Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol AHRC

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr AHRC (SWW2) yn gonsortiwm sy’n cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Amgueddfa Cymru, Prifysgol Spa Caerfaddon, Prifysgol Bryste, Prifysgol Cranfield, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Reading, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.

Arts & Humanities Research Council

Trosolwg

Gan adeiladu ar y cryfderau a’r partneriaethau a ddatblygwyd ar SWW1, mae SWW2 yn cynnig efrydyddiaethau ôl-raddedig sydd wedi’i dylunio er mwyn hyfforddi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr proffesiynol yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y byd academaidd a’r sectorau diwylliannol a diwydiannol.

Mewn ymateb i feini prawf cymhwysedd newydd UKRI, mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig gostyngiadau ffioedd rhyngwladol i ymgeiswyr llwyddiannus UKRI. Bydd y ffioedd yr un peth â lefel y ffioedd cartref. Mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr waeth beth yw eu cenedligrwydd neu sefyllfa ariannol yn gallu ymgeisio am ein hysgoloriaethau UKRI. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhyngwladol arnynt.

Meysydd pwnc

Y Dyniaethau

  • Archaeoleg
  • Clasuron
  • Astudiaethau Diwylliannol ac Amgueddfa
  • Hanes
  • Astudiaethau Cyfreithiol a’r Gyfraith
  • Athroniaeth
  • Gwyddor Wleidyddol ac Astudiaethau Rhyngwladol (Diplomyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol)
  • Diwinyddiaeth a Chrefydd
  • Daearyddiaeth Ddiwylliannol

Dylunio a'r celfyddydau

  • Celfyddydau Gweledol: Hanes Celfyddyd Gain, Theori ac Ymarfer
  • Celfyddydau Gweledol: Hanes, Theori ac Ymarfer Celfyddydau Cymhwysol
  • Celfyddydau Gweledol: Hanes, Theori ac Ymarfer Celfyddydau Digidol a Ffotograffiaeth
  • Celfyddydau Gweledol (gan gynnwys Theori ac Estheteg y Celfyddydau; Celfyddydau Cymunedol a Hanes Celfyddydau Sain; Hanes, Theori ac Ymarfer ar Sail Ffilmiau ac Amser)
  • Cerddoriaeth
  • Dawns

Iaith ac astudiaethau diwylliannol

  • Ieithoedd a Llenyddiaeth (gan gynnwys Astudiaethau Americanaidd, Ysgrifennu am Fywyd, Hanes a Datblygiad yr Iaith Saesneg, Theori Llenyddol a Diwylliannol, Astudiaethau Ôl-drefedigaethol, Llenyddiaeth Gymharol, Llenyddiaeth Ganoloesol, Astudiaethau Cymharol, Rhyw a Rhywioldeb)
  • Ieithoedd a Llenyddiaeth: Astudiaethau Asiaidd a Dwyreiniol
  • Ieithoedd a Llenyddiaeth: Ethnograffeg ac Anthropoleg
  • Ieithoedd a Llenyddiaeth: Astudiaethau Celtaidd
  • Ieithoedd a Llenyddiaeth: Ysgrifennu Creadigol
  • Astudiaethau Diwylliannol (Polisi, Rheoli’r Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol)
  • Astudiaethau Diwylliannol a Diwylliant Poblogaidd

Bydd ceisiadau am fynediad ym mis Hydref 2024 yn agor ddydd Llun 27 Tachwedd 2023, ac yn cau ddydd Llun 22 Ionawr 2024.

Partneriaethau

Mae cydweithio rhwng y prifysgolion sy’n aelodau a sefydliadau partner yn ganolog i ethos y DTP, a byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm goruchwylio ar y cyd o Brifysgol Caerdydd a sefydliad arall yn y consortiwm. Gall myfyrwyr hefyd elwa ar allu defnyddiol adnoddau cyfunol y Bartneriaeth a chyfleoedd hyfforddi. Yn ogystal, bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith gydag ystod o bartneriaid yn y sectorau creadigol a diwylliannol.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr.

Cysylltwch â ni a nodwch eich diddordeb mewn Cyllid Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol AHRC De, Gorllewin a Chymru ac os ydych eisiau cael y newyddion diweddaraf am unrhyw ysgoloriaethau pellach sy'n cael eu cyhoeddi gan y cynllun.