Stori Emma
Gwyliwch fideo Emma.
Mae prosiect y flwyddyn olaf Emma, sef yr ap Videobrix, yn galluogi defnyddwyr i reoli sgriniau mawr digidol o’u cartrefi.
Doedd Emma ddim yn sicr beth roedd hi am ei wneud ar ôl cwblhau ei Lefel A, nac yn sicr a oedd hi eisiau mynd i brifysgol, felly penderfynodd hi gymryd blwyddyn allan.
Yn ystod ei hamser i ffwrdd o’i hastudiaethau, sylweddolodd Emma ei bod hi eisiau dysgu sut i adeiladu meddalwedd. Roedd yn hanfodol i Emma bod y radd roedd hi’n dewis ei hastudio yn ymarferol iawn, fel y gallai ddefnyddio’r hyn roedd hi’n ei ddysgu am swydd datblygwr meddalwedd yn syth.
“Edrychais ar y cwrs hwn [BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol] a mynychu’r Diwrnod Agored. Disgynnais mewn cariad â’r lle pan welais y byrddau gwyn ar y waliau y gallwch ysgrifennu arnynt. Wrth weld y dechnoleg a’r bobl yma - roedd yn berffaith ar gyfer beth roeddwn i eisiau ei wneud,” eglurodd Emma.
Mae prosiect y flwyddyn olaf Emma, sef yr ap Videobrix, yn galluogi defnyddwyr i reoli sgriniau mawr digidol o’u cartrefi.
Dywedodd Emma, “Fe wnaethon ni greu ap gwe sy’n eu helpu nhw [y defnyddwyr] gysylltu â’r hysbysfyrddau o bell. Yn hytrach na gorfod dringo i fyny ysgol fawr i allu newid y fideos, gall rywun lwytho fideo i fyny, a rheoli rhestrau chwarae ac ati.
Fe wnaethon ni gyflawni hyn drwy ddefnyddio gwefan React JS sy’n cysylltu i Raspberry Pi ac yna i’r sgrîn LCD. Roedd yn eithaf heriol yn dechnegol ond yn hwyliog iawn i weithio gydag ef. Roedd yn brosiect da iawn yn y diwedd, ac rwy’n gobeithio eu bod nhw [y cleient] yn ei hoffi.”