Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Boblogaeth

Gallwch gynnal eich gradd ymchwil mewn Is-adran Meddygaeth Boblogaeth. Mae'r ymchwil yn ystyried yr amgylchedd cyfan lle y darperir gofal iechyd ynddo, ymhell y tu hwnt i'r unigolyn.

Mae Is-adran Meddygaeth Boblogaeth yn ceisio gwella iechyd a gofal iechyd drwy ymchwil, addysgu’n seiliedig ar ymchwil, ymgysylltu ac arloesi. Mae rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yr Is-adran yn canolbwyntio ar Atal ac ailgynllunio gwasanaethau gofal iechyd. Mae'r rhain yn cynnwys ystyried achosion problemau iechyd a sut y gallai atal leihau baich niwed, adolygu sut y caiff gwahanol gyflyrau iechyd eu trin ac edrych ar ffyrdd i wneud gofal iechyd yn well o ran ansawdd, effeithiolrwydd cost, a gwahaniaethau gofal meddygol.

Mae’r holl ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael y cyfle i gyflwyno eu gwaith yng Nghyfarfodydd Wythnosol Academaidd yr Is-adran, ac yn Niwrnod Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Meddygaeth. Mae'r strwythurau hyn yn ymestyn i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa gyda goruchwyliaeth a chymorth mentora gan uwch ymchwilwyr a gwyddonwyr clinigwyr. Mae academyddion uwch nad ydynt yn glinigol yn rhan annatod o’n tîm amlddisgyblaethol.

Mae’r holl fyfyrwyr PhD a’r ymchwilwyr ôl-ddoethurol yn cael eu goruchwylio ar y cyd gan dîm amlddisgyblaethol, ac yn mwynhau mynediad dyddiol at oruchwylwyr, adborth grŵp sensitif wrth gyflwyno yn y rhaglen seminarau wythnosol, a chefnogaeth ariannol a mathau eraill o gefnogaeth ar gyfer mynychu cyrsiau a chynadleddau ychwanegol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate research

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Yr Athro Rhian Daniel

Yr Athro Rhian Daniel

Athro Ystadegaeth

Siarad Cymraeg
Email
danielr8@caerdydd.ac.uk
Yr Athro Daniel Farewell

Yr Athro Daniel Farewell

Research Associate

Email
farewelld@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7247

Mae’r Is-adran yn ceisio cynnal ymchwil o’r radd flaenaf sy’n gymdeithasol ymatebol, yn berthnasol yn lleol, ac sy'n gymwys yn rhyngwladol. Ein nod yw cyflawni hyn drwy gynyddu ein ffocws ar y meysydd ymchwil lle mae gennym yr hanes a’r potensial cryfaf, a thrwy ddatblygu strwythurau sy'n sicrhau integreiddio rhwng disgyblaethau ac ar draws grwpiau presennol.

Mae ymchwil yn canolbwyntio ar ddwy raglen:

  • Atal
  • Ailgynllunio Gwasanaethau Gofal Iechyd
  • Plant a Chanser

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Meddygaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig