Ewch i’r prif gynnwys

Hanes yr Henfyd

Wedi eich lleoli yn Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, byddwch yn ymuno â chymuned ymchwil ac academaidd fywiog, sy’n falch o’n enw da am hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

O dan oruchwyliaeth arbenigwyr, mae’n myfyrwyr ôl-raddedig yn dod ar draws cyfleoedd cyffrous i ddadlau a chyfnewid syniadau, boed hynny drwy ein Canolfannau Ymchwil sy’n gysylltiedig yn rhyngwladol neu gyfresi seminar niferus.

Mae ein prosiectau ar draws disgyblaethau yn parhau i hyrwyddo ymchwil, wedi’u cefnogi gan bartneriaid sy'n amrywio o’r Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i Ymddiriedolaeth Wellcome.

Nodau'r rhaglen

Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil (y cyfryngau,masnachol, sector cyhoeddus ac ati), gwasanaethau cyhoeddus, addysgu a’r byd academaidd.

Nodweddion unigryw

  • Mae Caerdydd yn cynnig cryfder ymchwil sylweddol yn hanes yr henfyd ac mae ganddi gysylltiadau cryf iawn gydag astudiaethau archaeoleg, hanes canoloesol ac astudiaethau crefyddol drwy’r Ganolfan ar gyfer Crefydd a Diwylliant yr Henfyd Diweddar.
  • Cwmpas cronolegol eang, o Roeg Hynafol i’r Henfyd Diweddar
  • Cyfleoedd ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol gydag astudiaethau archaeoleg, hanes canoloesol ac astudiaethau crefyddol.
  • Anogaeth a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig gan Sefydliad Clasuron a Hanes yr Henfyd Prifysgol Cymru, sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Gaerdydd mewn cysylltiad ag Adrannau Clasuron a Hanes yr Henfyd Abertawe a Llanbedr Pont Steffan.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Rydym yn cynnig ystod lawn o arbenigeddau, ond mae’r meysydd canlynol yn arbennig o gryf:

  • Hanes ac Archaeoleg Cymdeithasau Hynafol; y Weriniaeth Rufeinig ac Ymerodraeth y Cyfnodau Rhufeinig Hwyr a’r Oesoedd Canol Cynnar
  • Epigraffeg Groeg
  • Hanes Gwleidyddol a Chymdeithasol Gwladwriaethau Dinasoedd Groeg
  • Hanes ac Archaeoleg y Weriniaeth a’r Ymerodraeth Rufeinig
  • Hanes ac Archaeoleg y Cyfnodau Rhufeinig Hwyr a’r Oesoedd Canol Cynnar
  • Rhyfela’r Hynafiaeth
  • Tai a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Rhywedd a Rhywioldeb
  • Meddygaeth Hynafol.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Addas i fyfyrwyr sydd â gradd mewn Hanes yr Henfyd, y Clasuron, Archaeoleg Glasurol a Dyniaethau cysylltiedig, a disgyblaethau gwyddorau cymdeithasol.

Fel rheol, dylai ymgeiswyr fod â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth, neu gymhwyster cyfwerth, mewn maes pwnc priodol ac wedi llwyddo’n dda mewn MA.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of History, Archaeology and Religion Postgraduate Research Administrative Officer

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Eve MacDonald

Dr Eve MacDonald

Senior Lecturer in Ancient History (Study Leave 2022/3)

Email
macdonaldg1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9682

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig