Bwrsariaeth Bute Energy
Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi partneru â Bute Energy i gynnig bwrsariaethau hael i ddau fyfyriwr sy’n astudio Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc) yn 2025/26.
Mae Bute Energy yn gwmni o Gymru sy'n datblygu parciau ynni gwynt a solar ar y tir i gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy.
Mae'r fwrsariaeth hon ar gael i fyfyrwyr cartref sy'n byw yng Nghymru ac sy’n dilyn gyrfa ym maes cynllunio neu'r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a bydd yn cefnogi'r rhai sydd am sicrhau aelodaeth Siartredig o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).
Mae'r cyfle hwn, sydd ar gael i’r rhai sy’n astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, yn ddelfrydol ar gyfer unigolion angerddol sy'n awyddus i gyfrannu at ddyfodol maes cynllunio yng Nghymru.
Sut i wneud cais
Bydd angen i ddeiliaid cynigion Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc) sydd â diddordeb yn y fwrsariaeth ac sy’n gymwys ar ei chyfer gyflwyno cais erbyn 9:00 2 Mehefin 2025 er mwyn cael eu sgrinio ac i lunio’r rhestr fer.
Pwy sy’n gymwys
- Yn ogystal â bodloni’r meini prawf penodol ar gyfer mynediad i’w cwrs, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael cynnig lle (amodol neu ddiamod) ar y cwrs a bod wedi derbyn y lle hwnnw yn y flwyddyn y maen nhw’n gwneud cais ar ei chyfer
- Gall myfyrwyr cymwys ddilyn y rhaglen ar sail amser llawn neu ran-amser. Rhaid i ymrestru Blwyddyn 1 fod wedi dechrau yn 2025/26
- Bydd myfyrwyr ond yn gymwys os nad yw eu ffioedd dysgu yn cael eu talu gan eu cyflogwr
- Rhaid i fyfyrwyr cymwys fod o Gymru (wedi byw’n barhaus yng Nghymru am o leiaf 3 blynedd
- Mae hyn yn cynnwys amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg uwch) a chael eu hystyried yn fyfyrwyr cartref at ddibenion ffioedd dysgu ac mae’n rhaid iddyn nhw fwriadu dilyn gyrfa yng Nghymru
- Rhaid i fyfyrwyr cymwys fwriadu symud ymlaen i gael aelodaeth Siartredig o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a dilyn gyrfa ym maes cynllunio
- Ymrwymo i drafod eu profiadau ar y rhaglen a sut y bu i’r ysgoloriaeth eu cefnogi nhw i ddilyn gyrfa mewn cynllunio at ddibenion hyrwyddo’r fwrsariaeth
- Dangos diddordeb brwd ac, os yn bosibl, dangos bwriad i ddilyn gyrfa ym maes cynllunio neu yn y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru
- Cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau a nodir ar y wefan hon.
Y broses ymgeisio
- Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar restr fer gan banel Ysgol yn seiliedig ar eu cais
- Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad gan banel o staff yr Ysgol a Bute Energy
- Bydd y panel yn penderfynu ar ddyfarniad yr ysgoloriaeth
- Bydd penderfyniadau yn seiliedig ar y meini prawf cymhwysedd a’r cyfweliad. Mae penderfyniad y panel yn derfynol ac ni fydd yn rhaid i’r panel roi rhesymau dros eu penderfyniadau
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu dros e-bost, a byddan nhw hefyd yn cael manylion am pa bryd y bydd taliadau'n cael eu gwneud
- Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i'r Telerau ac Amodau hyn cyn y gwneir unrhyw daliadau
- Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i Amodau Derbyn y fwrsariaeth cyn y gwneir unrhyw daliadau.
Telerau ac amodau gweithredol Bwrsariaeth Bute Energy
- Dyfernir bwrsariaethau i fyfyrwyr llwyddiannus, yn amodol ar argaeledd y dyfarniadau cyfyngedig
- Telir y fwrsariaeth yn uniongyrchol tuag at ffioedd dysgu myfyrwyr a godir gan Brifysgol Caerdydd
- Ni fydd taliadau bwrsariaeth yn cael eu gwneud os bydd myfyriwr yn ailadrodd y flwyddyn. Os bydd y myfyrwyr eisoes wedi gwneud unrhyw daliadau tuag at ffioedd dysgu, bydd y rhain yn cael eu had-dalu'n uniongyrchol i'w cyfrif banc. Bydd y tîm cyllid yn cysylltu â'r myfyrwyr ynglŷn â’r trafodion hyn
- Bydd Prifysgol Caerdydd yn hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosibl o sut a phryd y gwneir y taliadau hyn
- Rhaid i fyfyrwyr sy'n derbyn y fwrsariaeth fod wedi cwblhau eu cofrestriad i flwyddyn gyntaf eu cwrs i gael y fwrsariaeth. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru'n llawn ar bob blwyddyn o'u cwrs (os ydyn nhw’n rhan amser) i barhau'n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth. Mae hyn yn golygu llenwi'r ffurflen gofrestru ar-lein a rhoi tystiolaeth wreiddiol o'u hunaniaeth bersonol yn unol â rheoliadau'r Brifysgol, a thalu’r balans sy'n weddill o unrhyw ffioedd
- Ni fydd myfyrwyr sy'n tynnu'n ôl o'u hastudiaethau cyn derbyn taliad llawn o'r dyfarniad, yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth a bydd unrhyw daliadau ychwanegol yn cael eu terfynu. Ni fydd amgylchiadau esgusodol yn cael eu hystyried
- Ni fydd myfyrwyr sy'n trosglwyddo i gwrs anghymwys cyn derbyn taliad llawn o'r dyfarniad, yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth
- Bydd ymgeiswyr sy'n derbyn y fwrsariaeth yn dal i fod â hawl i wneud cais am fenthyciadau myfyrwyr, ysgoloriaethau a bwrsariaethau eraill, yn amodol ar eu cymhwysedd
- Mae penderfyniad y Brifysgol ar ddyrannu'r fwrsariaeth yn unol â'r telerau a’r amodau hyn yn derfynol. Ni fydd unrhyw broses apelio.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth am fwrsariaeth Ynni Bute, cysylltwch â ni.