Ewch i’r prif gynnwys

Stori Jamie

Gwyliwch fideo Jamie.

Roedd prosiect Jamie yn cynnwys gweithio gyda’r GIG i ddatblygu ap i gleifion allanol sy’n gallu cadw golwg ar eu hiechyd ar ôl iddynt gael triniaeth cemotherapi.

Roedd yr ap yn galluogi cleifion i recordio’r hyn roedden nhw’n ei fwyta ac yfed, eu gweithgareddau corfforol a ffeithiau iechyd eraill er mwyn helpu i nodi tueddiadau ac i wella gofal.

Dywedodd Jamie, “Yr hyn sy’n ei wahaniaethu [BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol] rhwng graddau eraill yw ei fod wedi ei seilio ar brosiectau go iawn gan gleientiaid go iawn. Pan fyddwn ni [y myfyrwyr presennol] yn mynd i swyddi, bydd gennym ni arferion busnes sy’n debycach i rai’r gweithle.

Rydyn ni’n dysgu arferion ystwyth perthnasol ac ieithoedd [rhaglennu] sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.”

Roedd Jamie yn hapus o gael gweithio ar brosiectau go iawn y gall cleientiaid eu defnyddio. Dywedodd, “Dydyn ni ddim yn unig yn [datblygu meddalwedd] i fodloni gofynion canlyniadau academaidd, rydyn ni’n [datblygu meddalwedd] i bobl go iawn gael eu defnyddio."

Maen nhw [y myfyrwyr] yn gorffen eu cynllun gradd gyda’r holl sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio mewn tîm datblygu meddalwedd.

Richard James, Rheolwr Tîm y We, Admiral.