Ewch i’r prif gynnwys

Addysg Feddygol

Mae'r llwybr MPhil / PhD mewn Addysg Feddygol wedi'i leoli yn y Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME) yn yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

Gan ddod â meddygon, nyrsys, seicolegwyr, gwyddonwyr cymdeithasol ac addysgwyr profiadol ynghyd, rydym yn sicrhau bod gwaith yr ysgol yn seiliedig ar sylfeini ymchwil addysgeg cryf. Mae’r llwybr hwn yn arbennig o addas i'r rhai sydd eisoes wedi cwblhau cwrs Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol (neu gyfwerth), ac mae’n ffordd ardderchog o symud ymlaen tuag at sefydlu portffolio ymchwil mewn addysg feddygol.

Nodweddion unigryw

Mae gan y Ganolfan Addysg Feddygol broffil ymchwil addysgol o bwys. Mae academyddion a staff ymchwil o amrywiaeth o gefndiroedd yn cyfrannu at ein gweithgareddau ymchwil addysgol trawsddisgyblaethol ac eang eu cwmpas.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Michal Tombs - tombsm2@caerdydd.ac.uk.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Swyddfa Graddau Ymchwil yr Ysgol Meddygaeth

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Michal Tombs

Dr Michal Tombs

Darllenydd

Email
tombsm2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7431

Mae ymchwil addysgol yn hanfodol er mwyn gwella ymarfer proffesiynol meddygol ac iechyd, o'r ysgol meddygaeth i hyfforddiant ôl-raddedig, a datblygiad proffesiynol parhaus. Yn y Ganolfan Addysg Feddygol (C4ME), rydym yn ymroddedig i gyfrannu at y gymuned addysg ehangach drwy rannu ein canfyddiadau ymchwil a chynnwys rhanddeiliaid allweddol yn ein hymchwil addysgol. Mae ein hallbynnau ymchwil a'n henw da yn tyfu mewn pwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Meysydd ymchwil

  • Asesu mewn addysg feddygol
  • Cyfathrebu clinigol
  • E-ddysgu mewn addysg feddygol
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg feddygol
  • Efelychu a Rhyngweithio Peiriant-Dynol mewn Addysg Feddygol.
  • Addysg ryngbroffesiynol
  • Dysgu a gynorthwyir gan gymheiriaid
  • Hunaniaeth broffesiynol
  • Dewis mewn meddygaeth
  • Ail-ddilysu meddygol
  • Pontio mewn gyrfaoedd meddygol
  • Dysgu ar Sail Gwaith
  • Gwerthuso mewn Addysg Feddygol.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Meddygaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig