wythnos gyntaf (hyd at y cylchdro labordy cyntaf) yn cwmpasu meysydd Geneteg Moleciwlaidd Canser, Trawsgludo Signalau mewn Canser, Bioleg Celloedd, Biowybodeg, Epidemioleg, Treialon Clinigol a'r broses darganfod cyffuriau.  Bydd hyfforddiant sy'n seiliedig ar sgiliau mewn Ystadegau a Thechnegau Ymchwil yn ategu'r modiwlau sy'n canolbwyntio ar faterion. Pan fydd cylchdro labordy yn dechrau yn nhymor y gwanwyn, bydd yr elfen ddarlithoedd yn cael ei lleihau a bydd yn cynnwys presenoldeb tiwtorialau â ffocws yn bennaf mewn pynciau ymchwil canser cyfredol a phresenoldeb seminarau ymchwil gan siaradwyr rhyngwladol sy'n ymweld.

Asesiad o'r modiwl

Bydd darlithoedd yn cael eu hasesu ar ffurf traethodau gorfodol. Bydd y technegau ymchwil mewn darlithoedd Biowyddorau a roddwyd ar fore Llun yn gofyn am baratoi ar gyfer sesiynau tiwtorial dydd Gwener.

Cyrsiau ychwanegol

Yn ogystal â’r darlithoedd hyn sydd wedi’u hamserlennu, bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant ffurfiol ar nifer o bynciau hanfodol (ee gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn ystafelloedd amrywiol y labordai, COSHH).  Os bydd ei angen ar gyfer prosiectau dilynol bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau cwrs hyfforddi achrededig y Swyddfa Gartref (sydd yn cael ei gynnal nifer o weithiau’r flwyddyn gan Brifysgol Caerdydd).  Bydd arholiad ffurfiol yn dilyn y cwrs dau ddiwrnod hyn, ac mae’n rhagofyniad hanfodol ar gyfer Trwydded Bersonol.

Cylchdro labordy blwyddyn un

Bydd pob ymchwilydd ôl-raddedig yn ymgymryd â dau brosiect "cylchdro" tri mis gan ddechrau yn Nhymor y Gwanwyn a fydd yn cael eu dewis o Restr Prosiectau.  Bydd pob prosiect tri mis yn golygu gwaith ymchwil rhagarweiniol i gadarnhau dichonoldeb y prosiect.  Ar ddiwedd pob prosiect cylchdro bydd yr ymchwilydd ôl-raddedig yn paratoi adroddiad byr, yn debyg i gynnig Grant Prosiect a fydd yn cynnwys dichonoldeb prosiect parhaus, disgrifiad o'r gwaith rhagarweiniol, ac esboniad o gynllun gwaith posibl ar gyfer parhau â'r prosiect am dair blynedd arall ynghyd ag amserlenni, cynlluniau wrth gefn a chostau. Caiff pob adroddiad prosiect ei asesu gan y Pwyllgor Hyfforddi a'i ddefnyddio i fonitro cynnydd myfyrwyr.  Ar ddiwedd Blwyddyn 1, bydd y myfyriwr yn dewis un prosiect ar gyfer parhau â'i ymchwil PhD (neu MPhil/MD) ym Mlynyddoedd 2-4 (neu flwyddyn 2 ar gyfer MPhil/MD), gan dybio bod y myfyriwr, y goruchwyliwr, y cyd-oruchwyliwr a'r Pwyllgor Hyfforddi yn cytuno ar ei gynllun, ei ddichonoldeb a'i gyllideb. Yn ogystal, bydd y myfyriwr yn rhoi cyflwyniad byr, PowerPoint o'r prosiect a ddewiswyd (10 munud, ac yna trafodaeth).  Bydd Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig, y myfyrwyr PhD eraill, a'r goruchwylwyr cylchdro yn mynychu'r sesiwn o gyflwyniadau.

Bydd y myfyriwr wedyn yn cael adborth ffurfiol ar yr adroddiad a chyflwyniad Pwyllgor Hyfforddi CR-UK. Bydd cyflwyniadau'n cael eu graddio naill ai fel 'Derbyn', 'Mân Ddiwygiad', 'Diwygiad Mawr' neu 'Gwrthod', a darperir adborth ar bob agwedd ar y cyflwyniad.  Bydd y ddau brosiect cylchdro yn darparu profiad uniongyrchol amhrisiadwy o dechnegau ymchwil, rhagflas ar gyfer materion ymchwil penodol, ac yn darparu dull o asesu cynnydd.

Mae cwblhau'r cylchdro a'u hadroddiadau a'u cyflwyniadau cysylltiedig yn mynd â'r myfyriwr i bwynt penderfynu hanfodol ar ddiwedd blwyddyn 1 pan fydd y myfyriwr a'r darpar oruchwyliwr/oruchwylwyr yn penderfynu, drwy gytundeb ar y cyd, ar brosiect ymchwil addas ar gyfer PhD.  Yn dilyn cytundeb y Pwyllgor Addysgu, bydd y myfyriwr yn ymgymryd â gwaith sy'n arwain at PhD confensiynol yn ystod blynyddoedd 2-4. Sylwer, nid oes angen i oruchwylwyr Blwyddyn 2-4 ddod o'r prosiectau bach (cylchdro labordy), er y byddai hynny yn rhywbeth a ddisgwylid fel arfer.

Blwyddyn 2 hyd flwyddyn 4

Yn ystod wythnos gyntaf Blwyddyn 2, bydd y myfyriwr, Cyfarwyddwr y Rhaglen a'r Dirprwy a'r darpar oruchwylwyr yn cytuno ar gynllun ymchwil. Bydd y prif oruchwyliwr yn pennu 'Ysgol Gartref' y myfyriwr ar gyfer Blynyddoedd 2-4.  Cyn hynny, yr Ysgolion Cartref i bob myfyriwr fydd Ysgol y Biowyddorau (Cyfarwyddwr Ysgol Gartref y Rhaglen a thiwtor Personol y myfyrwyr) i feithrin ymdeimlad o hunaniaeth ac i ddarparu rhwydwaith cryf o gymorth gan gymheiriaid.

Bydd ymchwilwyr ôl-raddedig anghlinigol yn dilyn PhD confensiynol, gan gyflwyno o fewn 3 blynedd (neu o bosibl MPhil ar ddiwedd blwyddyn 2). Bydd myfyrwyr clinigol yn cwblhau prosiect 1 mlynedd neu 3 blynedd sy'n arwain at MPhil/ MD neu PhD, yn y drefn honno. Bydd un cynigydd prosiect cynradd yn gweithredu fel y prif oruchwyliwr a bydd myfyrwyr yn destun prosesau lleol monitro myfyrwyr o Ysgol 'gartref' y goruchwyliwr hwnnw.  Bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad llafar o'i gynnydd yn flynyddol, yn fwyaf tebygol mewn symposiwm a drefnir gan Bwyllgor Hyfforddi Canolfan CR-UK.  Bydd cynnydd hefyd yn cael ei fonitro drwy gydol Blynyddoedd 2-4, drwy adroddiad ysgrifenedig blynyddol a chyfweliad.  Rhagwelir y bydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn symud ymlaen o statws astudiaeth MPhil i PhD ar ddiwedd Blwyddyn 2.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar gyllid gan Cancer Research UK. Rydym yn disgwyl cael cadarnhad ar ei gyfer erbyn mis Rhagfyr 2016 ar gyfer derbyn myfyrwyr ym mis Hydref 2017.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Graddedigion gwyddoniaeth

Gradd Gyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch mewn maes perthnasol (e.e. biocemeg, anatomeg, geneteg, ffisioleg, gwyddorau naturiol). Doethuriaeth hyfforddi yw hon, nid yw profiad ymchwil blaenorol yn hanfodol.

Cymrodyr clinigol

Dylai hyfforddeion fod â diddordeb mewn gyrfa academaidd glinigol a meddu ar:

  • swydd Gyfredol y Rhaglen Graidd neu Hyfforddiant Arbenigol
  • tystiolaeth o ragoriaeth a photensial academaidd uchel (e.e. Gradd Gyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch mewn BSc, papurau ymchwil ac ati)
  • profiad ymchwil o fewn prosiect BSc neu MSc israddedig
  • tystiolaeth o gyflawni Cymwyseddau Hyfforddiant Craidd/Arbenigol erbyn adeg eu penodi (ARCP neu RITA)

Gofynion Iaith Saesneg

Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb yn yr ysgoloriaeth PhD hon a ariennir yn llawn wneud cais am y Ddoethuriaeth mewn Athroniaeth gyda dyddiad cychwyn o Hydref 2017.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddarparu CV a manylion cyswllt dau ganolwr.

Cynnig ymchwil

Yn adran cynnig ymchwil eich cais, rhowch grynodeb un dudalen o'ch diddordebau ymchwil a'ch cefndir academaidd, a sut rydych chi'n credu eu bod yn rhan o PhD mewn Astudiaethau Canser.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Jo-Ann Hall

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig