Stori Allyson
Gwyliwch fideo Allyson.
Amcan prosiect y flwyddyn olaf Allyson, sef ap Gwasanaeth Gofal Symudedd ar gyfer Cleifion Canser, yw helpu cleifion canser i gynnal eu hiechyd ar ôl iddynt gael triniaeth cemotherapi.
Meddai Allyson, “Byddwn yn bendant yn argymell yr AMG. Mae’r cwrs [BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol] yn gwrs gwych, ac mae’n unigryw iawn. Rwyt ti’n dysgu sut i raglennu a sut i weithio gyda’r diwydiant. Mae hefyd yn dy baratoi ar gyfer y byd go iawn, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth nad oes llawer o gyrsiau eraill yn ei wneud yn dda.”
Ychwanegodd, “Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda gwahanol bobl. Rwyt ti’n bendant yn dysgu sut i gydweithio a sut i ddelio â gwahanol sefyllfaoedd.”
Mae dull unigryw yr AMG o ddysgu ar sail prosiect wedi helpu i roi hwb i hyder Allyson yn ei gallu ymarferol. Eglurodd, “rwyf bellach yn teimlo’n fwy hyderus wrth fynd at gleientiaid, ac mae gen i’r hyder fy mod yn gallu cynhyrchu rhywbeth y mae’r cleient ei eisiau.”
Mae cwblhau prosiectau a chyfnodau mewn lleoliadau gwaith gyda busnesau lleol yn ystod y cwrs wedi galluogi Allyson i adeiladu ei rhwydwaith proffesiynol. Mae Allyson yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’i chyfleoedd swyddi, gan ychwanegu “mae gennym ni [y myfyrwyr presennol] gyfle da o gael gwaith ar ôl cwblhau’r cwrs. Mae’r sicrwydd gwaith yn dda.”